News Centre

Myfyrwyr yn dathlu Diwrnod Canlyniadau UG a Safon Uwch

Postiwyd ar : 15 Awst 2024

Myfyrwyr yn dathlu Diwrnod Canlyniadau UG a Safon Uwch
Mae myfyrwyr, ysgolion a cholegau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn dathlu canlyniadau UG a Safon Uwch heddiw, dydd Iau 15 Awst.
 
Mae’r garreg filltir arwyddocaol hon yn nhaith academaidd dysgwyr ifanc yn ddechrau ar bennod newydd ym mhob un o’u bywydau. Bydd llawer nawr yn symud ymlaen i addysg bellach trwy fynychu'r brifysgol neu chwilio am gyfleoedd gwaith a phrentisiaethau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, am y canlyniadau gwych eleni, “Llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr sydd wedi casglu naill ai eu canlyniadau UG neu Safon Uwch y bore yma. Rydw i'n gwybod eich bod chi i gyd wedi gweithio'n galed ac rydw i’n gobeithio eich bod chi'n falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Rydw i'n dymuno'r gorau i chi wrth benderfynu pa lwybr rydych chi am ei ddilyn ar gyfer y dyfodol."
 
Fe dynnodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, sylw at gydymdrechion yr holl addysgwyr sydd wedi cyfrannu at flwyddyn ysgol lwyddiannus arall. “Mae Diwrnod Canlyniadau Arholiadau Safon Uwch yn cynrychioli’r gwaith caled parhaus sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni ac yn ein dosbarthiadau ni bob dydd.
 
Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus arall i’n holl fyfyrwyr ledled y Fwrdeistref Sirol. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonoch chi sy'n dathlu eich canlyniadau heddiw."
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o ymdrechion ein dysgwyr eleni ac yn dymuno'r gorau i bob myfyriwr wrth fynd ymlaen i'r cam nesaf. Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 22 Awst.


Ymholiadau'r Cyfryngau