Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cynllun Teledu Cylch Cyfyng

Adolygiad ac Adroddiad Blynyddol

16 Mai 2024

Eleni cafodd yr adolygiad ei wneud o bell drwy gylchu adroddiadau a thrafodaeth dros y ffôn/Microsoft Teams ar 21 Mai 2024.

Roedd y canlynol yn bresennol:

Mrs J. Morgan - Rheolwr Safonau Masnach, Trwyddedu a Chofrestru

Mr C. Nesling - Rheolwr yr Ystafell Reoli

Cynhaliwyd yr Adolygiad Blynyddol yn unol â gofynion Cod Ymarfer y Comisiynydd Gwybodaeth ar TCC, Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Swyddfa Gartref ac yn unol ag egwyddorion Rheoli Ansawdd.

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ne ddwyrain Cymru ac mae’n pontio’r ffin rhwng siroedd hanesyddol Morgannwg a Sir Fynwy . Mae’n ffinio Caerdydd i’r de orllewin, Casnewydd i’r de ddwyrain, Torfaen i’r dwyrain, Blaenau Gwent i’r gogledd ddwyrain, Powys i’r gogledd, Merthyr Tudful i’r gogledd orllewin a Rhondda Cynon Taf i’r gorllewin.

Poblogaeth 176000

Ardal 278 km2

Datganiad Cenhadaeth

Mae Perchnogion y Cynllun TCC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a’r tîm rheoli a’i holl gyflogeion wedi ymrwymo i wireddu amcanion y Cynllun drwy gydymffurfio â’r Polisïau a’r Gweithdrefnau a luniwyd gan y rheolwyr ar gyfer rheoli’r Cynllun, a thrwy hynny sicrhau gwerth yr holl ddata sy'n cael ei storio gan y Cynllun fel tystiolaeth yn unol â'r amcanion sydd wedi’u datgan, a chan anrhydeddu hawliau dynol a hawliau sifil pob testun a fydd yn cael ei gipio ar TCC.

Caiff y nod hwn ei gyflawni drwy lynu'n gaeth at bolisïau rheoli'r Cynllun a defnyddio gweithdrefnau recriwtio a hyfforddi a fydd yn sicrhau bod pob aelod o staff yn addas at y dasg ynghyd â darparu hyfforddiant priodol i baratoi'r unigolyn ar gyfer yr heriau ynglŷn â chyflawni swydd flaenllaw wrth reoli TCC.

Bydd Perchnogion y Cynllun yn cynnal polisïau a gweithdrefnau i fodloni gofynion y canlynol:

  • BS 7958: 2015
  • BS 10800: 2020
  • BS 7858:2019
  • Cod Ymarfer y Comisiynydd Gwybodaeth ar TCC
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA)
  • Y Ddeddf Hawliau Dynol
  • Y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (HSW)
  • Y Ddeddf Cyfle Cyfartal
  • Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Swyddfa Gartref
  • Cod Ymarfer Comisiynwyr Camerâu Gwyliadwriaeth

Caiff ein hymrwymiad ei gyfleu i'r holl gyflogeion a rhanddeiliaid, a’i ddeall ganddyn nhw, drwy hyfforddiant, cylchlythyrau a thrwy ei ledaenu i'r bau gyhoeddus.

Byddwn yn datblygu ac yn hybu diwylliant o dryloywder yn y broses o reoli’n Cynllun er mwyn gwella hyder ein rhanddeiliaid yng nghysyniad gwyliadwriaethTCC a byddwn yn adolygu’n polisïau a'n hamcanion yn flynyddol er mwyn sicrhau gwerth parhaus y gwasanaeth.

Cofnodir pynciau’r agenda a’r deilliannau cysylltiedig isod.

Adolygu amcanion y cynllun gan gynnwys unrhyw newidiadau polisi

Mae amcanion a pholisi'r cynllun yn parhau i gael eu craffu'n barhaus a, lle bo'n briodol, yn cael eu hadolygu. O ganlyniad i’r archwiliad cydymffurfio ar gyfer Safon Arian yr Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol yn haf 2022, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) wedi cytuno i gynnal gwiriadau credyd ar bob gweithiwr newydd fel rhan o BS7858: 2019

Mae diben cynllun TCC CBSC yn parhau i fod yr un fath ac yn briodol.

Newidiadau i ffiniau’r cynllun a nifer/lleoliadau camerâu

Mae ffiniau’r cynllun yn dal i fod yr un fath.

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 170+ o gamerâu teledu cylch cyfyng (TCC) mewn Mannau Cyhoeddus yn cael eu monitro gan yr Ystafell Reoli.

Ar hyn o bryd, mae gan CBSC gamerâu 24 * 4G sy'n cael eu defnyddio, ac mae'r Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd perthnasol wedi'u cynnal. Cafodd camerâu newydd eu gosod yn lle 3 o'r rhain fel rhan o welliannau parhaus i'r cynllun Teledu Cylch Cyfyng (TCC) a chafodd un ychwanegol ei brynu. Bydd ceisiadau am ddefnydd trwy CD080 yn cael eu gwneud. Tra bod yr holl gamerâu yn cael eu monitro gan yr Ystafell Reoli TCC, mae 2 gamera yn cael eu gosod drwy Orfodi Tenantiaeth, 1 wedi'i brynu gan CBSC gyda chyllid gan Bartneriaeth Penllwyn ar gyfer ardal Penllwyn, 3 yn cael eu defnyddio gan yr Uned Diogelwch Cymunedol, 5 yn osodiadau parhaol a 7 yn rhai tymor byr sy'n cael eu rheoli gan Ystafell Reoli TCC. Prynodd Heddlu Gwent 6 arall drwy gyllid Strydoedd Saffach ac maen nhw'n cael eu rheoli ar y cyd rhwng CBSC a Heddlu Gwent.

Mae'r uned TCC symudol yn parhau i fod yn weithredol, wedi'i staffio gan y Wardeniaid Diogelwch Cymunedol. Cyn eu defnyddio, caiff ceisiadau eu hanfon ymlaen at Reolwr yr Ystafell Reoli ar ffurflen CD079 sy'n cwblhau'r asesiad ar addasrwydd y lleoliad a'r Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd (D.P.I.A). Mae data yn cael eu rheoli yn unol â gweithdrefnau Wardeniaid Diogelwch Cymunedol gan ddefnyddio system rheoli tystiolaeth DEMS.

Mae CBSC yn adnewyddu Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd Data ar bob system gamera wrth i'r rhai presennol ddod i ben. Yn y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, cafodd cyfanswm o 68 o Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd eu cwblhau gyda 25 ar systemau camerâu teledu cylch cyfyng cyhoeddus, parhaol a 20 ar y system 4G sy'n gallu cael ei hadleoli. Cafodd 23 arall eu cymeradwyo ar gyfer defnydd yr uned TCC Symudol.

Cafodd rhestr o'r camerâu sydd ar gael ar hyn o bryd ei dosbarthu, a bydd yn cael ei hatodi i'r Adroddiad Blynyddol hwn ar gyfer y Comisiynwyr Gwybodaeth (Atodiad 1).

Mae CBSC wedi ymrwymo i gontract gyda Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent (BGCBC) i fonitro eu camerâu mewn 6 chanol tref, Abertyleri, Blaenau, Brynmawr, Cwm, Glyn Ebwy a Thredegar sydd wedi'u gweithredu yng ngwanwyn 2023.

Mae TCC Caerffili a Heddlu Gwent yn parhau â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth o ran storio gwybodaeth yn Locer Tystiolaeth CBSC, mynediad yr Heddlu i’r Ystafell Reoli TCC ac ymdrin â cheisiadau'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i ddiwygio'n ddiweddar i gynnwys ardal CBSBG hefyd.

Adolygu’r rhestr cyflenwyr o ddewis a chytundebau cyfredol

Trafodwyd y rhestr o gyflenwyr presennol yn ystod y cyfarfod ac fe gadarnhawyd y byddant yn parhau i gael eu defnyddio. Mae’r holl gyflenwyr a restrir wedi darparu gwasanaeth da ar ran y cynllun yn hanesyddol, felly ni fyddant yn cael eu dileu am unrhyw reswm negyddol. Mae'r contract hwn i fod i gael ei roi allan i dendr ym mis Gorffennaf / Awst 2024 gyda dyddiad cychwyn o 4 Hydref 2024, oni bai bod y ddau barti yn cytuno ar yr opsiwn o flwyddyn ychwanegol.

Mae’r broses o ddethol cyflenwyr allanol yn cael ei chwblhau yn unol â Gweithdrefnau Caffael a Rheolau Sefydlog CBSC.

Adolygiad o’r Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth/codau ymarfer perthnasol

Daeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Ddeddf Diogelu Data 2018 i rym ar 25 Mai 2018 ac mae’r holl Bolisïau a Gweithdrefnau perthnasol wedi cael eu haddasu i gynnwys y Ddeddf a’r Rheoliadau newydd.

Bu TCC CBSC yn adolygu’r ffurflenni a ddefnyddir ar gyfer Ceisiadau Data ac mae’n parhau i ddefnyddio’r 4 ffurflen isod gydag addasiadau ar gyfer GDPR 2016

  • Rheolaeth Fewnol ar gyfer Ceisiadau CBSC
  • Ceisiadau Mewnol gan CBSC ar gyfer TCC - Erlyniadau Troseddol
  • Cais gan Drydydd Parti
  • Cais am fynediad gan Destun y Data

Mae pob cais Rhyddid Gwybodaeth bellach yn cael ei gyfeirio drwy Uned Wybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae gan CBSC ffurflen Asesiad o Effaith ar Breifatrwydd (Atodiad 2) ac mae’r asesiadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer pob camera sy’n cael ei asesu yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a GDPR.

Gwneir ceisiadau i gael defnyddio camerâu 4G drwy’r ffurflenni atodol (Atodiad 7)

Gosodir Rhwystrau Preifatrwydd ar gamerâu sy’n goruchwylio ardaloedd preswyl.

Adolygiad o wybodaeth sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd.

Mae gwefan CBSC yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â lleoliadau camerâu, Asesiadau o Effaith ar Breifatrwydd, y weithdrefn gwyno a chopi o’r adroddiad Blynyddol ac ystadegau. Mae gwybodaeth wedi cael ei throsglwyddo oddi ar wefan Caerffili Saffach i wefan CBSC ac mae gwefan Caerffili Saffach yn ailgyfeirio defnyddwyr.

Rydym ni’n parhau i ddefnyddio pob arwydd TCC a gafodd eu rhoi mewn lle ym mis Ebrill 2016 (Atodiad 8) i gynnwys cyfeiriad y wefan ayb ac er mwyn sicrhau bod unrhyw arwyddion a oedd wedi cael eu difrodi neu eu gwaredu yn cael eu hailosod a bod ardaloedd sy’n brin o arwyddion yn derbyn digon o sylw. Mae 793 o arwyddion wedi cael eu gosod/eu hailosod ar hyn o bryd ac mae archwiliad o’r arwyddion presennol ar waith er mwyn gwirio a oes angen eu hatgyweirio neu eu hailosod ayb.

Adolygiad o Bolisïau Cyfle Cyfartal ac Iechyd a Diogelwch

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ym mhob agwedd o gyflogaeth a bydd yn cymryd camau cadarnhaol i leihau unrhyw anfantais sy’n cael eu profi gan unigolion a grwpiau. Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod bod cydraddoldeb yn cyfrannu at ddefnyddio sgiliau a gallu gweithwyr yn y modd mwyaf effeithiol. Er mwyn sicrhau’r gwerth gorau posibl, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori ym mhob maes yn ymwneud â chyflogaeth a darparu gwasanaethau.

Mae asesiadau gweithwyr nos wedi dod yn orfodol ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio gyda'r nos bob 3 blynedd. Mae gweithredwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) hefyd yn cael cynnig asesiadau ychwanegol yn ystod eu blwyddyn gyntaf a'u hail flwyddyn. Mae'r asesiadau gweithiwr nos yn cael eu cynnig i'r holl staff yn unol â'r cylch 3 blynedd.

Amserlen cynnal a chadw a chanlyniadau profion perfformiad

Mae'r gwaith o gynnal a chadw'r System Teledu Cylch Cyfyng (TCC) yn parhau gyda CDS Security and Fire, sydd wedi cael contract tair blynedd gyda'r opsiwn i'w ymestyn am flwyddyn arall yn unol ag amodau cynnig gwreiddiol y tendr. Cafodd y contract cynnal a chadw ei ddyfarnu ar 4 Hydref 2021.

Mae Shield Fire and Security Services Ltd yn darparu’r Gwasanaeth Ymgynghori a gafodd ei gyflwyno a'u dyfarnu ar 4 Hydref 2021.

Mae Heddlu Gwent wedi cael cyllid Strydoedd Saffach sydd wedi darparu cyllid i newid yr holl gamerâu yng nghanol tref Coed Duon ac i uwchraddio rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).

Mae rhwydwaith PSBA Bargod hefyd wedi'i uwchraddio ac mae holl gamerâu canol y dref wedi'u disodli.

Mae gwelliannau digidol i ddarpariaeth ffilm yn cynnwys y gallu i uwchlwytho lluniau teledu cylch cyfyng yn uniongyrchol i system NICE (yn llawn hefyd) mewn ymateb i geisiadau gan heddlu Gwent.

Mae Sharepoint hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau nad ydyn nhw'n ymwneud â’r heddlu gyda DVDs/gyriannau caled yn cael eu defnyddio ar gyfer ceisiadau data mawr iawn yn unig.

Adroddiad blynyddol ac ystadegau ategol

Mae’r meini prawf a gytunwyd ar gyfer adrodd ar yr ystadegau’n parhau i fod yr un fath â’r blynyddoedd blaenorol ac yn unol â BS7958:2015 (Atodiadau 3, 4 a 5).

Mae dadansoddiad o’r Ystadegau Troseddu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili oddi ar wefan UKCrimeStats.com hefyd wedi’i gynnwys (Atodiad 6)

Adborth a barn yr heddlu ar y TCC (Atodiad 9)

Ethol aelodau’r bwrdd/partneriaid y cynllun

Amherthnasol

Adolygu cwynion

Dim cwynion.

Adolygiad o ganlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol, gan gynnwys dilysu camau adfer a dadansoddi er mwyn ymgymryd â chamau ataliol

Fel rhan ganolog o’r dyletswyddau goruchwyliaeth, mae Mr Nesling yn cynnal archwiliadau dynamig/rhagweithiol rheolaidd o ddata sy’n cael eu storio, ar sail barhaus ond anffurfiol, yn ogystal â gwiriadau misol wedi’u harchwilio. Mae copïau o’r taflenni cofnodi ar gael i’w harchwilio.

Enghraifft o archwiliad o’r fath yw dadansoddiad o ddata o’r system ddigidol, Synetics, sy’n amlygu gweithrediad y camerâu TCC gan y gweithwyr TCC, gan gofnodi nifer yr achosion sy’n cael eu hadrodd ac yn cael eu monitro ganddynt, ynghyd â nifer y ceisiadau am gymorth gan Heddlu Gwent. Mae’r archwiliad, y dadansoddiad a’r data’n rhan o’r broses Adolygu Datblygiad Personol, y mae Mr Nesling yn ei chynnal gyda phob Gweithredwr.

Cafodd Archwiliad Mewnol CBSC ei gynnal yn unol ag adran 4.3.7 o BS7958:2015 ym mis Mehefin 2022 ac mae disgwyl iddo gael ei ailwneud. Mae swyddogion wedi cysylltu ag Archwiliad Mewnol i wneud cais am archwiliad/adolygiad yn ystod 24/25.

Adolygiad o faterion heb eu datrys o gofnodion pwyllgorau rheoli

Cynhelir cyfarfodydd rheoli misol a chyfarfodydd tîm yn ôl yr angen, gyda gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu i holl staff TCC CBSC a phartïon eraill â diddordeb trwy e-bost.

Adolygiad o lefelau staffio a gofynion recriwtio

Currently in the process of recruiting 2 part time members of staff to cover vacancies within the control room. Relevant background checks will be carried out before employment commences in accordance with BS7858:2019.

Adolygiad o ofynion hyfforddiant

Mae staff wedi'u hyfforddi i'r safon ofynnol ar gyfer trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD) ac maen nhw'n meddu ar, neu yn y broses o adnewyddu, eu trwydded ADD. Mae dechreuwyr newydd i gyd wedi cwblhau hyfforddiant trwydded ADD ac mae ganddynt drwydded ADD.

Er bod holl weithredwyr TCC CBSC wedi dilyn hyfforddiant strwythuredig, mae anghenion hyfforddi yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau bod sgiliau unigol/tîm yn cael eu cynnal a'u gwella. Mae CBSC yn parhau i ddarparu hyfforddiant mewnol blynyddol am Ddiogelu Data. Mae hyfforddiant ychwanegol wedi'i ddarparu am gymorth cyntaf brys a chyfathrebu. Mae pob gweithredwr hefyd wedi cwblhau cwrs e-ddysgu (Action Counters Terrorism) A Diogelwch.

Er mwyn parhau i wella TCC CBSC, mae angen i’r gweithwyr gael cyfle i rannu adborth ar eu perfformiad, gweithio i gwrdd ag amcanion clir, sicrhau bod eu gofynion dysgu a datblygu’n cael eu bodloni, a chael cyfle i gyflawni eu potensial yn llawn a datblygu eu gyrfa o fewn y Cyngor. Bydd proses Adolygu Datblygiad Perfformiad CBSC yn cefnogi’r nod o gwrdd â’r deilliannau yma er budd y gweithiwr, y tîm a’r sefydliad.

Cynhelir cyfarfodydd PDR FY Amser a Fy Amser Ychwanegol ar ffurf adolygiad blynyddol a 121 o gyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn rhwng y rheolwr llinell ac aelod o’r tîm. Mae’r adolygiad blynyddol yn ystyried:

  • perfformiad dros y 12 mis blaenorol
  • adolygiad o’r amcanion a osodwyd
  • effaith y dysgu a’r datblygu a gwblhawyd
  • amcanion ar gyfer y flwyddyn olynol
  • anghenion dysgu a datblygu
  • Mae pob gweithiwr yn cymryd rhan yn y cynllun hwn.

Unrhyw fater arall

Bydd yr adolygiad blynyddol nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2025.

  • Cytunwyd ar y Cofnodion gan: J. Morgan - Dyddiad 21/05/24.
  • Cytunwyd ar y Cofnodion gan: C. Nesling - Dyddiad 21/05/24.

Atodiad 1

Rhif y camera Lleoliad – 2024
1 Gorsaf fysiau Caerffili, ger mynedfa maes parcio'r orsaf drenau
2 Gorsaf fysiau Caerffili, ochr mynedfa'r orsaf drenau
3 Heol Caerdydd, cornel Stryd Clive, Caerffili
4 Heol Caerffili, gyferbyn â Stryd Pentre-baen, Caerffili
5 Heol Caerdydd, cornel Stryd Stockland, Caerffili
6 Heol Caerffili, gyferbyn â Stryd Sain Ffagan, Caerffili
7 Heol Caerdydd, mynedfa'r dafarn Court House, Caerffili
8 Heol Caerdydd, gyferbyn â'r archfarchnad Iceland, Caerffili
9 Heol Caerdydd, gyferbyn â mynedfa maes parcio'r Twyn, Caerffili
10 Stryd y Castell a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, Caerffili
11 Piccadilly, Heol Pontygwindy, Caerffili
12 Maes parcio Heol y Cilgant, mynedfa, Caerffili
13 Maes parcio Heol y Cilgant, ail gamera, Caerffili
14 Maes parcio Heol y Cilgant, trydydd camera, Caerffili
15 Maes parcio Heol y Cilgant, pedwerydd camera, Caerffili
16 Heol Penallta, cornel Stryd Lewis, Caerffili
17 Y Stryd Fawr, y tu allan i'r llyfrgell, Ystrad Mynach
18 Heol Bedwlwyn, cornel Heol Pengam, Ystrad Mynach
19 Heol Bedwlwyn, gyferbyn â Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
20 Y Stryd Fasnachol, adeiladau Pierhead, Ystrad Mynach
22 Maes parcio Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
23 Maes parcio Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
24 Traphont Hengoed, pen Maes-y-cwmwr
25 Traphont Hengoed, pen Hengoed
26 Y tu allan i'r dafarn Wheatsheaf, Caerffili
27 Y tu allan i'r dafarn Wheatsheaf, Caerffili
28 Gorsaf fysiau Caerffili
30 Y Sgwâr, gyferbyn â'r prif sgwâr, Abertridwr
31 Y Sgwâr, cornel tafarn y Panteg, Abertridwr
32 Y Sgwâr, ar bwys blwch BT, Abertridwr
33 Stryd Thomas, gyferbyn â Chlos y Brenin, Abertridwr
34 Heol Caerdydd, Gilfach
35 Maes parcio'r Santes Gwladys, Bargod
36 Y Stryd Fawr Uchaf, gyferbyn â Lle'r Eglwys, Bargod
37 Y Stryd Fawr Uchaf, adeiladau Pierhead, Bargod
38 Y Stryd Fawr, gyferbyn â'r clwb nos Cleopatra's, Bargod
39 Heol Hanbury, ar bwys Eglwys y Bedyddwyr, Bargod
40 Heol Hanbury, gyferbyn â gorsaf yr Heddlu, Bargod
41 Heol Hanbury, y tu allan i'r unedau manwerthu newydd
42 Gorsaf fysiau, pen uchaf yr orsaf fysiau, Bargod
43 Heol Caerdydd Uchaf, Swyddfa'r Post, Bargod
44 Heol Caerdydd Uchaf, Heol Caerdydd, Bargod
45 Sgwâr Hanbury
47 Maes parcio Heol Hanbury, grisiau'r maes parcio, Bargod
48 Maes parcio Heol Hanbury, pedwerydd camera'r maes parcio, Bargod
49 Penllwyn
50 Maes parcio'r orsaf fysiau, maes parcio masnachwyr y farchnad, Coed Duon
51 Maes parcio'r orsaf fysiau, camera cyntaf y maes parcio, Coed Duon
52 Maes parcio'r orsaf fysiau, Sgwâr y Farchnad, Coed Duon
53 Maes parcio Heol Thorncombe, Coed Duon
54 Maes parcio Heol Thorncombe, garej Texaco, Coed Duon
55 Maes parcio'r Stryd Fawr, Stryd y Bont, Coed Duon
56 Maes parcio'r Stryd Fawr, camera canol y maes parcio, Coed Duon
57 Maes parcio'r Stryd Fawr, pen gwaelod y maes parcio, Coed Duon
58 Oakdale, Sgwâr Oakdale
59 Maes Parcio’r Stryd Fawr, Coed Duon
60 Y Stryd Fawr, Heol Gordon, Coed Duon
61 Y Stryd Fawr, gyferbyn â'r siop Wilkinson, Coed Duon
62 Y Stryd Fawr, mynedfa Sgwâr y Farchnad, Coed Duon
63 Y Stryd Fawr, mynedfa Lle'r Farchnad, Coed Duon
64 Y Stryd Fawr, Coed Duon
65 Y Stryd Fawr, Argos, Coed Duon
66 Y Stryd Fawr, gyferbyn â'r dafarn T/A's, Coed Duon
67 Gorsaf fysiau, pen swyddfa'r orsaf fysiau, Coed Duon
68 Fochriw
69 Y Stryd Fawr, Neuadd Goffa Trecelyn, Trecelyn
70 Y Stryd Fawr, gorsaf yr Heddlu, Trecelyn
71 Trem y Gorllewin, maes parcio, Trecelyn
72 Y Stryd Fawr, Tŷ Newydd, Trecelyn
73 Y Stryd Fawr, Trecelyn
74 Y Stryd Fawr, Kwik Save, Trecelyn
75 Teras Victoria, Heol y Gogledd, Trecelyn
76 Heol y Gogledd, mynedfa'r parc, Trecelyn
77 Parc Lansbury, tanlwybr, Caerffili
78 Parc Lansbury, parc y plant, Caerffili
79 Parc Lansbury, y llain ganol, Caerffili
80 Parc Lansbury, troedffordd y bont, Caerffili
81 Tan-y-bryn, pen uchaf, Rhymni
82 Tan-y-bryn, canol, Rhymni
83 Tan-y-bryn, pen gwaelod, Rhymni
84 Tŷ Coch, ardal y siopau, Rhymni
85 Tŷ Coch, rhif 60, Rhymni
86 Tŷ Coch, ardal y lawnt, Rhymni
87 Y Stryd Fawr Uchaf, Rhymni
88 Stryd y Masnachwr, Pontlotyn
89 Heol y Celyn, swyddfa tai, Rhisga
90 Rhodfa'r Llwyfen, Rhisga
91 Stryd Tredegar, ardal y parc, Rhisga
92 Y Stryd Fawr, Trelyn
93 Y Stryd Fawr, Trelyn
94 Y Stryd Fasnachol, y dafarn Risca House, Rhisga
95 Y Stryd Fasnachol, cwrt blaen y garej, Rhisga
96 Stryd Tredegar, Rhisga
97 Y Stryd Fasnachol, Nelson
98 Y Stryd Fawr, Nelson
99 Stryd yr Ysgol, Llanbradach
100 Y Stryd Fawr, Llanbradach
101 Stryd Beulah, Rhymni
102 Stryd Jones, Treffilip
103 Y Sgwar, Gelligaer
104 Lle Rowan, Rhymni
105 Heb ei Ddefnyddio
106 Heb ei Ddefnyddio
107 Cornel Crosskeys
108 Y Sgwar, Treffilip
109 Penllwyn
110 Tredegar Newydd
111 Parc Sglefrio Trecelyn, Trecelyn
112 Cae Glas Newydd, Fochriw
113 Heol y Celyn, Rhisga
114 Heb ei Ddefnyddio
115 Ty isha Terrace, Cefn Fforest
116 Parc Morgan Jones
117 Y Sgwar, Gelligaer
118 Campfa Parc Glan yr Afon, Trecelyn
119 Parc Coffa Rhymni
120 B4257 Duffryn View / Lady Tyler Terrace
121 Y Stryd Fawr / Stryd yr Eglwys
122 A469 Southend Terrace / Danygraig
123 A465 / A469
124 A465 / B4257
125 B4257 Duffryn View / Lady Tyler Terrace
131 Heol Aneurin, Pen-yr-heol
133 Y Goedlan Ganolog, Cefn Fforest
134 Heol Bedwellte, Cefn Fforest
135 Maes parcio meddygfa'r Bryn, Cefn Fforest
136 Heol Victoria, Rhymni
137 Y Stryd Fawr, Rhymni
138 Y Stryd Fawr, Rhymni
139 Rhodfa Penllwyn, Graig-y-rhaca
140 Y Stryd Fasnachol, Aberbargod
141 Y Stryd Fasnachol, Aberbargod
142 Y Stryd Fawr, Senghenydd
143 Y Stryd Fawr, Senghenydd
159 Abertyswg
161 Gorsaf drenau Rhisga
162 Gorsaf drenau Rhisga
163 Gorsaf drenau Rhisga
164 Gorsaf drenau Rhisga, tanlwybr
165 Gorsaf drenau Rhisga, tanlwybr
166 Gorsaf drenau Trecelyn
167 Maes parcio Stryd y Bont, Trecelyn
168 Maes parcio Stryd y Bont, Trecelyn
169 Maes parcio Stryd y Bont, Trecelyn
170 Teras Trem Ebwy, Trecelyn
172 Maes parcio'r orsaf drenau, Bargod
173 Maes parcio'r orsaf drenau, Bargod
174 Maes parcio'r orsaf drenau, Bargod
175 Maes parcio'r orsaf drenau, Bargod
176 Maes parcio'r orsaf drenau, Bargod
177 Pont y Siartwyr, Coed Duon
178 Pont y Siartwyr, Coed Duon
179 Sgwâr Trinant
180 Gorsaf fysiau, Bargod
181 Gorsaf fysiau, Bargod
182 Gorsaf fysiau, Bargod
183 Gorsaf fysiau, Bargod
184 Gorsaf fysiau, Bargod
185 Y Cylch, Cefn-y-pant
187 Gorsaf drenau Pengam
188 Gorsaf drenau Pengam
189 Gorsaf drenau Pengam
190 Gorsaf drenau Pengam
191 Gorsaf drenau Pengam
192 Gorsaf drenau Pengam
193 Gorsaf fysiau Coed Duon
194 Gorsaf fysiau Coed Duon
195 Gorsaf fysiau Coed Duon
196 Gorsaf fysiau Coed Duon
197 Gorsaf fysiau Coed Duon
201 Maes parcio Wesley Road
202 Maes parcio Wesley Road
203 Gorsaf fysiau Coed Duon
204 Ystafell aros gorsaf fysiau Coed Duon - Statig
205 Pont y Siartwyr Coed Duon – Statig
206 Pont y Siartwyr Coed Duon – Statig
207 Pont y Siartwyr Coed Duon – Statig
208 Pont y Siartwyr Coed Duon – Statig

Atodiad 2

Ffurflen Effaith ar Ddiogelu Data sy'n cael ei defnyddio i gynnal asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data ar systemau camerâu gwyliadwriaeth i’ch helpu chi i nodi’r effaith mae eich defnydd o systemau teledu cylch cyfyng yn gallu ei chael ar bobl, fel y gallwch chi leihau unrhyw risgiau.

Atodiad 3

Crynodeb o graffiau yn nodi gwaith yr ystafell reoli teledu cylch cyfyng

Mae Graff 1 yn nodi nifer y digwyddiadau fesul mis o'r system teledu cylch cyfyng. Mae'n nodi 3 math o ddigwyddiad ynghyd â chyfanswm cronedig. Digwyddiadau sydd wedi'u hadrodd, sef digwyddiadau byw sydd wedi'u hadrodd i'r heddlu gan yr ystafell reoli neu gan yr heddlu i'r ystafell reoli.

Digwyddiadau nad ydyn nhw wedi'u hadrodd, sef digwyddiadau posibl a gaiff eu monitro gan staff yr ystafell reoli ond nad oes angen cymorth yr heddlu arnyn nhw.

Digwyddiadau ôl-weithredol, sef digwyddiadau lle mae'r heddlu ac ati wedi gofyn am ddelweddau teledu cylch cyfyng ar ôl digwyddiadau.

Cyfanswm yr holl ddigwyddiadau uchod

Mae'n nodi mai o fis Gorffennaf i fis Tachwedd, yn ogystal â mis Chwefror a mis Mawrth yw'r misoedd prysuraf.

Mae Graff 2 yn dangos nifer yr achlysuron y mis mae gweithredwyr wedi dewis camerâu i gyd, yn ogystal â faint o'r cyfanswm oedd dan reolaeth y gweithredwr a faint o'r cyfanswm nad oedd dan reolaeth y gweithredwr. Mae’r ffigurau’n amrywio o 24,803 ym mis Mawrth 2024 (yr isafswm) i 350,003 ym mis Mai 2024 (yr uchafswm)

Mae Graff 3 yn dangos nifer y patrolau teledu cylch cyfyng penodol sydd wedi'u cyflawni yn fisol. Mae patrôl yn wiriad systematig o bob camera mewn ardal benodol. Y diben yw sicrhau bod ardal yn cael ei gwirio'n drylwyr ac i gynnal a chadw camerâu. Mae'r ffigurau'n amrywio o'r isafswm ym mis Mehefin, sef 1,923 o batrolau, i'r uchafswm ym mis Awst, sef 2,424 o batrolau.

Mae Graff 4 yn dangos sawl tro mae delweddau teledu cylch cyfyng wedi cael eu lanlwytho i system NICE yr heddlu. Offeryn meddalwedd Datrysiad Rheoli Tystiolaeth Ddigidol (DEMS) yw NICE Investigate, sy'n awtomeiddio'r ymchwiliad digidol cyfan a rheoli tystiolaeth trwy helpu ymchwilwyr yr heddlu i gau mwy o achosion, yn gyflymach.

Mae'r ffigurau'n amrywio o'r isafswm ym mis Mehefin, sef 24 o batrolau, i'r uchafswm ym mis Chwefror, sef 67 o batrolau.

Mae Graffiau 5, 6 a 7 yn crynhoi cyfanswm y digwyddiadau teledu cylch cyfyng fesul canol tref bob mis, ac yn cynnwys cyfanswm y digwyddiadau sydd wedi'u hadrodd a'r digwyddiadau nad ydyn nhw wedi'u hadrodd yn unig. Mae'n nodi mai'r 3 tref brysuraf yw Bargod, Coed Duon a Chaerffili.

Cyfanswm y digwyddiadau byw sydd wedi'u hadrodd i'r heddlu gan yr ystafell reoli teledu cylch cyfyng, neu fel arall, yw 956.

Cyfanswm y digwyddiadau byw nad ydyn nhw wedi'u hadrodd ond y mae'r sefyllfa'n cael ei monitro gan yr ystafell reoli teledu cylch cyfyng yw 929

Atodiad 4

Nifer y gweithiau y cafodd pob camera ei ddefnyddio i wylio fideo rhwng 01/04/23 a 31/03/24

Rhif y Camerau Sawl gwaith y cafodd y Camerau ei adolygu
Camerau 1 14
Camerau 2 17
Camerau 3 84
Camerau 4 59
Camerau 5 103
Camerau 6 50
Camerau 7 54
Camerau 8 57
Camerau 9 33
Camerau 10 60
Camerau 11 58
Camerau 12 7
Camerau 13 8
Camerau 14 4
Camerau 15 8
Camerau 16 12
Camerau 17 11
Camerau 18 16
Camerau 19 16
Camerau 20 10
Camerau 22 8
Camerau 23 8
Camerau 24 9
Camerau 25 10
Camerau 26 30
Camerau 27 19
Camerau 28 19
Camerau 30 28
Camerau 31 15
Camerau 32 13
Camerau 33 11
Camerau 34 13
Camerau 35 21
Camerau 36 61
Camerau 37 42
Camerau 38 43
Camerau 39 32
Camerau 40 34
Camerau 41 42
Camerau 42 24
Camerau 43 24
Camerau 44 22
Camerau 45 26
Camerau 47 28
Camerau 48 24
Camerau 49 8
Camerau 50 33
Camerau 51 30
Camerau 52 50
Camerau 53 29
Camerau 54 24
Camerau 55 36
Camerau 56 36
Camerau 57 34
Camerau 58 5
Camerau 59 23
Camerau 60 61
Camerau 61 70
Camerau 62 105
Camerau 63 107
Camerau 64 38
Camerau 65 68
Camerau 66 62
Camerau 67 25
Camerau 68 22
Camerau 69 16
Camerau 70 18
Camerau 71 11
Camerau 72 20
Camerau 73 30
Camerau 74 36
Camerau 75 12
Camerau 76 4
Camerau 77 9
Camerau 78 10
Camerau 79 9
Camerau 80 17
Camerau 81 22
Camerau 82 23
Camerau 83 19
Camerau 84 20
Camerau 85 3
Camerau 86 1
Camerau 87 16
Camerau 88 9
Camerau 89 17
Camerau 90 31
Camerau 91 30
Camerau 92 24
Camerau 93 29
Camerau 94 25
Camerau 95 39
Camerau 96 20
Camerau 97 15
Camerau 98 7
Camerau 99 4
Camerau 100 14
Camerau 101 3
Camerau 102 5
Camerau 103 10
Camerau 104 3
Camerau 105 0
Camerau 106 0
Camerau 107 9
Camerau 108 7
Camerau 109 0
Camerau 110 12
Camerau 111 3
Camerau 112 1
Camerau 113 19
Camerau 114 3
Camerau 115 4
Camerau 116 10
Camerau 117 1
Camerau 118 0
Camerau 119 0
Camerau 120 0
Camerau 121 0
Camerau 122 0
Camerau 123 0
Camerau 124 0
Camerau 125 0
Camerau 131 17
Camerau 133 18
Camerau 134 32
Camerau 135 8
Camerau 136 48
Camerau 137 50
Camerau 138 57
Camerau 139 2
Camerau 140 23
Camerau 141 23
Camerau 142 9
Camerau 143 6
Camerau 144 0
Camerau 159 0
Camerau 160 14
Camerau 161 3
Camerau 162 10
Camerau 163 6
Camerau 164 6
Camerau 165 16
Camerau 166 8
Camerau 167 11
Camerau 168 13
Camerau 169 24
Camerau 170 0
Camerau 171 11
Camerau 172 10
Camerau 173 7
Camerau 174 8
Camerau 175 8
Camerau 176 106
Camerau 177 62
Camerau 178 13
Camerau 179 11
Camerau 180 11
Camerau 181 10
Camerau 182 16
Camerau 183 17
Camerau 184 9
Camerau 185 0
Camerau 186 12
Camerau 187 13
Camerau 188 6
Camerau 172 10
Camerau 173 7
Camerau 174 8
Camerau 175 8
Camerau 176 106
Camerau 177 62
Camerau 178 13
Camerau 179 11
Camerau 180 11
Camerau 181 10
Camerau 182 16
Camerau 183 17
Camerau 184 9
Camerau 185 0
Camerau 186 12
Camerau 187 13
Camerau 188 6
Camerau 189 5
Camerau 190 7
Camerau 191 12
Camerau 192 63
Camerau 193 66
Camerau 194 26
Camerau 195 69
Camerau 196 42
Camerau 197 0
Camerau 201 26
Camerau 202 47
Camerau 203 14
Camerau 204 1

Atodiad 5

Defnydd o’r camerâu mewn Achosion (gallai 1 achos olygu defnyddio mwy nag un Camerau) 01/04/23 hyd 31/03/24

Rhif y Camerau Cyfrif Digwyddiadau
Camerau 1 80
Camerau 2 90
Camerau 3 158
Camerau 4 120
Camerau 5 193
Camerau 6 112
Camerau 7 271
Camerau 8 175
Camerau 9 102
Camerau 10 141
Camerau 11 101
Camerau 12 37
Camerau 13 30
Camerau 14 28
Camerau 15 30
Camerau 16 42
Camerau 17 44
Camerau 18 45
Camerau 19 40
Camerau 20 39
Camerau 22 24
Camerau 23 25
Camerau 24 42
Camerau 25 36
Camerau 26 43
Camerau 27 34
Camerau 28 59
Camerau 30 20
Camerau 31 13
Camerau 32 12
Camerau 33 11
Camerau 34 22
Camerau 35 39
Camerau 36 113
Camerau 37 75
Camerau 38 71
Camerau 39 48
Camerau 40 41
Camerau 41 48
Camerau 42 32
Camerau 43 32
Camerau 44 32
Camerau 45 32
Camerau 47 47
Camerau 48 31
Camerau 49 11
Camerau 50 50
Camerau 51 49
Camerau 52 77
Camerau 53 52
Camerau 54 51
Camerau 55 55
Camerau 56 62
Camerau 57 62
Camerau 58 4
Camerau 59 30
Camerau 60 91
Camerau 61 126
Camerau 62 176
Camerau 63 231
Camerau 64 73
Camerau 65 110
Camerau 66 117
Camerau 67 76
Camerau 68 10
Camerau 69 18
Camerau 70 19
Camerau 71 14
Camerau 72 24
Camerau 73 30
Camerau 74 33
Camerau 75 15
Camerau 76 11
Camerau 77 27
Camerau 78 37
Camerau 79 36
Camerau 80 37
Camerau 81 20
Camerau 82 24
Camerau 83 29
Camerau 84 23
Camerau 85 12
Camerau 86 16
Camerau 87 20
Camerau 88 15
Camerau 89 36
Camerau 90 49
Camerau 91 58
Camerau 92 28
Camerau 93 28
Camerau 94 41
Camerau 95 51
Camerau 96 35
Camerau 97 19
Camerau 98 17
Camerau 99 16
Camerau 100 18
Camerau 101 1
Camerau 102 5
Camerau 103 11
Camerau 104 2
Camerau 105 0
Camerau 106 0
Camerau 107 17
Camerau 108 9
Camerau 109 0
Camerau 110 24
Camerau 111 4
Camerau 112 2
Camerau 113 41
Camerau 114 3
Camerau 115 4
Camerau 116 6
Camerau 117 2
Camerau 118 3
Camerau 119 0
Camerau 120 3
Camerau 121 6
Camerau 122 4
Camerau 123 2
Camerau 124 1
Camerau 125 1
Camerau 131 26
Camerau 133 19
Camerau 134 23
Camerau 135 13
Camerau 136 61
Camerau 137 56
Camerau 138 79
Camerau 139 15
Camerau 140 27
Camerau 141 29
Camerau 142 20
Camerau 143 19
Camerau 144 2
Camerau 159 0
Camerau 160 21
Camerau 161 16
Camerau 162 27
Camerau 163 20
Camerau 164 22
Camerau 165 26
Camerau 166 20
Camerau 167 11
Camerau 168 12
Camerau 169 32
Camerau 170 0
Camerau 171 24
Camerau 172 5
Camerau 173 4
Camerau 174 18
Camerau 175 23
Camerau 176 131
Camerau 177 98
Camerau 178 16
Camerau 179 22
Camerau 180 23
Camerau 181 8
Camerau 182 28
Camerau 183 25
Camerau 184 11
Camerau 185 0
Camerau 186 9
Camerau 187 8
Camerau 188 7
Camerau 189 8
Camerau 190 2
Camerau 191 2
Camerau 192 121
Camerau 193 96
Camerau 194 40
Camerau 195 100
Camerau 196 62
Camerau 197 24
Camerau 201 61
Camerau 202 42
Camerau 203 4
Camerau 204 8

Atodiad 6

Graff yn amlygu ystadegau trosedd Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024 gan ddefnyddio'r categorïau canlynol.

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Dwyn beiciau
  • Bwrgleriaeth
  • Difrod troseddol a thanau bwriadol
  • Cyffuriau
  • Math arall o ddwyn
  • Meddu ar arfau
  • Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
  • Lladradau
  • Dwyn o siopau
  • Dwyn oddi ar berson
  • Troseddau cerbydau
  • Trais a throseddau rhywiol
  • Arall

Mae'r Graff yn dangos mai 'trais a throseddau rhywiol yw'r categori uchaf, a 'dwyn beiciau' a 'dwyn oddi ar berson' yw'r categorïau isaf.

Atodiad 7

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio nifer fach o gamerâu TCC ar rwydwaith 4G y gellir eu hadleoli. Mae’r holl waith Monitro TCC yn cael ei wneud yn unol â’r canllawiau polisi a gweithdrefnau ystafell reoli TCC CBSC sy’n cynnwys arfer dda ac arweiniad gan y canlynol:

  • Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU)
  • Grŵp Defnyddwyr TCC,
  • Cangen Datblygiadau Gwyddonol yr Heddlu, (PSDB) a’r Swyddfa Gartref.
  • BS 7958:2015 Rheoli a Gweithredu Teledu Cylch Cyfyng (TCC) – Cod Ymarfer
  • BS 7499: BS 7499: 2013 Gwasanaethau Gwarcheidwaid Safleoedd Statig a Phatrolau Symudol – Cod Ymarfer (Rhannau Perthnasol)
  • BS 7858: 2012 Sgrinio Diogelwch i Unigolion a Gyflogir mewn Amgylchedd Diogelwch – Cod Ymarfer
  • Cod Ymarfer TCC y Comisiynydd Gwybodaeth
  • Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Swyddfa Gartref

Bydd ceisiadau ar gyfer defnyddio’r camerâu 4G y gellir eu hadleoli’n cael eu hasesu’n fewnol gan ddefnyddio’r ffurflen hon fel rhan o’r dystiolaeth er mwyn cyfiawnhau defnyddio TCC yn unol â gofynion y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth ar gyfer Asesiad o Effaith ar Breifatrwydd.

Ni ystyrir defnyddio TCC o gwbl heblaw ei fod yn unol â’r canlynol

  • Amcanion Cynllun TCC CBSC
  • Cwblhau’r Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd.
  • Mae’r lleoliad wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol yn rheolaidd sydd wedi effeithio’n negyddol ar y gymuned ehangach.
  • Bydd yr ardal yn destun ail-ddatblygu ffisegol sylweddol yn fuan, sy’n debygol o arwain at fwy o risg o drosedd ac anrhefn.
  • TCC dros dro mewn ardal pan fo TCC man cyhoeddus parhaol yn cael ei drwsio.

Amcanion y Cynllun

Prif amcan y Cynllun yw darparu amgylchedd diogel er budd y rhai sy'n byw, gweithio, masnachu, gwasanaethu a mwynhau'r cyfleusterau yn yr ardaloedd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymwneud â nhw a’r rhai sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn.

Amcanion allweddol y Cynllun yw:

  1. Cadw bywyd a lleihau risg a pherygl i'r bregus drwy waith monitro TCC effeithiol
  2. Helpu i ddatrys troseddau.
  3. Hwyluso'r broses o adnabod troseddwyr, eu dal a'u herlyn mewn perthynas â throseddau a’r drefn gyhoeddus.
  4. Helpu i adfer llonyddwch a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  5. Atal neu liniaru ymyriadau â llif traffig (nid gorfodi’r gyfraith pan gaiff y gyfraith draffig ei thorri).
  6. Helpu i leihau ofn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrwy hynny hybu sicrwydd i’r cymunedau yr effeithir arnynt a hybu adfywio cymunedol drwy’r ardal i gyd.

Mae’r canlynol wedi’u hepgor yn bendant o’r Cynllun:

  • Recordio sain mewn mannau cyhoeddus
  • Defnyddio’r delweddau sydd wedi’u storio at ddibenion adloniant neu ddibenion masnachol

Yn unol â'r amcanion allweddol hyn mae'r Cynllun yn bwriadu cadw'r holl ddata am gyfnod o 31 o ddiwrnodau ar y mwyaf, oni nodir ei fod o werth fel tystiolaeth ac yn cael ei storio am 6 mis.

Ni fydd unrhyw oruchwyliaeth gudd yn digwydd dan unrhyw amgylchiadau. Bydd pob goruchwyliaeth yn weledol.

Atodiad 8

Mae atodiad 8 yn ddelwedd o'r arwydd teledu cylch cyfyng safonol sy'n cael ei osod yn yr ardaloedd lle mae systemau teledu cylch cyfyng yn cael eu defnyddio. Mae’n nodi bod delweddau teledu cylch cyfyng yn cael eu recordio at ddibenion atal troseddau a diogelwch cymunedol ynghyd â’r rhif cyswllt: 01443 815588.

Appendix 9

Police Feedback and Views on CCTV

CCTV is an invaluable tool in assisting the police to reduce incidents of crime and anti-social behaviour. Without it, it would be difficult for us to bring perpetrators to justice. To add to this, it offers an element of reassurance to local residents, visitors and business owners in the area, both during the day and within the nighttime economy.

It is essential for the system to remain.

Some recent I can provide is the identification of some Homeless males that were arrested for a Public order related matter on Cardiff Rd, Caerphilly Town Centre.

We also had 2 x female offenders who were identified for theft of a ladies handbag on Caerphilly Town.

Kind regards

Stuart Lewis Crime and Reduction Officer – Gwent Police

A particular good recent example from me would be for Occurrence 2400122528,CCTV on the 16/04/2024 theft of motor bike, An operator has captured incident take place on camera and has taken manual control of the camera and followed the subject, allowing officers to review and identify the males responsible from this footage alone.

Cheers

PC Daniel Evans