Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Postiwyd ar : 28 Meh 2024
Digwyddodd yn ystod y nos ac oriau mân ar 20-21 Mehefin 2024 yn nepo'r Cyngor yn Abercarn.
Cafodd offer garddio a gweithdy gwerth miloedd o bunnoedd gan gynnwys chwythwyr dail, llifiau cadwyn, torwyr gwrychoedd a strimwyr, eu cymryd ochr yn ochr â pheint o laeth o'r oergell.
Cafodd y gwifrau BT eu torri o bolyn telegraff gan ddiffodd y camerâu ar y safle.
Mae'r Cyngor wedi llwyddo i leihau'r effeithiau ar ddarpariaeth gwasanaethau trwy ddod o hyd i beiriannau ac offer newydd.
Mae Heddlu Gwent a CBS Caerffili yn gofyn i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus a chadw llygad am yr offer a gafodd ei ddwyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â 101 neu Crimestoppers ar 0800 555111, gan ddyfynnu cyfeirnod y drosedd, sef: 2400195823.