News Centre

Gweddnewid cofeb yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 07 Awst 2024

Gweddnewid cofeb yng Nghaerffili
Mae cofeb yn Bedwas Road, Caerffili, wedi cael ei gweddnewid – 20 mlynedd ar ôl iddi gael ei gosod.

Fe alwodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar sgiliau'r saer maen arbenigol lleol Paul Horne i drawsnewid y gofeb, a oedd wedi'i difrodi gan draul.

Cafodd cyllid ei ddarparu ar gyfer y gwaith gan dîm Cartrefi Caerffili y Cyngor, sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tai ledled y Fwrdeistref Sirol, a'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Roedd trigolion wedi codi pryderon am y strwythur yn dirywio, felly, roedden ni'n awyddus i wneud rhywbeth ynghylch hynny. Roedden ni'n falch o allu cefnogi artist lleol ac yn falch iawn o weld canlyniad ei ymdrechion.”


Ymholiadau'r Cyfryngau