News Centre

Digwyddiad ynni am ddim i landlordiaid preifat Caerffili

Postiwyd ar : 31 Mai 2024

Digwyddiad ynni am ddim i landlordiaid preifat Caerffili
Mae digwyddiad sy'n cael ei gynnal fis nesaf yn ceisio helpu landlordiaid preifat ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i drawsnewid eu heiddo yn hafanau ynni-effeithlon sy'n arbed costau.

Mae Cynhadledd Ynni Landlordiaid Caerffili 2024 yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Iau 27 Mehefin ym Maenordy Llancaiach Fawr, Treharris CF46 6ER. Bydd yn cynnwys dwy sesiwn rhwng 2pm a 4pm neu rhwng 6pm ac 8pm.

Yn ystod y digwyddiad, bydd mynychwyr yn cael cyfleoedd i gael mewnwelediadau gan arbenigwyr blaenllaw, cysylltu â landlordiaid eraill, darganfod offer, adnoddau a chymhellion i weithredu atebion ar gyfer arbed ynni a chael gwybod am y rheoliadau diweddaraf.

Mae modd i landlordiaid gadw eu lle am ddim trwy fynd i: https://bit.ly/3USKOY4
 


Ymholiadau'r Cyfryngau