News Centre

Dechrau gwaith torri gwair ffyrdd osgoi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 23 Mai 2024

Dechrau gwaith torri gwair ffyrdd osgoi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Ar 1 Mehefin, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dechrau ei raglen torri gwair ffyrdd osgoi.
 
Bydd angen cau rhai ffyrdd er mwyn i'r gwaith hwn gael ei wneud. Dyma'r ffyrdd a’r dyddiadau dan sylw:
 
Ffordd osgoi Rhisga A467 – dydd Sadwrn 1 Mehefin 2024. Cau dau lôn yr A472 yn ystod y dydd ar y penwythnos rhwng Tŷ-du a Crosskeys (cylchfan Morrison's i gylchfan y Lleuad Lawn, gan gynnwys pob cylchfan).
 
Ffordd osgoi Trecelyn A472 – dydd Sul 2 Mehefin 2024. Cau dau lôn yr A472 yn ystod y dydd ar y penwythnos rhwng Maes-y-cwmwr i Drecelyn, gan gynnwys pob cylchfan.
 
Ffordd osgoi Llanbradach A469 – dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024. O gylchfan Cedar Tree i gylchfan canolfan ddawns Shappell ac yn ôl, gan gynnwys pob cylchfan.
 
Ffordd osgoi ddeheuol Caerffili A468 – dydd Sul 9 Mehefin 2024. O gylchfan Crossways i gylchfan Penrhos ac yn ôl, gan gynnwys pob cylchfan. – Rheoli traffig gan ddefnyddio bwrdd 'stopiwch' ac 'ewch'
 
Mae rheoli traffig Rhisga/Trecelyn a Llanbradach yn golygu cau un lôn.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau