News Centre

Cyfnod enwebu ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2024 Chwaraeon Caerffili

Postiwyd ar : 08 Gor 2024

Cyfnod enwebu ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2024 Chwaraeon Caerffili
Mae Chwaraeon Caerffili yn gyffrous i gyhoeddi y bydd y cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2024 yn agor yn swyddogol ddydd Llun, 8 Gorffennaf, ac yn cau ddydd Gwener 23 Awst. Mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cynnig cyfle unigryw i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau rhagorol gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, a chlybiau ar draws pob lefel o chwaraeon yn ein cymuned.

I gyflwyno enwebiad, cliciwch yma neu am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Dull Byw Hamdden.

Mae’r Gwobrau Chwaraeon yn dathlu rhagoriaeth mewn categorïau amrywiol, gan gynnwys Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn, Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn, Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Llwyddiant Oes ar gyfer Chwaraeon, a Chlwb y Flwyddyn. Mae pob categori yn amlygu’r ymdrechion a’r llwyddiannau eithriadol y mae unigolion a chlybiau wedi’u gwneud wrth hyrwyddo a chefnogi chwaraeon o fewn cymuned Caerffili.

Categorïau a Meini Prawf y Gwobrau:

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
  • Yn cydnabod hyfforddwr gwirfoddol eithriadol sy'n cyfrannu'n sylweddol at chwaraeon yn eu cymuned
  • Yn chwilio am: Effaith ar fynediad at chwaraeon, cydlyniant cymunedol, iechyd a lles, diogelu cyfranogwyr, datblygu ymarfer hyfforddi, arfer arloesol.

Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn
  • Anrhydeddu hyfforddwr sy’n ymroddedig i weithio gyda grwpiau targed penodol (Menywod a Merched, BAME, Anabledd ac Amddifadedd).
  • Yn chwilio am: Effaith ar fynediad i chwaraeon, ysbrydoliaeth o fewn amgylcheddau prif ffrwd neu bwrpasol, effaith ehangach ar unigolion hyfforddedig, ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, arfer arloesol.

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Yn dathlu gwirfoddolwr ifanc (18 oed neu iau) sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i chwaraeon/gweithgarwch corfforol. 
  • Yn chwilio am: Creadigrwydd a phenderfyniad o ran gwirfoddoli, ysbrydoliaeth a chefnogi eraill, effaith ehangach ar unigolion a gynorthwyir, arfer arloesol.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Yn cydnabod gwirfoddolwr (18 neu hŷn) sy'n dangos ymrwymiad ac ymroddiad uchel mewn chwaraeon.
  • Yn chwilio am: Creadigrwydd a phenderfyniad o ran gwirfoddoli, ysbrydoliaeth a chefnogi eraill, effaith ehangach ar unigolion a gynorthwyir, ymgysylltu â'r gymuned, arfer arloesol.

Llwyddiant Oes ar gyfer Chwaraeon
  • Yn cydnabod ymroddiad hirdymor ac effaith sylweddol ar ddarpariaeth chwaraeon yn y gymuned.
  • Yn chwilio am: Ymroddiad i wirfoddoli sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyflawniadau parhaus, effaith gymunedol ehangach, pwysigrwydd i'w sefydliad/cymuned, dyfyniadau cefnogol.

Clwb y Flwyddyn
  • Yn dathlu clybiau sy’n gwneud cyfraniadau rhagorol i chwaraeon yn y gymuned.
  • Yn chwilio am: Twf clwb, datblygiad hyfforddwyr/gwirfoddolwyr, effaith gymunedol, cyflawniadau diweddar, dyfyniadau cefnogol.

Am ragor o fanylion neu ymholiadau, cysylltwch â hammob@caerffili.gov.uk neu 01443 863 402.

Ymunwch â ni i ddathlu ymroddiad a chyflawniadau ein harwyr chwaraeon lleol trwy gyflwyno eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2024 Chwaraeon Caerffili. Gadewch i ni anrhydeddu'r rhai sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned trwy eu hangerdd a'u hymrwymiad i chwaraeon.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau