A469 Rhwng Pontlotyn a Tirphil – Ffordd ar gau
Postiwyd ar : 19 Meh 2024
Yn ystod archwiliadau priffyrdd arferol diweddar, mae symudiad pellach wedi'i nodi ar yr A469 rhwng Pontlotyn a Thirphil sydd wedi arwain at graciau dros sawl ardal o fewn y lôn fyw bresennol a'r lôn sydd ar gau i draffig. Mae rhai o'r craciau hyn yn gysylltiedig â dadleoliadau fertigol. Bydd CBSC yn gwneud gwaith adfer yn yr ardaloedd hyn.
Mae'r gwaith ail-wynebu a selio’r craciau sydd ei angen yn y lôn sy'n agored i draffig ar hyn o bryd ac felly bydd angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl i'w hadfer.
Y bwriad ar hyn o bryd yw y bydd hyn yn digwydd ddydd Sul 23 Mehefin 2024.
Bydd y ffordd ar gau rhwng 8am a 6pm, gyda llwybr gwyriad ag arwyddion yn ei le (ynghlwm).
Fodd bynnag, mae'r gwaith yn amodol ar y tywydd ac o ganlyniad efallai bydd angen ei newid ar fyr rybudd.
Bydd arwyddion yn rhoi gwybod am gau'r ffordd yn cael eu gosod ymlaen llaw wrth yr ardal ddynesu at y goleuadau cyn i'r ffordd gau.
Rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra.