News Centre

Prawf ar System Rybuddion Argyfwng newydd Llywodraeth y DU ar 23 Ebrill

Postiwyd ar : 18 Ebr 2023

Prawf ar System Rybuddion Argyfwng newydd Llywodraeth y DU ar 23 Ebrill

Mae system rybuddion argyfwng newydd Llywodraeth y DU nawr yn fyw. Bydd y system yn cysylltu â phobl drwy eu ffônau symudol nhw pan fydd perygl i fywyd.

Bydd Llywodraeth y DU rhoi’r system rybuddion ar brawf ar 23 Ebrill am 3pm. Ni fydd rhaid i chi wneud unrhyw beth.

Bydd y system yn cael ei ddefnyddio i’ch rhybuddio chi am argyfyngau, fel llifogydd difrifol.

Bydd y rhybuddion argyfwng yn cael eu hanfon i bob ffôn symudol cydweddol o fewn yr ardal sydd mewn perygl. Ni fydd eich lleoliad chi’n cael ei dracio, nid oes angen eich rhif ffôn chi a ni fydd eich data personol chi’n cael ei gasglu. Dim ond y llywodraeth a’r gwasanaethau argyfwng fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych chi ffôn symudol, byddwch chi’n parhau i gael hysbysiadau drwy sianelau eraill.

Os cewch chi rybudd argyfwng ar eich ffôn, byddwch chi’n clywed sŵn uchel tebyg i seiren. Bydd neges ar eich sgrin chi’n sôn wrthoch chi am yr argyfwng a’r ffordd orau i ymateb iddo. Gallwch chi wirio bod y rhybudd yn ddilys ar: gov.uk/alerts/cy

Os ydych chi’n cael rhybudd, darllenwch yn ofalus gan ddilyn y cyfarwyddiadau.

Gallwch chi optio allan o gael rhybuddion argyfwng; am ragor o wybodaeth am sut i optio allan, ewch i: www.gov.uk/alerts/about.cy 

I ddarganfod mwy am rybuddion argyfwng, ewch i: www.gov.uk/alerts/about.cy



Ymholiadau'r Cyfryngau