News Centre

Gwahoddiad i drigolion Caerffili i fod yn rhan o lunio dyfodol rhwydwaith trafnidiaeth y dref

Postiwyd ar : 10 Hyd 2024

Gwahoddiad i drigolion Caerffili i fod yn rhan o lunio dyfodol rhwydwaith trafnidiaeth y dref
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i helpu i archwilio ffordd newydd o gyfri symudiadau cerddwyr, beiciau a cheir yng Nghaerffili.
 
Mae’r cynllun peilot hwn yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd 2035 Tref Caerffili, sy’n anelu at gydweithio â thrigolion Caerffili i adeiladu tref sy’n lle gwych i bawb fyw, gweithio ac ymweld â hi.
 
Mae’r Cynllun Creu Lleoedd wedi profi llwyddiant hyd yn hyn gydag agoriad Ffos Caerffili ym mis Ebrill eleni ac mae bellach yn canolbwyntio ar ei flaenoriaethau nesaf sy’n cynnwys traffig, trafnidiaeth, a symudiadau yn, ac o gwmpas Caerffili.
 
Rhan allweddol o’r cynllun yw adeiladu seilwaith trafnidiaeth a datblygu llwybrau teithio sy’n addas a hynny mewn ymateb i anghenion y dref heddiw, yfory, ac yn y dyfodol.
 
Gofynnir i drigolion, busnesau, a sefydliadau eraill mewn tair ardal darged wirfoddoli i osod dyfais fach i fonitro traffig yn eu ffenestri er mwyn cyfri nifer y cerddwyr, beiciau a cheir (yn ogystal â defnyddwyr ffyrdd eraill) sy'n pasio bob dydd.
 
Dywedodd Hamish Munro, Rheolwr Rhaglen Creu Lleoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
 
“Bydd defnyddwyr ffyrdd yn cael eu cyfri yn ddienw, ac nid oes unrhyw ddelweddau na fideos y gellir eu hadnabod yn cael eu cadw na'u trosglwyddo o'r dyfeisiau.
 
“Mae'r dyfeisiau'n fach, yn gynnil, ac ni fyddant yn storio unrhyw wybodaeth bersonol na phreifat gan y rhai sy’n eu gosod na'r bobl y mae'n eu cyfri - gan gynnwys data ANPR ac wynebau, ni all y ddyfais eu hadnabod nhw ychwaith.
 
“Mae’r cynllun peilot yn cael ei gynnal ar draws tair ardal yn nhref Caerffili. Os ydych yn byw neu’n gweithio yn un o’r ardaloedd a amlinellir ar y map isod, hoffai’r tîm sy’n arwain y prosiect glywed gennych chi.”

map-teelraM.png

Gofynion Technegol

Mae angen gosod y synwyryddion dan do a'u gosod ar y tu mewn i ffenestr sy'n edrych allan ar y stryd. Yn gyffredinol, mae'r gofynion technegol yn cynnwys:
 
• Golygfa glir (dim llenni, dim caeadau, dim coed mawr ayb) o'r stryd
 
• Lleoliad llawr 1af / 2il fel bod golygfa dda
 
• Ddim yn rhy bell o'r stryd (uchafswm +-15m)
 
• Mae angen anelu'r camera at ganol y ffordd
 
• Ddim yn agos at oleuadau traffig neu gyffyrdd
 
• Dim symudiad nad yw'n gysylltiedig â thraffig (e.e., baneri, arwyddion neu fflagiau)
 
• Pŵer o soced cyfagos
 
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd James Pritchard:
 
“Er mwyn datblygu cynigion ar gyfer dyfodol canol y dref, bydd asesu symudiadau yn y dref yn rhan allweddol o’r sylfaen dystiolaeth.
 
“Mae angen i ni ystyried cwestiynau allweddol, er enghraifft a oes gormod o draffig yn y dref? A ellir ystyried gwneud y dref yn fwy addas i gerddwyr? A yw'r trefniadau traffig presennol yn caniatáu i'r dref gyrraedd ei llawn botensial?
 
“Mae angen i ni ymgysylltu â’n trigolion i drafod y ffordd ymlaen.
 
“Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i greu tref fwy cynaliadwy, diogel a hygyrch i bawb ei mwynhau.”
 
Gofynnir i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn ymuno i gysylltu â Wilf Meaden drwy caerphilly@telraam.net neu 01179157687


Ymholiadau'r Cyfryngau