News Centre

Cyllid ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cydlynol a gwydn

Postiwyd ar : 09 Mai 2024

Cyllid ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cydlynol a gwydn

Mae Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent ar gael i brosiectau sy’n mynd rhagddynt ym mwrdeistrefi Caerffili, Blaenau Gwent a/neu Dorfaen. 

Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector neu ysgolion wneud cais am hyd at £3000 i gefnogi prosiect cymunedol.

Mae'r grant ar gyfer prosiectau sy'n ceisio herio gwahaniaethu, hybu cynhwysiant, a rhoi cyfleoedd i bobl na fyddent fel arfer yn dod at ei gilydd, i gyfarfod a dathlu ble maen nhw’n byw.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024 a rhaid cwblhau’r prosiectau erbyn 31 Ionawr 2025. Gwneud cais ar-lein.

Enghraifft o brosiect sydd wedi derbyn arian yw Rhandir Cymunedol Cyfeillion Morgan Jones. Cydnabu’r grŵp gwirfoddol bod nifer o’u gwirfoddolwyr yn dioddef o broblemau iechyd a symudedd a oedd yn eu rhwystro rhag cael mynediad at gnydau sy’n tyfu ar lawr. Roedd hyn yn ei dro, yn cael effaith negyddol ar eu gallu i integreiddio i’r grŵp.  Fe wnaeth y cyllid alluogi’r grŵp i weithio’n agos gyda phartneriaid cymunedol ac ysgol leol, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i adeiladu gwelyau uchel i alluogi amgylchedd oedd yn fwy cynhwysol i bawb.

Eglurodd ymwelydd iechyd sydd wedi ymddeol, sy’n rhan o’r grŵp, ‘Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn sy'n cael ei wneud i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gydag unrhyw fath o broblem sy'n effeithio ar symudedd. Yn fy amser, rwyf wedi gweld y trafferthion y mae pobl yn eu hwynebu, a sut y mae hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd. Nawr, fi yw’r person hwn, ac mae gosod gwelyau tyfu uchel i dyfu llysiau wedi fy mhlesio’n fawr iawn’.

I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth am y grant cysylltwch â Bridie ar: Bridie.Saunders@torfaen.gov.uk  neu ffoniwch 01633 647223.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau