Mae datblygiad marchnad deniadol newydd yng nghanol tref Caerffili wedi symud gam yn nes at realiti heddiw, wrth i’r Cyngor Sir gadarnhau bod caniatâd cynllunio wedi’i roi.
Bydd y farchnad newydd yn darparu 28 o unedau ar raddfa fach a lle ar gyfer masnachwyr marchnad ‘gwib’ ychwanegol. Bydd y safle hefyd yn gartref i leoliad digwyddiadau allanol i wella’r atyniadau ymwelwyr sydd ar gael yng nghanol y dref ymhellach.
Mae disgwyl i’r safle agor ym mis Medi 2023.
Mae’r cynlluniau’n rhan o lasbrint adfywio ehangach ar gyfer y dref, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Tref Llywodraeth Cymru.
O fewn y cynllun hwn mae datblygiad gwesty newydd hefyd yn cael ei ystyried.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan:
“Mae’r prosiect hynod gyffrous hwn, y dylid ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn, yn dangos ein bwriad clir i wneud Caerffili yn ganol tref fywiog ar gyfer byw, siopa, twristiaeth ac ehangu economi’r nos.”
“Bydd cau Neuadd y Farchnad dan berchnogaeth breifat yn Stryd Pentre-baen yn hwyluso datblygiad defnydd cymysg newydd ar Stryd Pentre-baen a fydd yn darparu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen ynghyd â gofod masnachol a manwerthu newydd ar y llawr gwaelod, yn ogystal â chaniatáu creu'r datblygiad marchnad newydd hwn ar safle mwy amlwg.
Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jamie Pritchard:
“Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerffili. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i greu canol tref deniadol, bywiog y bydd pobl yn falch o ymweld ag ef, ac mae datblygiad newydd y farchnad yn rhan allweddol o’r weledigaeth hon. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael caniatâd cynllunio, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect cyffrous hwn yn dod yn fyw.
“Mae canol tref Caerffili yn barod ar gyfer twf wrth i’r cynnig marchnad newydd ddod yn ei flaen. Nid yn unig y bydd y datblygiad yn dod â phrofiad siopa cyffrous i'r gymuned, ond bydd hefyd yn cefnogi masnachwyr lleol ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth.
“Wedi’i lleoli ar y dramwyfa i gerddwyr rhwng y gyfnewidfa drafnidiaeth a’r castell, bydd y farchnad yn borth i Barc Dafydd Williams, a bydd yn allweddol wrth ddenu ymwelwyr i’r dref, gan helpu i roi Caerffili ar y map fel cyrchfan gyffrous a bywiog.
“Mae’r cyngor wrth ei fodd i gyflawni’r cynllun cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar y dref.”
Dywedodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James: “Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym yn darparu £100 miliwn rhwng 2022 a 2025 i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi ac mae ein polisi Canol Trefi yn Gyntaf, sydd wedi’i wreiddio yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru’r Dyfodol, yn golygu y dylai safleoedd canol trefi a dinasoedd fod yn ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ar leoliad gweithleoedd a gwasanaethau.”