News Centre

Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn

Postiwyd ar : 15 Mai 2024

Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun blaenllaw ar gyfer byw bywyd hŷn ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda'r arbenigwr adeiladu, Willmott Dixon, i gyflawni'r cynllun arloesol. Mae'r cynllun wedi ei ddylunio â'r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a chadw costau tanwydd preswylwyr i'r lleiafswm.   Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr.
 
Mae amrywiaeth eang o fannau cymunedol dan do ac awyr agored wedi’u hymgorffori yn y cynllun, i wella iechyd a lles preswylwyr a hwyluso rhyngweithio â’r gymuned ehangach. Wrth galon y cynllun, bydd gardd gymunedol gyda phlanhigion a mannau eistedd, gan gynnwys man ymgynnull cymunedol. 
 
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys 45 o fflatiau ag un ystafell wely a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy'n mynd i gau.
 
Mewn digwyddiad arloesol diweddar ar y safle, dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae heddiw yn nodi carreg filltir arwyddocaol arall yng nghynlluniau uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili dros y deng mlynedd nesaf. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y datblygiad hwn yn cael ei gyflawni ac at ddychwelyd i weld preswylwyr wedi’u hymgartrefu yn eu cartrefi newydd.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Bydd y datblygiad hwn yn hollol wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi ei gyflawni fel Cyngor o'r blaen a bydd yn dod yn lasbrint ar gyfer byw bywyd hŷn yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd yn cyfuno atebion arbed ynni arloesol gyda nodweddion dylunio cain a mannau hyblyg i ddiwallu anghenion preswylwyr.”
 
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili i gyflawni cynllun arall sy'n parhau i wasanaethu cymuned Caerffili. Bydd ansawdd y gwaith adeiladu yn cynnig tai modern wedi'u dylunio er cysur preswylwyr. Mae Willmott Dixon hefyd wedi ymrwymo i gydweithio â busnesau lleol, ac mae ein perthynas sefydledig â’r gwneuthurwyr fframiau dur, Caledan, yn golygu y gall ein partneriaid cadwyn gyflenwi leol barhau i ail-fuddsoddi a thyfu yn yr ardal.”

 


Ymholiadau'r Cyfryngau