News Centre

Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024

Postiwyd ar : 28 Meh 2024

Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen ‘darllen er pleser’ fwyaf y Deyrnas Unedig i blant ac mae'n helpu cael tua 700,000 o blant i fynd i lyfrgelloedd bob blwyddyn.
 
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei chynhyrchu gan yr Asiantaeth Ddarllen a'i chyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Caerffili. Y sialens, sydd wedi'i hanelu at blant 4–11 oed, yw darllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell dros yr haf. 
 
Eleni, bydd plant yn ymuno â'r Crefftwyr Campus sy'n brysur yn bod yn greadigol ar gyfer gŵyl fawr…ond mae'r eitemau sydd eu hangen arnyn nhw wedi diflannu heb esboniad. Bydd plant yn helpu'r Crefftwyr Campus i ddod o hyd i'r eitemau sydd eu hangen arnyn nhw i gwblhau eu creadigaethau.
 
Ymunwch â'r sialens drwy gofrestru yn eich llyfrgell leol, benthyca eich llyfr cyntaf a mynd ati i ddarllen. Gall plant ddewis y llyfrau yr hoffen nhw eu darllen, gan gofnodi'r hyn y maen nhw'n ei ddarllen wrth wneud. Mae holl staff a gwirfoddolwyr y llyfrgell wrth law i sgwrsio â'r plant am y llyfrau y maen nhw wedi eu darllen. 
 
Ar gyfer pob llyfr wedi'i ddarllen, bydd y plant yn casglu sticeri ynghyd â gwobrau wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy'r sialens. Os byddwch chi'n cwblhau'r sialens, bydd pob plentyn yn cael medal a thystysgrif. 
 
Mae'n ffordd rhad ac am ddim, hwyliog a gwych o gael plant i ddarllen dros wyliau'r haf. Cewch chi'r wybodaeth ddiweddaraf am Sialens Ddarllen yr Haf eleni drwy ein dilyn ni ar Facebook neu Twitter.


Ymholiadau'r Cyfryngau