A469 Gwaith atgyweirio’r briffordd
Postiwyd ar : 11 Gor 2024
Bydd cyfle i drigolion gael gwybod rhagor am y cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau sefydlogrwydd hirsefydlog ar hyd yr A469 mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ym mis Gorffennaf.
Mae’r tir uwchlaw ac islaw y ffordd wedi profi symudiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf - ac mae hyn yn parhau - sy’n golygu bod angen gosod goleuadau traffig yn eu lle i gyfyngu ar faint o draffig sydd ar y ffordd.
Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr arbenigol i ystyried opsiynau I helpu mynd i’r afael â’r pryderon cyfredol.
Mae opsiynau dylunio rhagarweiniol bellach wedi’u datblygu, ac mae’r Cyngor yn awyddus i rannu’r cynigion â’r gymuned, fel bod pawb yn deall maint y gwaith sydd ei angen ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem sylweddol hon.
Mae trigolion a busnesau yn cael eu gwahodd I gyfres o sesiynau ‘galw heibio’ arbennig yn ystod yr wythnosau nesaf i weld y cynlluniau a thrafod unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Bydd cynrychiolwyr o’r Cyngor a’i ymgynghorwyr ar gael i drafod y cynigion ar y dyddiadau canlynol:
- Llyfrgell Rhymni - Dydd Mercher 17 Gorffennaf, 11.30am - 3pm
- Canolfan Gymunedol Abertyswg - Dydd Iau 18 Gorffennaf, 11.45am - 1.00pm
- Neuadd Eglwys Tyfaelog Sant, Pontlotyn - Dydd Iau 18 Gorffennaf, 2.30pm - 5.30pm
- Llyfrgell Tredegar Newydd - Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 10.30am-12.30pm
- Canolfan Gymunedol Deri - Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 2.30pm - 5.30pm
Gwybodaeth bellach A469 Troedrhiwfwuch - Cynllun Adfer Tirlithriadau