Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2024
Ysgol Gynradd y Twyn yn dathlu agor maes chwarae newydd yn dilyn ymdrechion llwyddiannus gan ddisgyb
News Centre
Ysgol Gynradd y Twyn yn dathlu agor maes chwarae newydd yn dilyn ymdrechion llwyddiannus gan ddisgyblion i godi arian
Postiwyd ar : 20 Meh 2024
Mae Ysgol Gynradd y Twyn yn falch iawn o gyhoeddi agoriad llwyddiannus ei maes chwarae newydd, yn dilyn ymgyrch codi arian anhygoel dan arweiniad ei disgyblion. Cafodd y maes chwarae ei agor yn swyddogol ddydd Mawrth 5 Mehefin, diolch i ymdrechion cyfunol yr ysgol a’r gymuned leol.
Cododd y disgyblion swm trawiadol o £11,000 tuag at y targed o £20,000 drwy gymryd rhan yn ras 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ar 12 Mai. Cafodd eu hymroddiad a'u gwaith caled eu cydnabod ymhellach gyda thocyn rhodd gwerth £100 gan Chwaraeon Caerffili, yn wobr am fod â'r nifer uchaf o gystadleuwyr yn y ras ymhlith ysgolion lleol.
Mynegodd y Pennaeth Lee Thomas ei falchder yn y disgyblion a'r gymuned ehangach, "Roedd yr hen faes chwarae yn cwympo'n ddarnau ac nid oedd yn addas i'r plant chwarae arno am gyfnod sylweddol o amser. Rydw i’n hynod falch o'n disgyblion am eu gwaith caled a'u penderfyniad i godi swm mor sylweddol o arian. Mae’r llawenydd y mae’r maes chwarae newydd hwn wedi’i roi i’r plant yn anfesuradwy, ac mae’n dyst i gryfder ac undod ein cymuned.”
Fe wnaeth Jared Lougher, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Hamdden, hefyd bwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau cymunedol, "Rydw i'n falch bod y digwyddiad wedi gallu cynorthwyo ysgolion lleol a'r gymuned gan ddod â phawb at ei gilydd i gyflawni eu nodau. Mae hwn yn rheswm mawr pam rydyn ni'n cynnal digwyddiadau fel Ras 10 Cilomedr a 2 Cilomedr Caerffili gan eu bod nhw'n darparu llwyfan mor gadarnhaol i'r gymuned."
Mae Ysgol Gynradd y Twyn yn diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y prosiect llwyddiannus hwn, gan gynnwys disgyblion, rhieni, staff, ac aelodau’r gymuned. Mae’r maes chwarae newydd nid yn unig yn lle mwy diogel a phleserus i'r plant, ond mae hefyd yn symbol o'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni trwy waith tîm a dyfalbarhad.
I gofrestru ar gyfer ras y flwyddyn nesaf, ewch i
www.caerphilly10k.co.uk
neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
10Cilomedr@caerffili.gov.uk
.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y