News Centre

Caerffili yn datgelu marchnad newydd wrth i waith cychwynnol ar Gynllun Adfywio 2035 dechrau

Postiwyd ar : 03 Ebr 2023

Caerffili yn datgelu marchnad newydd wrth i waith cychwynnol ar Gynllun Adfywio 2035 dechrau
Ffos Caerffili.

Cyngor Caerffili yn datgelu dyluniadau terfynol a brandio marchnad newydd wrth i ailddatblygiad uchelgeisiol y dref ddod yn ei flaen.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am frandio’r cyntaf o’i brosiectau adfywio, Ffos Caerffili, sef marchnad fodern sydd y prosiect mawr cyntaf fel rhan o uwchgynllun ehangach Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae’r lle newydd wedi’i enwi yn Ffos Caerffili, sy’n golygu ‘Caerphilly Moat’ yn Saesneg, gan adlewyrchu treftadaeth gyfoethog y dref a’r gaer ganoloesol eiconig, Castell Caerffili. Bydd Ffos Caerffili yn dathlu hanes bywiog Caerffili a'r ysbryd cymunedol lleol. Bydd Ffos Caerffili wedi’i leoli ar Cardiff Road, gan ei gysylltu’n gyfleus â’r Stryd Fawr a’r parc. Bydd y datblygiad yn ofod unigryw i siopa, gweithio ac ymgasglu gyda ffrindiau a theulu, yn ogystal â rhywle i fwynhau’r golygfeydd o'r castell a gweddill canol y dref.

Wedi'i adeiladu o gynwysyddion llongau, bydd Ffos Caerffili yn ofod ecogyfeillgar, ffres, modern, amlswyddogaethol ac yn gartref i gymysgedd o wyth ar hugain o fwytai, siopau annibynnol a mannau gwaith. Yn ogystal â'r unedau masnachol, bydd Ffos Caerffili yn cynnwys teras allanol a fydd yn caniatáu bwyta yn yr awyr agored a lle ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau cerddoriaeth awyr agored. Bydd ehangu'r cyfleoedd diwylliannol yng Nghaerffili yn flaenoriaeth ar gyfer y prosiect datblygu cyfan, gan greu lle i ymwelwyr weithio, cymdeithasu ac ymlacio.

Mae disgwyl i'r farchnad agor yn yr hydref, gyda'r gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod y gwanwyn. Bydd Tref Caerffili 2035 yn gwneud Caerffili yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Bydd Ffos Caerffili yn creu canolbwynt cyffrous yn y dref, gan ddod â newid cyflymdra i'w groesawu.



Ymholiadau'r Cyfryngau