Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent 2024
Postiwyd ar : 26 Meh 2024
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent eleni.
Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol sy'n dathlu gwaith anhygoel gwirfoddolwyr ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd yn cael ei chynnal ym mis Medi a mis Hydref eleni i ddiolch i'r rheini sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.
Gall unigolion a grwpiau gael eu henwebu ar gyfer y categorïau canlynol:
- Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr
- Cynaliadwyedd Bwyd
- Chwaraeon a Hamdden
- Eiriolwr Cymunedol
- Amgylcheddol
- Person Ifanc Ysbrydoledig (14-25 oed)
- Hyrwyddwr Teulu
- Iechyd a Lles
- Taith Ysbrydoledig
- Diwylliant a Threftadaeth
Bydd un enillydd ac un ail orau yn cael eu dewis ar gyfer pob categori gan banel o gynrychiolwyr cymunedol lleol, a byddan nhw'n cael eu gwahodd i fynychu'r seremoni wobrwyo ranbarthol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gallwch chi wneud enwebiadau drwy glicio yma a llenwi'r ffurflen ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5pm ddydd Gwener 19 Gorffennaf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar volunteering@gavo.org.uk