News Centre

Mynegi eich barn ar ddyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn

Postiwyd ar : 10 Hyd 2024

Mynegi eich barn ar ddyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn
Mae trigolion yn cael eu hannog i fynegi eu barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Ffordd Goedwig Cwmcarn, gyda nifer o sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn yr atyniad poblogaidd i ymwelwyr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Dan y cynlluniau uchelgeisiol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio i ddod o hyd i bartner sector preifat i wella Ffordd Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwmcarn ymhellach.
 
Mae sesiynau galw heibio anffurfiol, lle gall y cyhoedd alw heibio a thrafod y cynigion, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Mercher 16 Hydref, 2pm–4pm
Dydd Sul 20 Hydref, 10am–12pm
Dydd Gwener 25 Hydref, 10am–12pm
 
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r sesiynau galw heibio, gysylltu â'r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864354.


Ymholiadau'r Cyfryngau