News Centre

Cystadleuaeth Ysgolion LEAD

Postiwyd ar : 15 Awst 2024

Cystadleuaeth Ysgolion LEAD
Yn ddiweddar, fe wnaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ‘Caerffili Saffach’ gynnal cystadleuaeth ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i greu poster sy’n hyrwyddo'r Fenter Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Lleol ar Gŵn (LEAD). 
 
Mae LEAD yn ceisio rhoi cyngor ac arweiniad i'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â chŵn, yn ogystal â gwella diogelwch a lles cŵn. Mae hefyd yn delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan unigolion sydd â chŵn i amddiffyn aelodau’r cyhoedd a thawelu eu meddwl.  
 
Dywedodd yr Arolygydd Huw Morrisey o Heddlu Gwent, “Cafodd LEAD ei lansio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Medi 2023. Mae'r fenter yn annog partneriaid i gydweithio, hyrwyddo ac addysgu aelodau'r cyhoedd am fod yn berchnogion cŵn cyfrifol.
 
Dim ond un ffordd o hyrwyddo LEAD yw'r gystadleuaeth hon a bydd dyluniad yr enillydd yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r fenter. Hoffwn i ddiolch i’r holl blant a gymerodd ran a llongyfarch yr enillwyr; gobeithio y byddan nhw'n mwynhau eu gwobrau dros wyliau’r ysgol”
 
Yr enillwyr yw:  
1af Isabella-Rose (Ysgol Gymraeg Bro Allta)
2il Lily (Ysgol Gynradd Pengam)
3ydd Olivia (Ysgol Gynradd Ystrad Mynach)
 
Hoffai Caerffili Saffach ddiolch i The Meadows Farm Village, Canolfan Gweithgareddau Dyffryn Taf, United Welsh, Tesco Ystrad Mynach, Pobl a Linc am eu haelioni caredig wrth roi gwobrau i enillwyr y gystadleuaeth, yn ogystal â gwobrau ariannol i'r ysgolion. 

Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfon neges atom ni ar Facebook neu Twitter, i roi gwybod am fridiau anghyfreithlon, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.


Ymholiadau'r Cyfryngau