Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2024
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
News Centre
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Postiwyd ar : 15 Mai 2024
Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun blaenllaw ar gyfer byw bywyd hŷn ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda'r arbenigwr adeiladu, Willmott Dixon, i gyflawni'r cynllun arloesol. Mae'r cynllun wedi ei ddylunio â'r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a chadw costau tanwydd preswylwyr i'r lleiafswm. Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr.
Mae amrywiaeth eang o fannau cymunedol dan do ac awyr agored wedi’u hymgorffori yn y cynllun, i wella iechyd a lles preswylwyr a hwyluso rhyngweithio â’r gymuned ehangach. Wrth galon y cynllun, bydd gardd gymunedol gyda phlanhigion a mannau eistedd, gan gynnwys man ymgynnull cymunedol.
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys 45 o fflatiau ag un ystafell wely a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy'n mynd i gau.
Mewn digwyddiad arloesol diweddar ar y safle, dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae heddiw yn nodi carreg filltir arwyddocaol arall yng nghynlluniau uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili dros y deng mlynedd nesaf. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y datblygiad hwn yn cael ei gyflawni ac at ddychwelyd i weld preswylwyr wedi’u hymgartrefu yn eu cartrefi newydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Bydd y datblygiad hwn yn hollol wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi ei gyflawni fel Cyngor o'r blaen a bydd yn dod yn lasbrint ar gyfer byw bywyd hŷn yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd yn cyfuno atebion arbed ynni arloesol gyda nodweddion dylunio cain a mannau hyblyg i ddiwallu anghenion preswylwyr.”
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili i gyflawni cynllun arall sy'n parhau i wasanaethu cymuned Caerffili. Bydd ansawdd y gwaith adeiladu yn cynnig tai modern wedi'u dylunio er cysur preswylwyr. Mae Willmott Dixon hefyd wedi ymrwymo i gydweithio â busnesau lleol, ac mae ein perthynas sefydledig â’r gwneuthurwyr fframiau dur, Caledan, yn golygu y gall ein partneriaid cadwyn gyflenwi leol barhau i ail-fuddsoddi a thyfu yn yr ardal.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y