News Centre

Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal

Postiwyd ar : 14 Mai 2024

Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth (13-26 Mai), mae Maethu Cymru Caerffili yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gynorthwyo plant a phobl ifanc lleol mewn angen. 
 
Bob mis Mai, mae'r ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth yn anelu at godi proffil maethu a dangos sut all gofal maeth drawsnewid bywydau. 

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol. 

Y thema ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth eleni yw 'atgofion maethu' ac mae gofalwyr maeth lleol yn gobeithio y bydd rhannu eu hatgofion maethu yn cynorthwyo'r achos.  Drwy rannu eu hatgofion cadarnhaol o faethu, maen nhw'n dangos sut y gall unrhyw un helpu i greu atgofion, adeiladu hyder a gwneud i blant deimlo'n ddiogel a bod rhywun yn eu caru.

Mewn llyfr coginio newydd, o’r enw 'Gall pawb gynnig rhywbeth', mae Maethu Cymru yn amlygu'r pethau syml all gofalwr eu cynnig, fel y sicrwydd o gael pryd o fwyd yn rheolaidd, amser i'r teulu o amgylch y bwrdd a chreu hoff fwydydd newydd. 

Mae gan 'Gall pawb gynnig rhywbeth' dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau o'r gymuned gofal maeth a chogyddion enwog. Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans, y Gogyddes/Awdures Colleen Ramsey, a'r Athletwraig Olympaidd Fatima Whitebread wedi cyfrannu ryseitiau, ynghyd â llawer o bobl eraill. 

Dywedodd y Gofalwyr Maeth o Gaerffili, Chloe a Jordan, "Cyhyd â bod gennym ni gariad yn ein calonnau, byddwn ni'n agor ein cartref i blant sydd ein hangen. Mae dweud hwyl fawr yn anodd ond mae dweud helo yn llawer gwell".

Dywedodd Esther a Nick, Gofalwyr Maeth lleol, "Mae maethu wedi rhoi cyfle i ni chwarae rhan yn nhaith y plentyn a gwneud y daith honno mor gadarnhaol a gallwn ni".

Yn ystod Pythefnos Gofalwyr Maeth, bydd Maethu Cymru yn rhannu cynnwys ledled rhanbarth Gwent ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddan nhw allan yn y gymuned leol i helpu rhagor o bobl i ddeall maethu a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'n gallu ei wneud. 

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Ofalwr Maeth yng Nghaerffili, ewch i: https://fosterwales.caerphilly.gov.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau