News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael arian i fynd i'r afael â gwm cnoi yng Nghoed Duon

Postiwyd ar : 16 Gor 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael arian i fynd i'r afael â gwm cnoi yng Nghoed Duon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael grant gan y Tasglu Gwm Cnoi sy'n cael ei weinyddu gan yr elusen amgylcheddol, Keep Britain Tidy, i helpu glanhau gwm cnoi a lleihau sbwriel gwm cnoi.
 
Mae'r Cyngor yn rhoi cynlluniau ar waith i gael gwared ar y gwm cnoi sy'n difetha strydoedd lleol ar ôl cael grant o £7,000 i fynd i'r afael â'r mater.
 
Mae'r Cyngor yn un o 54 ledled y wlad sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i'r Tasglu Gwm Cnoi, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, am arian i lanhau gwm cnoi oddi ar balmentydd a'i atal rhag cael ei ollwng eto.
 
Wedi’i sefydlu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a’i redeg gan yr elusen amgylcheddol, Keep Britain Tidy, mae Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi yn agored i gynghorau ledled y Deyrnas Unedig sy’n dymuno glanhau gwm cnoi yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiad hirdymor i atal gwm cnoi rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf.
 
Mae'r Tasglu yn cael ei ariannu gan gynhyrchwyr gwm cnoi mawr, gan gynnwys Mars, Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn dros bum mlynedd.
 
Mae Behaviour Change, menter gymdeithasol ddielw, wedi gwneud gwaith monitro a gwerthuso sydd wedi dangos, mewn ardaloedd a gafodd blwyddyn o gyllid cychwynnol, fod cyfradd is o ollwng gwm cnoi, hyd yn oed chwe mis ar ôl glanhau'r ardaloedd a gosod deunyddiau atal.
 
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi ein bod ni wedi cael grant gan y Tasglu Gwm Cnoi.
 
“Rydyn ni wedi gofyn am y cyllid hwn a chafodd ei gymeradwyo ar gyfer glanhau Coed Duon yn benodol, ond byddwn ni'n defnyddio'r arian i fuddsoddi mewn offer a staffio i sicrhau bod cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol yn elwa o'r grant.”
 
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cost flynyddol glanhau gwm cnoi i gynghorau yn y Deyrnas Unedig tua £7 miliwn ac, yn ôl Keep Britain Tidy, mae tua 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi’u difetha oherwydd gwm cnoi.
 
Yn ei ail flwyddyn, dyfarnodd y Tasglu gyfanswm o £1.56 miliwn i 55 o gynghorau, gan helpu glanhau amcangyfrif o 440,000 m2 o balmentydd, ardal sy'n cyfateb i Ddinas y Fatican.
 
Drwy gyfuno glanhau strydoedd wedi'i dargedu ag arwyddion wedi'u dylunio'n arbennig i annog pobl i roi eu gwm cnoi mewn biniau, llwyddodd y cynghorau a gymerodd ran i sicrhau gostyngiad o hyd at 60% mewn sbwriel gwm cnoi yn y ddau fis cyntaf.
 
Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, prif weithredwr Keep Britain Tidy, “Mae sbwriel gwm cnoi yn amlwg iawn ar ein strydoedd mawr ac mae’n anodd ac yn ddrud i’w lanhau, felly, rydyn ni'n croesawi’r cymorth i gynghorau mae'r Tasglu Gwm Cnoi a’r gweithgynhyrchwyr gwm cnoi wedi'i ddarparu.
 
“Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwm cnoi wedi’i lanhau, mae’n hollbwysig atgoffa’r cyhoedd, o ran sbwriel, boed yn gwm cnoi neu unrhyw beth arall, mai dim ond un lle y dylai fod – yn y bin – a dyna pam mae elfen newid ymddygiad o waith y Tasglu mor bwysig.”


Ymholiadau'r Cyfryngau