News Centre

Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor

Postiwyd ar : 04 Hyd 2024

Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo ei Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol yn swyddogol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr am 12 wythnos ac ystyried adborth gan drigolion yn fanwl.
 
Fe gymeradwyodd y Cyngor llawn y strategaeth ar 1 Hydref 2024. Mae’n gosod cynllun hirdymor y Cyngor i ragori ar y targedau ailgylchu a datgarboneiddio statudol wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru.
 
Mae’r strategaeth wedi’i seilio ar bum amcan craidd:
  • Lleihau cynnydd o ran gwastraff yn gyffredinol.
  • Cynyddu cyfraddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
  • Hybu cyfran ac ansawdd y deunydd sy'n cael ei ailgylchu.
  • Gwella’r defnydd o ynni adnewyddadwy.
  • Rhoi cymorth i drigolion reoli eu gwastraff mewn ffordd sy’n fwy cynaliadwy. 

Yn dilyn cyfarfod Cabinet ar 18 Medi, fe gymeradwyodd y Cyngor amrywiaeth o argymhellion ychwanegol i fynd i'r afael â phryderon wedi’u codi gan y gymuned yn ystod y broses ymgynghori, gan sicrhau bod y strategaeth yn gweithio i'r holl drigolion.
 
Mae'r ychwanegiadau hyn yn cynnwys y canlynol:
  • Cyflwyno amcan strategol ychwanegol sy’n targedu sut i ymdrin â gwastraff y tu allan i’r cartref (gan gynnwys glendid strydoedd).
  • Ystyried y goblygiadau storio a allai ddigwydd o ganlyniad i wahanu ailgylchu.
  • Ymestyn casgliadau gwastraff o’r ardd yn ystod y flwyddyn i wrthbwyso'r gostyngiad mewn casgliadau.
  • Rhagor o ystyried o ran cymorth i deuluoedd mwy ac aelwydydd hŷn. 
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd,
 
 “Rydyn ni wrth ein bodd yn symud ymlaen gyda’n strategaeth gwastraff newydd, sydd wedi cael adborth gwerthfawr gan drigolion, wrth i ni barhau i weithio tuag at ragori ar ein targedau ailgylchu statudol gan Lywodraeth Cymru.
 
“Mae’r Strategaeth yn amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu cyrraedd targedau statudol yn y dyfodol, yn ogystal â rhagori arnyn nhw, trwy wahanol fesurau  a fydd yn cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allbwn gwastraff cyffredinol.
 
“Mae’r gofynion ariannol sydd wedi’u hamlinellu o fewn y strategaeth yn angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys gwariant cyfunol o gyllid y Cyngor, cyllid Llywodraeth Cymru a benthyca a fydd, yn y pen draw, yn cyfrannu at ddiogelu Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor ar gyfer y dyfodol i drigolion.”
 
Mae'r strategaeth gymeradwy yn cynnwys buddsoddiad gwerth £24.8 miliwn gan y Cyngor gyda chyfraniad o £27.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ariannu datblygu cyfleuster ailgylchu newydd, newid i gerbydau allyriadau isel iawn a'r seilwaith angenrheidiol i gyflawni'r newidiadau uchelgeisiol hyn.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i: 
https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=127&MId=14406&LLL=1
 


Ymholiadau'r Cyfryngau