News Centre

Timau ledled y Cyngor wedi cyflawni'r Ardystiad Deall a Derbyn Awtistiaeth

Postiwyd ar : 20 Awst 2024

Timau ledled y Cyngor wedi cyflawni'r Ardystiad Deall a Derbyn Awtistiaeth
Mae’r cynllun ‘Deall a Derbyn Awtistiaeth i sefydliadau wedi’i greu gan Dîm Niwroamrywiaeth Cenedlaethol Cymru sydd wedi cyfuno eu hymgyrch flaenorol Weli di Fi a'r cynllun Ymwybodol o Awtistiaeth.
 
Mae'r cynllun wedi'i adeiladu o amgylch dau fodiwl eDdysgu y gall sefydliadau gael mynediad atyn nhw am ddim a'u cwblhau nhw ar-lein yn eu hamser eu hunain. 
 
Mae timau ledled y Fwrdeistref Sirol wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni’r ardystiad ac mae Caffi Islwyn a chlwb y tu allan i’r ysgol Ysgol y Twyn (Caerffili) wedi cael eu tystysgrifau eleni. 
 
Mae pob llyfrgell ledled y Fwrdeistref Sirol, y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl wedi cyflawni’r ardystiad. Gall unigolion deimlo'n hyderus, pan fyddan nhw’n gweld y dystysgrif, bod staff y sefydliad wedi ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o Awtistiaeth. 
 
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwblhau'r eDdysgu fel sefydliad, ewch i Awtistiaeth Cymru neu gysylltu â'ch Swyddog Arweiniol Awtistiaeth lleol.  


Ymholiadau'r Cyfryngau