News Centre

Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024

Postiwyd ar : 14 Mai 2024

Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Roedd yr haul yn tywynnu wrth i redwyr heidio i Gaerffili ar gyfer rasys blynyddol 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ddydd Sul 12 Mai.
 
Fe wnaeth y cwrs, yng nghysgod castell trawiadol Caerffili, arwain dros 2,000 o redwyr drwy ganol y dref, ac o'i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig fel cerflun Tommy Cooper a'r cerflun caws enfawr.
 
Roedd y ras 10 cilomedr boblogaidd, sy'n denu rhedwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn cynnwys Pencampwriaethau Rhedeg Ffordd 10 Cilomedr Athletau Cymru ac yn rhan o Gyfres Rasys Ffordd Cymru. Torrodd Dewi Griffiths record y cwrs, sef record roedd eisoes yn berchen arni, gan groesi’r llinell derfyn 10 cilomedr mewn 29 munud a 12 eiliad. Lauren Cooper oedd y fenyw gyntaf i groesi'r llinell derfyn mewn 36 munud ac 20 eiliad.

Roedd y ras hwyl 2 gilomedr, sy'n denu mwy o bobl bob blwyddyn, yn llwyddiant ysgubol gydag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yn cymryd rhan ynddi.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, a redodd ras 10 cilomedr Caerffili, “Fel arfer, roedd yn ddigwyddiad gwych, a gafodd ei drefnu gan y timau Datblygu Chwaraeon a Digwyddiadau. Roedd yr awyrgylch o gwmpas canol y dref ac ar hyd y cwrs yn anhygoel ac roedd yn wych gweld cynifer o fusnesau lleol a phobl leol yn cymryd rhan ac yn cefnogi'r rhedwyr”.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl o bob cwr o'r rhanbarth yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows. Mae'r digwyddiad yn cefnogi ein gweledigaeth o gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml. Rydyn ni'n gobeithio gweld pawb eto y flwyddyn nesaf!”

Gallwch chi gofrestru nawr ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf a fydd yn digwydd ddydd Sul 11 Mai 2025. Bydd y cynnig cyw cynnar yn ddilys tan 9 Mehefin 2024 sy'n golygu y bydd rhedwyr 10 cilomedr yn talu ffi mynediad o ddim ond £21. I gofrestru, ewch i: www.caerphilly10k.co.uk.

Hoffen ni ddiolch i'n prif noddwr Bryn Meadows, Llamau a'n noddwr ceir Griffin Mill am eu cefnogaeth barhaus i'r digwyddiad.

Mae canlyniadau llawn y ras ar gael yma: https://bit.ly/44HGiPI
Mae lluniau swyddogol ar gael yma: https://bit.ly/4bjqmFA  
 


Ymholiadau'r Cyfryngau