Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2023
50 diwrnod i fynd tan y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf!
News Centre
50 diwrnod i fynd tan y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf!
Postiwyd ar : 05 Mai 2023
Rydyn ni wedi dechrau cyfri’r diwrnodau tan Pride Caerffili! Mewn dim ond 50 diwrnod, bydd y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023, rhwng 12pm a 7pm yng Nghanol tref Caerffili.
Rydyn ni wedi dechrau cyfri’r diwrnodau tan
Pride Caerffili
! Mewn dim ond 50 diwrnod, bydd y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023, rhwng 12pm a 7pm yng Nghanol tref Caerffili. Mae'r digwyddiad hwn yn ddathliad o'r gymuned LHDTC+ yn y Fwrdeistref Sirol ac mae'n agored i bawb sydd eisiau dod draw i ddathlu a dysgu rhagor am y gymuned fywiog a bwysig hon.
Mae'r digwyddiad hwn yn addo i fod yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb sydd eisiau mynychu, gan gynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw ac amrywiaeth o stondinau bwyd, diod a gwybodaeth. Bydd hefyd adloniant byw, gan gynnwys y frenhines drag wobrwyol, Miss Tina Sparkle, a fydd yn arwain y digwyddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau a Hyrwyddwr LHDTC+, "Rydyn ni mor gyffrous bod ein digwyddiad Pride Caerffili cyntaf dim ond 50 diwrnod i ffwrdd.
"Bydd hwn yn ddigwyddiad cynhwysol, ac rydyn ni'n croesawu pawb i ymuno â ni i ddathlu'r gymuned wych sydd gennym ni yma yn y Fwrdeistref Sirol.
"P'un a ydych chi am ddysgu rhagor am y gymuned LHDTC+ neu'n gyffrous i ymuno â'r dathliadau - rydw i wir yn gobeithio byddwch chi'n ymuno â ni ar y diwrnod am beth sy'n mynd i fod yn achlysur gwych."
Uchafbwynt y diwrnod bydd Gorymdaith Pride Caerffili, wedi'i noddi gan Heddlu Gwent. Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Ysgol Gyfun Martin Sant am 12pm, yn teithio i lawr trwy ganol y dref tuag at y Llwyfan Band Ieuenctid Pride Caerffili, wedi'i noddi gan UNISON Caerffili. Bydd rhan olaf yr orymdaith yn teithio’n ôl i fyny tuag at Faes Parcio y Twyn, lle fydd yr orymdaith yn gorffen mewn amser i ddechrau diwrnod llawn hwyl ar ein Llwyfan Adloniant Pride Caerffili, wedi'i noddi gan Unite Cymru.
Bydd y rhestr adloniant llawn, gan gynnwys amserau, yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rydyn ni'n gallu datgelu bydd perfformiadau arbennig iawn i edrych ymlaen atyn nhw. Bydd y perfformiadau hyn yn cynnwys: Côr Meibion Hoyw De Cymru, amrywiaeth o artistiaid drag (gan gynnwys Polly Amorous, Esther Parade a Jackie Le Beanstalk, i enwi dim ond rhai) a sawl artist a DJ talentog, lleol. Bydd yna rywbeth at ddant pawb!
Rydyn ni nawr yn annog y rhai sy'n bwriadu ymuno yn yr orymdaith i gofrestru eu diddordeb gan lenwi'r ffurflen cofrestru sydd
ar gael yma
.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r orymdaith, gallwch chi hefyd weld ein
llyfryn gorymdaith
gan wasgu'r ddolen.
Am ragor o wybodaeth, ewch i ein
tudalen digwyddiadau
, a fydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r holl wybodaeth fyddwch chi'n ei hangen.
Peidiwch â cholli allan ar yr achlysur hanesyddol hwn. Gobeithio eich gweld chi yno!
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y