News Centre

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Caws Caerffili 2024 – dydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi!

Postiwyd ar : 05 Awst 2024

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Caws Caerffili 2024 – dydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi!
Mae llwyddiant Gŵyl y Caws Bach am y ddwy flynedd ddiwethaf yn dyst bod y prif ddigwyddiad hwn yng Nghaerffili yn bell o fod yn “fach”! Ac er nad yw’r Caws Mawr yn gallu digwydd yn ei fformat traddodiadol, rydyn ni'n gwneud y digwyddiad eleni yn fwy ac yn well trwy ailgyflwyno elfennau o ddigwyddiad enwocaf Caerffili – felly, rydyn ni'n cyflwyno Gŵyl Caws Caerffili!
 
Bydd y digwyddiad eleni yn cynnwys canol tref Caerffili i gyd, gan gynnwys y tu ôl i Gastell Caerffili, lle bydd ffair fwy a bydd y neuaddau bwyd poblogaidd yn dychwelyd, gan gynnwys sawl stondin gaws. Gerllaw, bydd ardal bicnic i chi ymlacio a mwynhau tamaid i'w fwyta wrth i chi wrando ar gerddoriaeth fyw wych o lwyfan Ffos y Castell, un o dri llwyfan cerddoriaeth ledled safle'r digwyddiad, yn ogystal â Llwyfan y Foneddiges Werdd ar Cardiff Road a Phrif Lwyfan y Tŵr Cam ym Maes Parcio'r Twyn. Y prif artistiaid eleni fydd Big Mac’s Wholly Soul Band ddydd Sadwrn a Slipped Disco ddydd Sul.
 
Bydd mwy o stondinau bwyd, diod a chrefft drwy gydol y digwyddiad, gan gynnig amrywiaeth ehangach o ddanteithion i ddewis ohonyn nhw. Hefyd, peidiwch ag anghofio i weld beth fydd ar gael gan fusnesau anhygoel canol tref Caerffili, yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd yn Brew Monster, Ffos Caerffili, Llyfrgell Caerffili, Marchnad Crefftwyr Caerffili, Ffair a Marchnad Crefft Crafty Legs, Marchnad Bwyd a Chrefft Cwrt y Castell ac, wrth gwrs, Castell Caerffili ei hun! Mae gweithgareddau ac adloniant eraill yn cynnwys arddangosfeydd anifeiliaid, sioeau Pwnsh a Jwdi, paentio wynebau a gweithdai crefft.
 
Mae digwyddiad eleni hefyd yn golygu bydd Ras Gaws Caerffili yn dychwelyd ddydd Sadwrn 31 Awst! A hithau wedi'i threfnu gan Chwaraeon Caerffili a'i noddi gan eInfinity Limited, bydd y ras yn cynnwys timau o bedwar yn cystadlu i ennill gwobr o £100 drwy gario olwynion caws o gefn Castell Caerffili i'r blaen. Hefyd, bydd medalau am y wisg ffansi orau a bydd yr holl gystadleuwyr yn cael tocynnau ffair am ddim. Mae mynediad am ddim – i gofrestru, e-bostiwch meredro@caerffili.gov.uk neu ffonio 07919 627426.
 
Mae Gŵyl Caws Caerffili yn digwydd ddydd Sadwrn 31 Awst rhwng 9am ac 8pm a dydd Sul 1 Medi rhwng 9am a 5pm. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
 
Ymunwch â digwyddiad Facebook swyddogol Gŵyl Caws Caerffili yma: https://bit.ly/3WICBqH
 
Mae Gŵyl Caws Caerffili yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gyngor Tref Caerffili a'i threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
 
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ennyn mwy o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy


Ymholiadau'r Cyfryngau