Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2024
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
News Centre
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Postiwyd ar : 14 Mai 2024
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth (13-26 Mai), mae Maethu Cymru Caerffili yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gynorthwyo plant a phobl ifanc lleol mewn angen.
Bob mis Mai, mae'r ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth yn anelu at godi proffil maethu a dangos sut all gofal maeth drawsnewid bywydau.
Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Y thema ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth eleni yw 'atgofion maethu' ac mae gofalwyr maeth lleol yn gobeithio y bydd rhannu eu hatgofion maethu yn cynorthwyo'r achos. Drwy rannu eu hatgofion cadarnhaol o faethu, maen nhw'n dangos sut y gall unrhyw un helpu i greu atgofion, adeiladu hyder a gwneud i blant deimlo'n ddiogel a bod rhywun yn eu caru.
Mewn llyfr coginio newydd, o’r enw 'Gall pawb gynnig rhywbeth', mae Maethu Cymru yn amlygu'r pethau syml all gofalwr eu cynnig, fel y sicrwydd o gael pryd o fwyd yn rheolaidd, amser i'r teulu o amgylch y bwrdd a chreu hoff fwydydd newydd.
Mae gan 'Gall pawb gynnig rhywbeth' dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau o'r gymuned gofal maeth a chogyddion enwog. Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans, y Gogyddes/Awdures Colleen Ramsey, a'r Athletwraig Olympaidd Fatima Whitebread wedi cyfrannu ryseitiau, ynghyd â llawer o bobl eraill.
Dywedodd y Gofalwyr Maeth o Gaerffili, Chloe a Jordan, "Cyhyd â bod gennym ni gariad yn ein calonnau, byddwn ni'n agor ein cartref i blant sydd ein hangen. Mae dweud hwyl fawr yn anodd ond mae dweud helo yn llawer gwell".
Dywedodd Esther a Nick, Gofalwyr Maeth lleol, "Mae maethu wedi rhoi cyfle i ni chwarae rhan yn nhaith y plentyn a gwneud y daith honno mor gadarnhaol a gallwn ni".
Yn ystod Pythefnos Gofalwyr Maeth, bydd Maethu Cymru yn rhannu cynnwys ledled rhanbarth Gwent ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddan nhw allan yn y gymuned leol i helpu rhagor o bobl i ddeall maethu a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'n gallu ei wneud.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Ofalwr Maeth yng Nghaerffili, ewch i:
https://fosterwales.caerphilly.gov.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y