News Centre

Digwyddiadau coffa i nodi 80 mlynedd ers D-Day

Postiwyd ar : 06 Meh 2024

Digwyddiadau coffa i nodi 80 mlynedd ers D-Day

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymuno â gweddill y DU ac Ewrop i goffa 80 mlynedd ers Glaniadau Normandi a ddigwyddodd ar 6 Mehefin 1944.

D-Day oedd yr ymgyrch llynges, awyr a thir fwyaf mewn hanes milwrol. Daeth â byddinoedd cynghreiriol at ei gilydd mewn digwyddiad a gafodd ei adnabod fel y goresgyniad mwyaf o'r tir a'r môr. Digwyddodd yr ymgyrch, o'r ffugenw Overlord, yn Normandi, Ffrainc. 

Ddydd Iau 6 Mehefin 2024, bydd dewrder ac aberth y bobl hynny wrth sicrhau’r heddwch a’r rhyddid rydyn ni'n eu mwynhau heddiw yn cael sylw gan oleuadau o amgylch y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.

Bydd baner swyddogol D-Day 80 yn chwifio y tu allan i Dŷ Penallta heddiw. Bydd gwasanaethau amrywiol yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol, gwiriwch gyda'ch cyngor cymuned neu gyngor tref lleol.

Gwybodaeth bellach - D-Day 80 Commemorating the heroes of the Battle of Normandy.



Ymholiadau'r Cyfryngau