Bydd gofyn i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ddweud eu dweud ar gynllun beiddgar i drawsnewid y ffordd y caiff Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor ei ddarparu yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae Caerffili yn gweithredu 18 o lyfrgelloedd ar wahân ledled y Fwrdeistref Sirol – un o'r niferoedd uchaf o safleoedd yng Nghymru. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ‘LibraryLink’ arbennig a gwasanaeth llyfrgell digidol, gyda chyllideb gyffredinol o £3.4 miliwn ar gyfer llyfrgelloedd.
Yng nghyd-destun cyflawni arbedion gwerth £45 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf, mae'r Cyngor wedi cytuno i adolygu ei Wasanaeth Llyfrgelloedd presennol fel rhan o raglen drawsnewid fawr.
Mae gweledigaeth strategol newydd wedi'i datblygu ac, yn amodol ar gytundeb y Cabinet yr wythnos nesaf, bydd gofyn i drigolion ddweud eu dweud fel rhan o ymgynghoriad mawr a fydd yn agor ar 22 Hydref.
Mae 4 amcan allweddol yng Ngweledigaeth Strategol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, sef:
- Gwella a datblygu’r gwasanaethau llyfrgelloedd a’r arlwy sydd ar gael.
- Helpu trigolion i gael mynediad at wybodaeth, cyngor, a chymorth mewn lleoliad Hwb.
- Rhoi anghenion y gymuned wrth galon ein hybiau canol trefi, er mwyn cynorthwyo ac annog rhagor o wytnwch i unigolion trwy gymorth a chyfeirio.
- Rhesymoli nifer yr adeiladau i wneud y mwyaf o adnoddau a gwella'r arlwy cyffredinol.
Bydd yr ymgynghoriad yn helpu’r Cyngor i ddeall anghenion y gymuned yn well er mwyn llywio datblygiad y weledigaeth Hwb – model sydd wedi'i brofi’n llwyddiannus ar safle Hwb poblogaidd y llyfrgell yn Rhymni.
Mae'r weledigaeth yn nodi y byddai datblygu'r model Hwb yn arwain at leihau lleoliadau llyfrgelloedd yn gyffredinol, er mwyn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ddatblygu hybiau canol tref gwell gan ddarparu dull siop-un-stop ar gyfer gwasanaethau cymunedol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Carol Andrews, “Wrth archwilio’r weledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth llyfrgelloedd, roedd yn amlwg eu bod nhw eisoes wedi dod yn llawer mwy na lleoedd i fenthyca a darllen llyfrau.
Rydyn ni wedi gweld sut mae esblygiad gwasanaethau digidol wedi gwella’r arlwy a chreu gwasanaethau sy’n llawer mwy cynhwysol. Rydyn ni am fynd â hynny un cam ymhellach a chreu amgylchedd Hwb sy’n gweithredu fel siop-un-stop i drigolion. Gofod cynnes a chroesawgar sy’n darparu mynediad parod at wasanaethau mewn lleoliad canol tref gyda mynediad hawdd at gysylltiadau trafnidiaeth lleol”.
Aeth ymlaen i ddweud, “Mae’n amlwg bod y pwysau ariannol wedi ein harwain ni i ystyried yr opsiynau i ddiogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ac mae hynny’n cynnwys y posibilrwydd o resymoli nifer y safleoedd sydd gennym ni. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn i ni geisio amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y cynnig, er mwyn i ni allu cael gwell dealltwriaeth o anghenion ein trigolion.”
Bydd y Cabinet yn cwrdd i ystyried cytuno i'r ymgynghoriad ddydd Mercher 16 Hydref. Mae’r adroddiad perthnasol, gan gynnwys y weledigaeth ddrafft, ar gael yma https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=14440&LLL=0