News Centre

Gweithgareddau Hanner Tymor Mis Mai

Postiwyd ar : 21 Mai 2024

Gweithgareddau Hanner Tymor Mis Mai
Wrth i hanner tymor mis Mai agosáu, mae teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi ar gyfer wythnos o weithgareddau llawn hwyl i ddiddanu'r plant. O anturiaethau yn y pwll nofio i wersylloedd chwaraeon ac anturiaethau yn yr awyr agored, mae rhywbeth at ddant pawb.
 
Dull Byw Hamdden – Plymiwch i fyd llawn hwyl i'r teulu yn y pwll nofio!
 
Dechreuwch eich hanner tymor gyda sblash ym mhyllau nofio Dull Byw Hamdden. Mae ein pyllau ni'n cynnig amgylchedd diogel a phleserus i deuluoedd gael hwyl a chadw'n heini. Gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i bob oed a gallu, does dim lle gwell i wneud sblash yr hanner tymor yma.
 
Mae amserlen nofio hanner tymor mis Mai ar gael yma: https://bit.ly/4asgKY4
 
I gadw lle mewn gweithgareddau yn y pwll yn ystod hanner tymor, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden lle bo'n berthnasol neu gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol.
 
Chwaraeon Caerffili – Gwersylloedd chwaraeon i blant egnïol!
 
Rydyn ni'n gwahodd plant 7–12 oed sy'n dwli ar chwaraeon i ymuno â'n gwersylloedd chwaraeon yr hanner tymor yma. Dan arweiniad ein hyfforddwyr profiadol, mae ein gwersylloedd ni'n canolbwyntio ar hwyl a datblygu sgiliau, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael profiad gwych. Dewiswch o blith amrywiaeth o wersylloedd, gan gynnwys: -
 
Gwersyll Pêl-droed – £11.66 y dydd:
  • Dydd Mawrth 28 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga
  • Dydd Mercher 29 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga
  • Dydd Iau 30 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga a'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
  • Dydd Gwener 31 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga a’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu davies30@caerffili.gov.uk.
 
Gwersyll Athletau – £11.66 y dydd:
Cadwch yn heini yn Hwb Athletau Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Oakdale ddydd Mercher 29 Mai a dydd Iau 30 Mai. Pris: £11.66 y dydd. I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu davies30@caerffili.gov.uk.
 
Gwersyll Hoci – £11.66 y dydd:
Dewch draw i gae Hwb Hoci Canolfan Hamdden Sue Noakes ddydd Mawrth 28 Mai o 9am tan 3pm. I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 815511 neu seaboc@caerffili.gov.uk.
 
Cynllun Chwaraeon Anabledd – £9.60 y dydd:
Dewch i brofi hwyl chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Sue Noakes ddydd Mercher 29 Mai o 10am tan 3pm. Rhowch gynnig ar chwaraeon amrywiol gyda'n hyfforddwyr mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. I gadw lle, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu ChwaraeonCaerffili@caerffili.gov.uk.
 
Anturiaethau Caerffili – Archwiliwch yn yr awyr agored!
 
Rhyddhewch ymdeimlad eich plentyn o antur gyda Diwrnodau Antur Anturiaethau Caerffili. Maen nhw'n cael eu cynnal ddydd Mawrth 28 Mai, dydd Mercher 29 Mai a dydd Iau 30 Mai, 9.30am–3.30pm, ac mae pob diwrnod yn addo cyffro ac archwilio. Gyda phob diwrnod yn llawn sgiliau byw yn y gwyllt, teithiau cerdded antur, canŵio a rhwyf-fyrddio yng Nghoedwig Cwmcarn, maen nhw'n addo cyffro ac archwilio. Mae'r diwrnodau antur hyn yn addas ar gyfer plant 7–12 oed, ac yn costio £28 y dydd.
 
I gadw lle yn y Diwrnodau Antur i Blant Iau, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 01495 271234 neu sheric@caerffili.gov.uk.
 
Peidiwch â gadael i egwyl hanner tymor fynd heibio heb wneud atgofion bythgofiadwy! Ymunwch â ni am wythnos o gyffro ac antur ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, defnyddiwch fanylion cyswllt y gweithgaredd sydd wedi'u darparu.


Ymholiadau'r Cyfryngau