Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
Canolfan Gymunedol Oakdale yn Ennill Grant i Uwchraddio Cyfleusterau Cegin
News Centre
Canolfan Gymunedol Oakdale yn Ennill Grant i Uwchraddio Cyfleusterau Cegin
Postiwyd ar : 03 Ebr 2023
Mae canolfan arobryn Canolfan Gymunedol Oakdale yn cynorthwyo llawer o grwpiau gwirfoddol lleol ac yn parhau i wella ei chyfleusterau ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Maen nhw wrth galon y gymuned ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau at ddant pob grŵp oedran, o’r cyfnod cyn ysgol i bensiynwyr. Mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys clwb cinio, tai chi, grwpiau celf a chrefft, grwpiau colli pwysau, grwpiau hanes a chlybiau ffotograffiaeth. Mae’r Ganolfan hefyd wedi sefydlu Hwb Croeso Cynnes yn ddiweddar, sy’n cynnig lluniaeth am ddim a gofod cynnes i fynd i’r afael ag ynysigrwydd llawer o aelodau'r gymuned.
Cost y prosiect uwchraddio oedd £3,296.00, gyda Chanolfan Gymunedol Oakdale yn cael £2,636.80 o grant. Cafodd y grant hwn ei ddyfarnu i Ganolfan Gymunedol Oakdale trwy Gronfa Budd Cymunedol Oakdale Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei gweinyddu gan dîm Menter Fusnes ac Adnewyddu. Maen nhw'n gwneud hynny ar ran Resonance - Pen y Fan Windfarm Ltd, sy'n darparu'r cyllid i gynorthwyo prosiectau cymunedol o fewn radiws o 2 filltir i'r fferm wynt.
Cafodd y grant ei ddefnyddio i uwchraddio'r brif gegin yn y ganolfan, gan gynnwys ailosod wynebau gweithio sydd wedi treulio a difrodi, adleoli unedau a gosod tap dŵr poeth newydd. Mae'r gwelliannau hyn wedi bod o fudd i'r holl weithgareddau a gwasanaethau lleol sydd ar gael ar gyfer holl ddefnyddwyr y ganolfan. Bydd yr uwchraddio hefyd yn helpu i ddenu mwy o ddefnyddwyr achlysurol, gan ei gwneud yn fwy deniadol ar gyfer llogi preifat a defnyddio mannau cyfarfod.
Mae gan y ganolfan brif neuadd sydd ag 80 sedd, cyfleusterau taflunio ar gyfer gliniaduron neu gyflwyniadau DVD, system sain a dolen glyw. Mae ganddi hefyd neuadd isaf, gyda seddi i 60 o bobl, gyda theledu sgrin fflat/chwaraewr DVD. Mae'r ganolfan hefyd yn darparu wi-fi am ddim, ac mae mynediad llawn i bobl anabl a digon o leoedd parcio am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â llogi Canolfan Gymunedol Oakdale neu am wybodaeth ynglŷn â gweithgareddau a digwyddiadau, cysylltwch â:
Ffôn – 07969 291157
E-bost – oakdalecomcentre@gmail.com
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y