News Centre

Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref

Postiwyd ar : 15 Mai 2024

Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Ddydd Sadwrn 4 Mai, roedd canol tref Bargod yn brysur iawn wrth i Ffair Fai Bargod gael ei chynnal.
 
Roedd bron i 100 o stondinau masnach yn y ffair i filoedd o ymwelwyr eu mwynhau. Diwrnod y digwyddiad oedd diwrnod prysuraf y flwyddyn i’r dref hyd yn hyn gyda phobl hyd yn oed yn teithio o gyn belled ag Abertawe a Chaerloyw i fwynhau’r diwrnod.
 
Yn ogystal â stondinau masnach, roedd llawer o adloniant arall megis arddangosfeydd anifeiliaid, gemau nwyddau gwynt enfawr, cymeriadau teledu, a sioeau Pwnsh a Jwdi a llawer mwy.
 
Roedd y ceir anarferol yn llwyddiant ysgubol, gyda'r Bumble Bee ZL1 o'r Transformers, y Jeep o Stranger Things, y DeLorean o Back to the Future a llawer mwy yn ymddangos yn y digwyddiad ac yn denu sylw'r dorf!
 
Hefyd, cafodd busnesau lleol gymorth aruthrol drwy gydol y dydd wrth i gwsmeriaid cyfarwydd a newydd ymweld â llawer ohonyn nhw.
 
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y ffair:
 
Dywedodd Anthony Strinati o The New Continental Café, “Roedd y seddi awyr agored yn grêt! Roedd y digwyddiad cyfan yn wych, gyda nifer enfawr o bobl yn y dref. Roedd yr awyrgylch yn rhagorol!”

Dywedodd Jude Voyle o Barnardo’s “Diwrnod bendigedig gyda’r haul yn gwenu arnom ni. Fe welon ni'r gymuned ac ymwelwyr yn dod o ardaloedd eraill i gynorthwyo'r dref a Barnardo’s.  Mae’r digwyddiadau hyn yn bendant yn rhoi hwb mawr ei angen i’n tref ni.  Diolch i bawb a weithiodd mor galed i drefnu'r digwyddiad.”

Dywedodd Anne Elsdon o Little Things Babywear / Fancy Treats, “Torf hyfryd, llawer o bobl hapus, diwrnod bendigedig!”

Dywedodd John Griffiths o J.D.S. Antiques hefyd, “Digwyddiad gwych, braf gweld cymaint o bobl yn y dref, wedi gweld llawer o wynebau a chwsmeriaid newydd, diwrnod da iawn!!!”

Dywedodd The Lemoneers, “Diolch am 2 sioe wych i ddechrau’r flwyddyn, y ddwy sioe hyn oedd fy sioeau gorau erioed!”

Dywedodd Barreled Over, “Fe gawson ni ddiwrnod eithaf da – y gorau ers tro – ac roedd yn hwb mawr ei angen i'n hyder! Wedi'i drefnu a'i hysbysebu mor dda hefyd. Fe wnaethon ni gwrdd â sawl un o'r tu allan i'r ardal, gan gynnwys pobl o gyn belled â Chaerloyw, felly gwaith gwych! Rydyn ni'n edrych ymlaen at gadw lle yn y digwyddiad nesaf yn fuan!”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd yn wych gweld Bargod yn brysur iawn eto yn y Ffair Fai. Rydyn ni am ddiolch i’r holl drigolion, masnachwyr a gwirfoddolwyr a sicrhaodd fod y digwyddiad yn llwyddiant.”

Hefyd, dywedodd Howard Llewellyn, Maer Cyngor Tref Bargod, “Fe gawson ni i gyd ddiwrnod bendigedig yn Ffair Fai Bargod.  Roedd popeth mor gadarnhaol, o'r tywydd da i'r dorf anhygoel.  Roedd hyn i gyd diolch i waith Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynllunio a chynnal y digwyddiad, yn ogystal â chyfraniad gwych Crafty Legs a drefnodd stondinau'r farchnad. Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Bargod am ei gyfraniad ariannol, ei gefnogaeth frwd a’i ymrwymiad i ddigwyddiadau fel hyn sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr ar y Stryd Fawr ac yn cynorthwyo trigolion a masnachwyr lleol ym Margod.”


Ymholiadau'r Cyfryngau