News Centre

Menter amlasiantaeth newydd yn mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol

Postiwyd ar : 01 Hyd 2024

Menter amlasiantaeth newydd yn mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol

Rydym wedi lansio menter newydd i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol a gwella diogelwch yn Rhymni.

Nod Clirio, Cynnal, Adeiladu, prosiect tri cham a gynlluniwyd gan y Swyddfa Gartref yw lleihau troseddu ac adfywio ardaloedd y mae trosedd ac anhrefn yn effeithio arnynt.

Bydd y fenter amlasiantaethol, a elwir yn lleol yn Parchu Rhymni, yn ein gweld yn cyflawni ystod o ymgyrchoedd heddlu i dargedu grwpiau troseddau, tarfu arnynt  a’u hatal rhag gweithredu, ac adfer balchder yn y gymuned.

Dechreuodd swyddogion ymgyrch orfodi Parchu Rhymni'r dros gyfnod o ddau ddiwrnod yr wythnos diwethaf trwy gynnal gwarant mewn cyfeiriad yn Rhymni.

Wrth chwilio'r eiddo ddydd Iau 26 Medi, fe wnaethom ganfod swm sylweddol o gyffuriau dosbarth B, arian parod, offer pecynnu a geriach cyffuriau. Cafodd dyn 54 oed o Rymni ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi, mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad ers hynny. 

Yn ystod y diwrnodau gweithredu cychwynnol, cafodd siopau a thafarndai lleol ddeunydd addysgol ynghylch fêps a gwerthiannau dan oed gan ein swyddogion ni a Safonau Masnach. Gwnaed ymweliadau tenantiaeth ar y cyd â thimau tai'r cyngor a'r gwasanaethau ieuenctid, a siaradwyd â nifer o drigolion am bryderon ynghylch bridio cŵn.

Cafodd pedwar eu harestio dros y deuddydd am droseddau yn amrywio o ddwyn o siopau i yrru dan ddylanwad cyffuriau. Rhoddodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) sawl dirwy am droseddau teiars.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stevie Warden:

“Mae pawb sy'n ymwneud â Pharchu Rhymni wedi ymrwymo i wneud y gymuned hon, sydd wedi'i heffeithio gan droseddau difrifol a chyfundrefnol, yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Mae llawer o waith da eisoes wedi'i wneud yn Rhymni, ac mae swyddogion wedi gweithio'n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i ymchwilio, arestio a dedfrydu wyth aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol i gyfanswm o 30 mlynedd a saith mis yn y carchar.

“Mae'r gwaith hwn wedi arwain at leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

“Ond ni allwn orffwys am eiliad a rhaid parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod Rhymni yn parhau i fod yn amgylchedd digroeso i droseddwyr.

“Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i roi gwybodaeth i ni, waeth pa mor fach, i'n helpu i ddatblygu ein darluniau cudd-wybodaeth fel y gallwn weithredu a thynnu troseddwyr oddi ar ein strydoedd.”

Beth ydyn ni'n ei wneud fel rhan o Parchu Rhymni?

  • Mae tri cham i’r gwaith rydym yn ei wneud fel rhan o fenter Parchu Rhymni.
  • Drwy fynd ar ôl aelodau gangiau yn ddiflino, byddwn yn clirio’r ardal o droseddau difrifol.
  • Bydd ein gweithgarwch gorfodi ac ymgysylltu yn parhau er mwyn cynnal yr ardal ac atal grwpiau troseddau cyfundrefnol eraill rhag llenwi’r bwlch.

Drwy weithio gyda phreswylwyr a phartneriaid, byddwn wedyn yn gweithio i adeiladu ardal fwy llewyrchus y mae’r trigolion yn falch ohoni ac sy’n llai agored i gael ei hecsbloetio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol.

Pwy sy'n rhan o'n prosiect Clirio, Cynnal ac Adeiladu

Mae'r partneriaid sy'n ymwneud â Pharchu Rhymni yn cynnwys tîm Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach, Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Ieuenctid CBSC, Gorfodi Tai a Tenantiaeth CBSC, Timau Trwyddedu CBSC, DVSA a mwy.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Parchu Rhymni | Heddlu Gwent, dilynwch @gwentpolice ar X, Facebook ac Instagram.

Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am drosedd yn eu hardal gysylltu â ni ar 101, neu Crimestoppers yn ddienw, ar 0800 555 111. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.




Ymholiadau'r Cyfryngau