News Centre

Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.

Postiwyd ar : 28 Meh 2024

Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.

Mae tair o ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili a’u staff addysgu yn teimlo’n falch ar ôl ennill gwobrau yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg South Wales Argus 2024 ddydd Mercher 26 Mehefin.

Enillodd Ysgol Gynradd Libanus yn nhref Coed Duon wobr Prosiect STEM y Flwyddyn, ac fe gipiodd yr athrawes Lynne Richards Wobr y Tu Hwnt i'r Disgwyl.

Cafodd Richard Owen o Ysgol Idris Davies 3 i 18 wobr Pennaeth y Flwyddyn ac fe wnaeth Ysgol Trecelyn ennill Gwobr Ysgol Uwchradd y Flwyddyn.

Dywedodd Nicola Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Libanus,

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y gwaith gwych rydyn ni'n ei wneud yma yn Ysgol Gynradd Libanus wedi cael ei gydnabod eto eleni. Mae cael ein henwebu ar gyfer pedair gwobr ac ennill dwy ohonyn nhw wedi gwneud cymuned gyfan ein hysgol yn falch iawn.

Mae ein Dirprwy Bennaeth, Mrs Richards, wrth ei bodd o gael ei chydnabod fel un sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl gyda'r cwricwlwm a gyda’r gwaith cyfoethogi mae hi’n ei wneud.

Fe wnaeth yr ysgol gyfan, rhieni a llywodraethwyr wylio'r sioe ddiweddar, Trashion Show, y gwnaeth ein disgyblion blwyddyn 5 a 6 ei chynllunio a chymryd rhan ynddi. Fe ddysgodd wersi i ni am y problemau sy’n gysylltiedig â ffasiwn cyflym. Fe ailgylchodd y plant hen ddillad a deunyddiau i wneud eu gwisgoedd 'Trashion' a cherdded ar y 'catwalk' gan ddysgu negeseuon amgylcheddol pwysig i ni. Roedd yn anhygoel!"

Dywedodd Mr Andrew Thompson, Pennaeth Ysgol Trecelyn,

“Rydyn ni wrth ein bodd cael y wobr hon. Mae ein staff ni'n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni i’r safonau uchaf posibl a bob amser yn cael y gofal a’r cymorth gorau ar yr un pryd, ac rydyn ni'n teimlo bod y wobr hon yn adlewyrchu’r ymroddiad a’r ymrwymiad hwnnw. Mae cymuned Ysgol Trecelyn yn un arbennig ac rydw i'n gwybod y bydd pawb sy’n ymwneud â’r ysgol yn falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Idris Davies 3 i 18,

“Fel cymuned ysgol, rydyn ni'n falch iawn ac wrth ein bodd fod Mr Owen wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon ac mae’n gwbl haeddiannol. Mae Mr Owen a’r tîm ardderchog o staff yn ein hysgol yn gweithio’n ddiflino i gynorthwyo pob un o’n dysgwyr yn ddyddiol i roi pob cyfle posibl i bob disgybl bob dydd yn ystod eu cyfnod gyda ni yn yr ysgol. Mae’r wobr hon yn deyrnged fawr i’r gwahaniaeth mae'r tîm cyfan yn ei wneud i fywydau ein disgyblion ni.

Dywedodd Mr Owen, “Mae bod yn Bennaeth ar Ysgol Idris Davies 3 i 18 yn fraint llwyr ac rydw i'n ystyried fy hun yn ffodus iawn i weithio gyda thîm mor ymroddedig a dawnus o staff, ac i'w harwain nhw. Maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gynorthwyo anghenion ein disgyblion o ddydd i ddydd. Rydw i'n hynod ddiolchgar ac yn falch iawn o gael y wobr hon, ond y tîm gwych o staff yn Ysgol Idris Davies a'r clwstwr ehangach rydyn ni'n gweithio ag ef, yn ogystal â'r cymorth a’r arweiniad rydyn ni'n eu cael gan yr Awdurdod Lleol sydd wedi gwneud hyn yn bosibl."

Llongyfarchiadau hefyd i Lynn Griffiths o Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Jamie Hallett o Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod, Lianne Francis o Ysgol Uwchradd Bedwas, Hannah Hodges o Ysgol Gynradd Abercarn ac Emilie Thornton o Ysgol Gynradd Libanus am gyrraedd y rhestr fer.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau