Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
News Centre
Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
Postiwyd ar : 24 Ebr 2023
Blackwood Town Centre has become the latest town to benefit from free public access Wi-Fi.
Canol Tref Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i fanteisio ar fynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim. Fel rhan o ddarpariaeth ehangach sydd eisoes wedi’i chyflwyno ym Margod, Rhymni, Ystrad Mynach a Rhisga, nod y fenter yw gwella profiad ymwelwyr â’r stryd fawr drwy helpu pobl i gael mynediad at siopau ar-lein ac ymgysylltu â busnesau lleol ar-lein.
Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y pedair canol tref arall ledled y Fwrdeistref Sirol gyda’r ddarpariaeth yn cyfrannu at gymorth parhaus y Cyngor i adfywio canol ein trefi.
Mae'r fenter yn rhan allweddol o'r ymgyrch Dewis Lleol sy'n ceisio annog trigolion i
#DewisLleol
ac archwilio pob un o'n canol trefi allweddol i ddiwallu anghenion ymwelwyr o ran siopa ac anghenion bob dydd.
Gall trigolion gysylltu dyfeisiau mewn ardal eang yng nghanol y dref ac o'i chwmpas.
Mae'r ddarpariaeth ar gael drwy'r rhwydwaith
FreeCCBCWifi
. Bydd y platfform yn gofyn i chi gofrestru eich manylion, cyn i chi fewngofnodi, ond dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.
Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae cadw pobl mewn cysylltiad wrth ddefnyddio'r stryd fawr yn hwb enfawr i ganol ein trefi. Mae'r ddarpariaeth hon yn gyfle cyffrous arall i dynnu pobl yn ôl i ganol trefi lleol.
"Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein y cyngor lleol, y Llywodraeth a gwasanaethau iechyd.
"Bydd y gwasanaeth hefyd yn galluogi trigolion a busnesau lleol i ddefnyddio datrysiadau digidol i helpu gwella profiad cyffredinol ymwelwyr i bawb.
"Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi cynnig ar y gwasanaeth gwych hwn y tro nesaf byddwch chi'n ymweld â chanol ein trefi, ac rydyn ni'n falch o barhau i chwalu un o’r rhwystrau sy’n atal pobl leol rhag defnyddio busnesau lleol.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymgyrch Dewis Lleol, ewch i
www.visitcaerphilly.com/cy
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y