News Centre

Swyddog y Cyngor yn cael ei urddo i Orsedd y Beirdd

Postiwyd ar : 07 Awst 2024

Swyddog y Cyngor yn cael ei urddo i Orsedd y Beirdd
Bydd Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Geraint Ashton, yn cael ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd eleni.  Mae Gorsedd y Beirdd yn cynnwys beirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sydd wedi cyfrannu at Gymru, yr iaith, neu ei diwylliant.
 
Yn wreiddiol o Dredomen, mynychodd Geraint Ysgol Lewis Pengam, lle astudiodd y Gymraeg ar gyfer TGAU a Lefel A, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, gan astudio’r Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd.  Bu rhan o'i astudiaethau yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle bu'n astudio Gwyddeleg modern a hen Wyddeleg. Ar ôl cwblhau ei radd, arhosodd Geraint yn y brifysgol i gwblhau ei gymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), gan wneud lleoliadau yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ac Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng Nghaerffili.
 
Ar ôl cyflawni ei TAR, dychwelodd Geraint i’r Fwrdeistref Sirol a dechreuodd weithio yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn dysgu Cymraeg a Mathemateg yn 2013, lle arhosodd tan fis Chwefror 2019, cyn gadael i symud i Batagonia am weddill y flwyddyn er mwyn dysgu Cymraeg i oedolion a phlant. Ym Mhatagonia, trochodd Geraint ei hun yn y diwylliant, gan ddod i adnabod aelodau o’r cymunedau Cymraeg yno a theithio rhwng trefi lleol yn cynnal dosbarthiadau a digwyddiadau Cymraeg.
 
Ar ôl dychwelyd o Batagonia, cafodd Geraint swydd addysgu yn ôl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn penderfynu newid llwybr gyrfa i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Gymraeg, dau faes mae’n teimlo’n angerddol iawn yn eu cylch.
 
Enw Geraint yn yr Orsedd fydd Wil Rhymni, sy'n tarddu o’i enw canol ei hun ac enw canol ei dad-cu ar ochr ei fam, a Rhymni o dref enedigol ei dad-cu ar ochr ei dad.
 
Mae enwogion sy'n aelodau o'r Orsedd, sy’n cael eu hadnabod fel derwyddon, yn cynnwys y cyflwynwyr Huw Stephens ac Alex Jones, sêr Hollywood Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y sêr rygbi George North a Jamie Roberts, athletwyr fel Tanni Grey-Thompson a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens, ymhlith llawer mwy.  Mae traddodiad modern yr Orsedd yn dyddio'n ôl i 1792, pan gynhaliodd Iolo Morganwg yr Orsedd gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain.
 
Bydd Geraint yn cael ei urddo mewn gwisg werdd, sy'n dynodi aelodau sy'n arbenigo ym myd y celfyddydau. Mae hynny'n digwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad.


Ymholiadau'r Cyfryngau