News Centre

Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn

Postiwyd ar : 27 Meh 2024

Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymunwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 29 Mehefin.
 
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth i’r bobl sy’n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog; o bersonél sy'n gwasanaethu i deuluoedd y lluoedd arfog, cyn-aelodau’r lluoedd arfog, a chadetiaid. Mae'r diwrnod yn deyrnged i ymroddiad, dewrder, ac aberth y rhai sy'n gwasanaethu ein cenedl.

Bydd digwyddiad dathlu yn digwydd yn Nhredegar, Blaenau Gwent rhwng 12pm-5pm ddydd Sul 30 Mehefin. Bydd adloniant byw, stondinau, a gwasanaeth yn digwydd  gydag arddangosfa gan Fand Catrodol y Cymry Brenhinol i ddathlu ein personél lluoedd arfog.
 
Bydd baner swyddogol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn chwifio y tu allan i Dŷ Penallta a bydd gwasanaethau lleol amrywiol yn cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol. Gwiriwch gyda'ch cyngor cymuned neu gyngor tref lleol.
 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i bersonél ein lluoedd arfog ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/my-council/armed-forces?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau