Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2024
Adroddiadau disglair gan Estyn ar gyfer dwy o ysgolion Caerffili
News Centre
Adroddiadau disglair gan Estyn ar gyfer dwy o ysgolion Caerffili
Postiwyd ar : 12 Gor 2024
Mae Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin yng Nghaerffili ac Ysgol Gymraeg Bro Allta yn Ystrad Mynach yn dathlu adroddiadau arolygu Estyn cadarnhaol.
Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant, a chynghori Llywodraeth Cymru o ran ansawdd a safonau addysg yng Nghymru.
Cafodd y ddwy ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili eu harolygu yn gynharach eleni, gydag adborth cadarnhaol gan arolygwyr.
Cafodd Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin ei chanmol am ei hethos hynod gynhwysol a'i thîm cryf o athrawon a chynorthwywyr addysgu ymroddedig a medrus.
Dywedodd Tara Lloyd, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin, “Rydyn ni wrth ein boddau bod Estyn wedi cydnabod yr arferion da iawn yn yr ysgol a'r gwaith caled a'r cydweithio ymhlith cymuned gyfan yr ysgol.”
Nododd yr arolygwyr a wnaeth ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Allta bod disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel, mewn amgylchedd hynod gynhwysol, cartrefol a gofalgar. Cafodd y berthynas waith rhwng staff a disgyblion hefyd ei chydnabod fel cryfder ar draws yr ysgol.
Dywedodd Meinir Elenid Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Bro Allta, "Rydyn ni'n hynod falch bod ESTYN wedi cydnabod safon wych yr ysgol a'r cynnydd mae'r disgyblion yn ei wneud. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi creu amgylchedd dysgu gwych sy'n galluogi ein disgyblion i ffynnu'n academaidd ac yn gymdeithasol. Rydw i mor falch o gymuned gyfan ein hysgol."
Dywedodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r adborth gan Estyn. Mae'r adroddiadau cadarnhaol yn dyst i ymdrechion staff, disgyblion a llywodraethwyr y ddwy ysgol."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adroddiadau disglair gan Estyn ar gyfer dwy o ysgolion Caerffili
Arolwg yn dangos bod 76% o denantiaid Cartrefi Caerffili yn fodlon ar y gwasanaeth tai
A469 Gwaith atgyweirio’r briffordd
Cyfnod enwebu ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2024 Chwaraeon Caerffili
Proses gwneud cais bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y