News Centre

Arolwg yn dangos bod 76% o denantiaid Cartrefi Caerffili yn fodlon ar y gwasanaeth tai

Postiwyd ar : 11 Gor 2024

Arolwg yn dangos bod 76% o denantiaid Cartrefi Caerffili yn fodlon ar y gwasanaeth tai
Mae canlyniadau arolwg boddhad a gafodd ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda'i holl denantiaid (deiliaid contract) wedi dangos bod 76% o'r rhai a ymatebodd yn fodlon â'r gwasanaeth tai cyffredinol sy'n cael ei ddarparu iddyn nhw.

O’r 3,036 o denantiaid Cartrefi Caerffili a ymatebodd i’r arolwg, dywedodd 81% eu bod nhw'n fodlon gyda diogelwch eu cartref ac roedd 77% yn hapus gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw.

Roedd 76% o'r ymatebwyr yn meddwl bod y rhent maen nhw'n ei dalu yn cynnig gwerth am arian wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â hynny.  O’r tenantiaid a ymatebodd i’r arolwg, dywedodd 79% eu bod nhw'n gweld Cartrefi Caerffili yn hawdd delio â nhw a dywedodd 73% eu bod nhw'n ymddiried yn y landlord.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae barn ein tenantiaid yn hanfodol i’n helpu ni i wella ein gwasanaeth tai yn barhaus a hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gwblhau’r arolwg; yr ymateb i'r arolwg diwethaf hwn oedd yr uchaf hyd yma.

“Er bod yr arolwg yn dangos meysydd lle rydyn ni'n gweithio’n dda, mae hefyd wedi helpu i amlygu blaenoriaethau tenantiaid ac elfennau o ddarparu gwasanaethau lle mae angen gwelliannau.”

Mae trosolwg o ganlyniadau'r arolwg wedi'i anfon at holl denantiaid Cartrefi Caerffili. Mae hefyd ar gael yn: Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili
 


Ymholiadau'r Cyfryngau