News Centre

Disgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu diwrnod canlyniadau TGAU

Postiwyd ar : 22 Awst 2024

Disgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu diwrnod canlyniadau TGAU
Mae ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu canlyniadau arholiadau TGAU heddiw wrth i ddisgyblion a wnaeth sefyll arholiadau yn nhymor yr haf gasglu eu canlyniadau.
 
I nodi’r achlysur, mae disgyblion o bob rhan o’r Fwrdeistref Sirol wedi dychwelyd i’w hysgolion i ddathlu eu cyflawniadau gydag athrawon a staff wrth iddyn nhw gael gwybod am eu perfformiad yn yr arholiadau hyn sy'n garreg filltir bwysig.
 
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer y rhai sy’n cael canlyniadau, gan gynnwys mynd ymlaen i addysg bellach naill ai yn y chweched dosbarth neu mewn sawl coleg yn y Fwrdeistref Sirol. Mae gan ddisgyblion hefyd yr opsiwn i chwilio am brentisiaethau neu gyfleoedd cyflogaeth.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Da iawn a llongyfarchiadau i’n holl ddisgyblion sydd wedi casglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Rydw i'n gobeithio bod yr holl waith rydych chi wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi'r canlyniadau roeddech chi'n eu dymuno.
 
Hoffwn i ymestyn fy nymuniadau gorau i chi wrth symud ymlaen p’un a hoffech chi aros mewn addysg a chwblhau eich cymwysterau Safon Uwch neu, archwilio opsiynau gwahanol. Am y tro, mwynhewch eich dathliadau a gweddill gwyliau’r haf gyda ffrindiau a theulu – rydych chi’n ei haeddu”
 
Meddai Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod canlyniadau llwyddiannus arall i’n Bwrdeistref Sirol sy’n adlewyrchu’r gwaith caled y mae athrawon, staff a disgyblion wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.
 
Rydw i'n gwybod y bydd heddiw yn ddiwrnod balch i bob un o'n disgyblion a bydd ein cymunedau ysgol anhygoel yn cynorthwyo ein dysgwyr yn eu camau nesaf. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonoch chi sy'n dathlu eich canlyniadau heddiw.”
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o ymdrechion ein dysgwyr eleni ac yn dymuno'r gorau i bob disgybl wrth fynd ymlaen i'r cam nesaf.


Ymholiadau'r Cyfryngau