News Centre

Adroddiadau disglair gan Estyn ar gyfer dwy o ysgolion Caerffili

Postiwyd ar : 12 Gor 2024

Adroddiadau disglair gan Estyn ar gyfer dwy o ysgolion Caerffili
Mae Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin yng Nghaerffili ac Ysgol Gymraeg Bro Allta yn Ystrad Mynach yn dathlu adroddiadau arolygu Estyn cadarnhaol.
 
Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant, a chynghori Llywodraeth Cymru o ran ansawdd a safonau addysg yng Nghymru.

Cafodd y ddwy ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili eu harolygu yn gynharach eleni, gydag adborth cadarnhaol gan arolygwyr. 
 
Cafodd Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin ei chanmol am ei hethos hynod gynhwysol a'i thîm cryf o athrawon a chynorthwywyr addysgu ymroddedig a medrus.

Dywedodd Tara Lloyd, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin, “Rydyn ni wrth ein boddau bod Estyn wedi cydnabod yr arferion da iawn yn yr ysgol a'r gwaith caled a'r cydweithio ymhlith cymuned gyfan yr ysgol.”
 
Nododd yr arolygwyr a wnaeth ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Allta bod disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel, mewn amgylchedd hynod gynhwysol, cartrefol a gofalgar. Cafodd y berthynas waith rhwng staff a disgyblion hefyd ei chydnabod fel cryfder ar draws yr ysgol.
 
Dywedodd Meinir Elenid Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Bro Allta, "Rydyn ni'n hynod falch bod ESTYN wedi cydnabod safon wych yr ysgol a'r cynnydd mae'r disgyblion yn ei wneud.  Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi creu amgylchedd dysgu gwych sy'n galluogi ein disgyblion i ffynnu'n academaidd ac yn gymdeithasol. Rydw i mor falch o gymuned gyfan ein hysgol."
 
Dywedodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r adborth gan Estyn.  Mae'r adroddiadau cadarnhaol yn dyst i ymdrechion staff, disgyblion a llywodraethwyr y ddwy ysgol."


Ymholiadau'r Cyfryngau