News Centre

​Digwyddiad Hope Rescue, Sioe Gŵn ‘Barking Mad’, yn dychwelyd i Faenordy Llancaiach Fawr

Postiwyd ar : 21 Awst 2024

​Digwyddiad Hope Rescue, Sioe Gŵn ‘Barking Mad’, yn dychwelyd i Faenordy Llancaiach Fawr
Dogs running in the grass

Bydd y digwyddiad blynyddol, Sioe Gŵn ‘Barking Mad’, yn dychwelyd i Faenordy Llancaiach Fawr, ddydd Sadwrn 24 Awst am 11am.

Bydd yna stondinau, rafflau, deli cŵn, arddangosiadau, yn ogystal â chastell neidio i’r plant, ein siop elusen dros dro ac, wrth gwrs, y sioe gŵn llawn hwyl!

Bydd digwyddiad eleni yn cynnwys siaradwyr gwadd trwy gydol y dydd, felly, gallwch chi alw heibio'r babell a gwrando ar arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn ystod y digwyddiad. Ewch i wefan Hope Rescue i weld rhestr o'r siaradwyr. 

Mae'n costio £3 i oedolion a £1 i blant i fynd i mewn i'r digwyddiad (arian parod yn unig).

Mae'r sioe yn helpu codi arian er budd yr elusen, Hope Rescue, sy'n ceisio gwella lles cŵn o bob oed a brîd.
Mae'r sioe gŵn llawn hwyl bob amser yn boblogaidd, a bydd y ceisiadau i gyd yn cael eu cymryd ar y diwrnod. Gatiau'n agor am 11am i gofrestru ar gyfer y sioeau cŵn. Mae'r dosbarth cyntaf yn dechrau am hanner dydd ym mhrif gylch y sioe.

Mae'n costio £2 y dosbarth neu £15 i gyd i gael mynediad at y dosbarthiadau. Mae modd prynu'r rhain naill ai ar y diwrnod neu ar y wefan. Bydd gwobrau ym mhob categori i'r rhai sy'n dod yn gyntaf i bedwerydd, a bydd y rhai sy'n dod yn gyntaf hefyd yn cael eu gwahodd i'r categori ‘Gorau yn y Sioe’.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y gwaith maen nhw'n ei wneud a'r cŵn sy'n chwilio am gartrefi maeth ar wefan Hope Rescue. https://www.hoperescue.org.uk/

Mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan ac mae’n ein helpu ni i godi arian y mae mawr ei angen i achub bywydau cymaint o gŵn bob blwyddyn.

Felly dewch draw, cael hwyl a chefnogi achos gwerth chweil ar yr un pryd!



Ymholiadau'r Cyfryngau