News Centre

Mae gwaith uwchraddio nwy yn dechrau ar Heol Pontygwindy, Caerffili

Postiwyd ar : 01 Hyd 2024

Mae gwaith uwchraddio nwy yn dechrau ar Heol Pontygwindy, Caerffili

Bydd Wales & West Utilities yn dechrau ar y gwaith o uwchraddio pibellau nwy yn ardal Heol Pontygwindy, Caerffili, fis nesaf.

Mae'r gwaith buddsoddi, sydd werth £350,000 ac sy'n dechrau ar 7 Hydref, yn hanfodol i gadw'r nwy i lifo'n ddiogel ac mewn modd dibynadwy i gartrefi a busnesau lleol, gan gadw pobl yn gynnes am genedlaethau i ddod. Heb unrhyw anawsterau peirianyddol, bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae Wales & West Utilities wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a bydd gwaith yn digwydd yn Heol Pontygwindy, Virginia View a Rhos Street. Cafodd ei gytuno y bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen a dylai modurwyr ganiatáu amser teithio ychwanegol.

Dywedodd Andrew Coleman, sy'n rheoli'r gwaith uwchraddio pibellau nwy hwn ar ran Wales & West Utilities,

“Rydyn ni'n gwybod nad yw gweithio mewn ardaloedd fel hyn yn ddelfrydol, ond mae'n wirioneddol hanfodol gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'r nwy i lifo i gartrefi a busnesau yn yr ardal ac i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith nwy yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd gennym ni dîm o beirianwyr nwy ar y safle drwy gydol y prosiect i sicrhau bod ein gwaith ni'n cael ei gwblhau mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl, ac ar yr un pryd, i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.

“Er bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith nwy o dan y ddaear ac allan o'r golwg, mae'n chwarae rhan ganolog ym mywyd pob dydd pobl ledled ardal ehangach Caerffili. P'un a yw ar gyfer gwresogi'ch cartref, paratoi cinio i'r teulu neu gael bath poeth, rydyn ni'n deall pa mor bwysig yw cael cyflenwad nwy diogel a dibynadwy, a'i fod ar gael pan fydd ei angen arnoch chi.

“Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i gadw'r nwy i lifo i gartrefi a busnesau lleol heddiw ac i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith nwy yn barod i gludo hydrogen a biomethan, fel y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan mewn dyfodol gwyrdd.”[AP1] 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith, mae Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Wales & West Utilities yn barod i ateb eich galwad. Gallwch chi gysylltu â nhw ar radffôn 0800 912 2999.

Fel arall, gallwch chi gysylltu â nhw drwy X, Twitter gynt, @WWUtilities neu www.facebook.com/wwutilities.

Mae Wales & West Utilities, y gwasanaeth brys ar gyfer nwy a phiblinellau, yn dod ag ynni i 7.5 miliwn o bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr. Os ydych chi'n arogli nwy neu'n amau bod carbon monocsid yn bresennol, ffoniwch  0800 111 999 ar unwaith, a bydd y peirianwyr yno i helpu unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.



Ymholiadau'r Cyfryngau