Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2024
Tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeith
News Centre
Tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Postiwyd ar : 07 Hyd 2024
Mae tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawreddog yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, a fydd yn cael ei gynnal ar 8 Hydref yng Nghlwb Rygbi Coed Duon. Mae’r seremoni wobrwyo yn dathlu cyfraniadau eithriadol gwirfoddolwyr ledled ardal Gwent, ac mae’r enwebiadau hyn yn amlygu gwaith anhygoel unigolion a grwpiau yn y gymuned.
Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae Sian Mainwaring, cyfaill 1:1 a chafodd ei henwebu ar gyfer y Wobr Iechyd a Lles. Cafodd Sian ei henwebu gan Dorothy, ei chleient 97 oed, a enillodd wobr debyg flynyddoedd yn ôl ac a oedd am gydnabod ymroddiad Sian. Dros amser, mae Sian a Dorothy wedi ffurfio perthynas agos, gyda Sian yn ymweld â Dorothy yn wythnosol ac yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol. Mae'r wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n helpu eraill i ymdopi â heriau bywyd, gan gynnig gofal a thosturi i wella iechyd a lles.
Mae Grŵp Cymdeithasol Dwyrain Caerffili wedi'i enwebu ar gyfer y Wobr Eiriolwr Cymunedol. Mae’r grŵp wedi goresgyn adfyd sylweddol, gan gynnwys colli eu canolfan gymunedol flaenorol a’r staff a oedd yn eu cynorthwyo nhw, yn enwedig yn ystod y pandemig. Er gwaethaf yr heriau hyn, maen nhw wedi cadw’r grŵp yn fyw, gan sicrhau cyllid a lleoliad newydd cynaliadwy lle maen nhw’n parhau i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau. Mae'r wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n cyfrannu at y gymuned trwy helpu eraill i ddod o hyd i ymdeimlad o berthyn, parch a gwerth.
Fe wnaeth y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau ganmol y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud, “Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld Sian Mainwaring, Grŵp Cymdeithasol Dwyrain Caerffili a Valley Daffodils yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol. Mae eu hymrwymiad i gynorthwyo eraill yn ein cymuned trwy eu gwaith gwirfoddol yn rhyfeddol. Mae Gofalu am Gaerffili yn falch o gynorthwyo unigolion a grwpiau mor ymroddedig, a dymunwn bob lwc iddyn nhw yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.”
Bydd cynrychiolwyr Gofalu am Gaerffili yn mynychu'r seremoni i gefnogi'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae pob un ohonyn nhw’n dangos pŵer cymuned a gwirfoddoli wrth drawsnewid bywydau.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Tîm Cysylltu Bywydau yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Gofal Cymru
Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Diweddariad
Anrhydeddu Ysgol Gynradd Fochriw â Gwobr The Daily Mile Children’s Fit for Life Award’
Menyw o Goed Duon yn euog o fridio cŵn heb drwydded a throseddau lles anifeiliaid
Gweddnewid cofeb ryfel Rhisga
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y