Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Hyd At 2035

Cytundeb Cyflenwi Drafft

Diwygiad 1af, Mai 2024

Rhan 1 – Cyflwyniad

Cynhaliwyd adolygiad llawn o’r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Caerffili hyd at 2021 (CDLl Mabwysiedig) ac mae’r canfyddiadau wedi’u cyflwyno yn Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021 (Adroddiad Adolygu). Mae’r Adroddiad Adolygu yn darparu trosolwg o’r materion sydd wedi’u hystyried fel rhan o’r broses adolygu ac sy’n nodi wedi hynny unrhyw newidiadau y mae’n debygol y bydd angen eu gwneud i’r CDLl Mabwysiedig. Mae’n datgan y dylai’r Cyngor ddechrau ar ddiwygiad llawn ar unwaith o’r CDLl Mabwysiedig.

Mae'r CDLl Mabwysiedig yn parhau i fodoli a bydd yn parhau i ddarparu'r fframwaith polisi ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio tra bo 2il Gynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili Newydd hyd at 2035 (2il CDLl Newydd) yn cael ei baratoi.

Cytundeb Cyflawni Diwygiedig

Diben Cytundeb Cyflenwi

  • Yr Amserlen ar gyfer cynhyrchu’r 2il CDLl Newydd. Mae hyn yn darparu syniad o pryd y bydd gwahanol gamau’r broses o baratoi’r cynllun yn digwydd. Darperir dyddiadau diffiniol hyd at y cam adneuo a dyddiadau dangosol ar gyfer y camau diweddarach. Darperir yr amserlen yn Rhan 2 y CC hwn.
  • Y Cynllun Cyfranogiad Cymunedol (CCC). Mae’r Cynllun hwn yn cyflwyno egwyddorion, strategaeth a phrosesau’r Cyngor ar gyfer ymgysylltiad cynnar, llawn a pharhaus y gymuned a rhanddeiliad trwy’r broses adolygu gyfan. Mae hyn yn elfen sylfaenol o’r system datblygu cynllun. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd angen i’r Cyngor gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned sydd wedi’u nodi yn y CCC. Mae’r CCC wedi’i gynnwys yn Rhan 3 y CC hwn.

Camau Cymeradwyo’r Cytundeb Cyflenwi

  • Paratoi Cytundeb Cyflawni drafft diwygiedig (y ddogfen hon).
  • Ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni drafft diwygiedig gyda rhanddeiliaid allweddol a diwygio'r Cytundeb Cyflawni Diwygiedig yn briodol.
  • Cael cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer y Cytundeb Cyflawni diwygiedig.
  • Cyflwyno'r Cytundeb Cyflawni diwygiedig i Lywodraeth Cymru gytuno arno.
  • Ar ôl i Lywodraeth Cymru gytuno, cyhoeddi’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig ar wefan y Cyngor a’i osod ym mhrif swyddfa’r Cyngor.
  • Adolygu'r Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn chwarterol yn erbyn y cynnydd wrth baratoi'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Paratoi’r 2il CDLl Newydd

Wrth

  • Cefnogi datblygu cynaliadwy a lleoedd o ansawdd sy'n seiliedig ar y Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Creu Lleoedd Cynaliadwy, wedi'u halinio â pholisi cenedlaethol (a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru) wedi'u hintegreiddio ag Arfarniad oGynaliadwyedd (AoG)/Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)/Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC), gan gynnwys y Gymraeg a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
  • Bod yn seiliedig ar gyfranogiad cynnar, effeithiol ac ystyrlon gan y gymuned er mwyn deall ac ystyried ystod eang o safbwyntiau, gyda'r nod o greu consensws eang ar y strategaeth ofodol, y polisïau a'r cynigion.
  • Bod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o rôl a swyddogaeth maes(meysydd) gan gynnwys y cysylltiadau swyddogaethol â meysydd y tu hwnt i ffiniau gweinyddol.
  • Bod yn benodol drwy gael cynlluniau sy'n nodi'n glir sut y bydd eu maes yn datblygu ac yn newid, gan roi sicrwydd i gymunedau, datblygwyr a busnesau.
  • Dangos gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd (gan ddefnyddio Amcanestyniadau Hinsawdd diweddaraf y DU, data asesu perygl llifogydd a bregusrwydd) a chefnogi'r newid i gymdeithas carbon isel yn unol â'r targedau a’r cyllidebau lleihau carbon diweddaraf fel y’u nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) (Rhan 2). Rhaid cadw at egwyddorion Creu Lleoedd, yr Hierarchiaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy a'r Hierarchiaeth Ynni fel y'u nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru.
  • Sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a deddfwriaeth berthnasol arall.
  • Cyflawni'r hyn a fwriedir drwy gynlluniau ymarferol a hyfyw, gan ystyried y gofynion seilwaith angenrheidiol, hyfywedd ariannol a ffactorau eraill yn y farchnad.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) sy'n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol

  • Yr Adroddiad Cwmpasu. Bydd hyn yn disgrifio cyflwr presennol yr amgylchedd a bydd yn nodi’r materion cynaliadwyedd presennol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn darparu gwybodaeth gwaelodlin ar gyfer asesu a monitro drwy gyfres o Amcanion a Fframwaith Cynaliadwyedd. Bydd hefyd yn nodi adolygiad o gynlluniau, polisïau, rhaglenni a strategaethau perthnasol ar lefel Ewropeaidd, genedlaethol a lleol, gan nodi’r goblygiadau ar gyfer proses yr 2il CDLl Newydd.
  • Yr Adroddiad Amgylcheddol. Bydd hyn yn ystyried effeithiau tebygol fersiwn Adneuo’r 2il CDLl Newydd. Bydd yn asesu’r effeithiau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n debygol o ddeillio o’r Polisïau a’r dyraniadau a gyflwynir yn y cynllun. Cyhoeddir hyn yr un amser â’r Cynllun Adneuo.
  • Y Datganiad Mabwysiadu. Datganiad a gyhoeddir gan y Cyngor sy’n nodi sut yr ystyriwyd y GCI. Cyhoeddir y datganiad Mabwysiadu ar ôl i’r 2il CDLl Newydd gael ei Fabwysiadu.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Mae dau gam i ARhC:

Sgrinio – Penderfynu a allai unrhyw un o amcanion cadwraeth unrhyw Safle Ewropeaidd gael eu heffeithio'n andwyol;

Asesiad Priodol – Asesiad o gynigion y cynllun ar amcanion cadwraeth yr holl safleoedd Ewropeaidd sy’n cael eu heffeithio.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf WBFG)

  • Cymru Lewyrchus,
  • Cymru Gydnerth,
  • Cymru Iachach,
  • Cymru sy’n fwy Cyfartal,
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus,
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu,
  • Cymru sy’n Ffynnu ar Lefel Fyd-eang.

  • Tymor Hir,
  • Integreiddio,
  • Gwella,
  • Cydweithio, ac
  • Atal.

O ystyried mai datblygu cynaliadwy yw egwyddor sylfaenol graidd y Cynllun Datblygu Lleol a’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, mae cysylltiadau clir rhwng y Cynllun Datblygu Lleol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fel un o ofynion y Ddeddf, mae'n rhaid cynhyrchu Cynllun Llesiant Lleol. Ym mis Tachwedd 2023, cymeradwyodd y Cyngor ei Amcanion Llesiant yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-2028. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Cynllun Corfforaethol yn cael eu hystyried yn llawn drwy gydol y broses o baratoi'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Tystiolaeth

  • Opsiynau Twf Poblogaeth a Thai
  • Asesiad o Hyfywedd Tai Fforddiadwy
  • Asesiad o’r Farchnad Dai Leol
  • Asesiad o Lety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
  • Adolygiad Economaidd Mwy na Lleol
  • Adolygiad o Dir Cyflogaeth
  • Asesiad Trafnidiaeth Strategol
  • Arolwg Agweddau Siopwyr a dadansoddiad manwerthu
  • Asesiad Ynni Adnewyddadwy
  • Adolygiad Ffin Anheddiad
  • Asesiad Seilwaith Gwyrdd
  • Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd
  • Asesiad Mwynau a Gwastraff

Profion Cadernid

Rhan 2 – Amserlen

Camau Allweddol Amserlen
Paratoi Cam Cyn Adneuo’r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd Gorffennaf 2024
Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir Rhagfyr 2024/ Ionawr 2025
Paratoi'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd wedi'i Adneuo Ionawr 2025
Ymgynghoriad ar yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd wedi'i Adneuo Rhagfyr 2025/ Ionawr 2026
Cyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig i Lywodraeth Cymru Tachwedd 2026
Archwiliad Annibynnol Ionawr/ chwefror 2027
Mabwysiadu Awst 2027

Adnoddau

Teitl Swydd Swyddogion Nifer y swyddi
Arweinydd Tîm 1
Prif Gynllunydd 2
Swyddog Cynllunio 3

Supplementary Planning Guidance

  • Tai Fforddiadwy
  • Coed a Datblygiadau
  • Safonau Meysydd Parcio
  • Adeiladu Lleoedd Gwell i Fyw
  • Datblygiadau Deiliaid Tai
  • Diogelu Mannau Agored
  • Adeiladau yng Nghefn Gwlad
  • Blaenau Siopau a Hysbysebion
  • Canllawiau Cynllunio ar gyfer Datblygiadau Tyrbinau Gwynt Graddfa Lai – Gofynion Asesiad Tirlun ac Effaith Weledol
  • Datblygiad Tyrbinau Gwynt Graddfa Lai – Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti Tirlun

Er hynny, dylid nodi na ellir mabwysiadu CCA yr 2il CDLl Newydd nes y bydd Adroddiad yr Arolygydd wedi’i dderbyn a’i bod yn amlwg nad oes unrhyw newidiadau i’r dull polisi a gyflwynir yn y cynllun diwygiedig. Ni ragwelir y bydd unrhyw CCA newydd/ychwanegol yn cael ei baratoi nac yn destun ymgynghoriad ochr yn ochr â’r 2il CDLl Newydd, yn bennaf oherwydd yr amserlenni heriol.

Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)

Cyflwynwyd Ardoll Seilwaith Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2014, i helpu i gyflawni amcanion defnydd tir y cyngor fel y'u nodir yn y CDLl Mabwysiedig.

Bydd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cael ei hadolygu ochr yn ochr â diwedd proses baratoi'r 2il CDLl Newydd.

Monitro ac Adolygu'r CC

  • Newid arwyddocaol i’r adnoddau sydd ar gael i baratoi’r 2il CDLl Newydd.
  • Mae’r gwaith o baratoi’r 2il CDLl Newydd y tu ôl i’r amserlen h.y. mwy na 3 mis.
  • Bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol i ddeddfwriaeth Ewropeaidd, y DU neu Gymru yn cael effaith uniongyrchol ar y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd.
  • Unrhyw newid arall i amgylchiadau a fydd yn cael effaith berthnasol ar y broses o gyflawni’r 2il CDLl Newydd yn unol â’r CA.
  • Newidiadau arwyddocaol i’r CCG.
  • Digwyddiadau annisgwyl fel y pandemig COVID-19.

Cyflwynir amserlen wedi’i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar ôl y cam Adneuo. Bydd hyn yn darparu mwy o eglurder ar yr amserlenni ar gyfer y camau sy’n weddill (h.y. disodli camau dangosol gyda chamau diffiniol). Bydd yr amserlen ddangosol yn cael ei hail-ddiffinio o fewn tri mis i ddiwedd y cyfnod adneuo ffurfiol a chaiff ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ei chymeradwyo.

Monitro CDLl

Bydd .

Rheoli a Dadansoddi Risg

.

Rhan 3 – Cynllun Cyfranogiad Cymunedol

Mae’r .

Mae’r

  • .
  • .
  • .
  • .

Egwyddorion Ymgysylltu

.

.

:

Cynllunnir yr ymgysylltu’n effeithiol i wneud gwahaniaeth - Mae ymgysylltu’n rhoi gwir gyfle i ddylanwadu ar bolisïau, ar gynllunio gwasanaethau ac ar gyflwyno gwasanaethau o gyfnod cynnar.

Annog a galluogi pawb a effeithir i gymryd rhan, os ydynt yn dewis hynny - Cynhwysir y bobl a effeithir gan fater neu newid mewn cyfleoedd i ymgysylltu fel unigolion neu fel rhan o grŵp neu gymuned, ac mae eu safbwyntiau’n cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Cynllunnir a chyflwynir yr ymgysylltu mewn ffordd amserol a phriodol - Mae’r broses ymgysylltu’n glir ac yn cael ei chyfathrebu i bawb mewn ffordd hawdd i’w deall ac o fewn amserlen resymol. Hefyd, defnyddir y dull/iau mwyaf addas ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan.

Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol - Dylai sefydliadau gyfathrebu â’i gilydd a chydweithio lle bo modd er mwyn sicrhau bod amser pobl yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon.

Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall - Mae pobl mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu oherwydd mae gwybodaeth berthnasol sydd wedi’i haddasu i ddiwallu eu hanghenion ar gael iddynt yn hwylus.

Ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan - Gall pobl ymgysylltu’n hawdd oherwydd mae unrhyw rwystrau i wahanol grwpiau o bobl yn cael eu datgan ac yn cael sylw.

Galluogi pobl i gymryd rhan yn effeithiol - Dylai’r prosesau ymgysylltu geisio datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder y cyfranogwyr i gyd.

Rhoddir yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol i ymgysylltu er mwyn iddo fod yn effeithiol - Darperir hyfforddiant, cyfarwyddyd a chefnogaeth briodol er mwyn galluogi’r cyfranogwyr i gyd i ymgysylltu’n effeithiol, yn cynnwys cyfranogwyr cymunedol a staff.

Mae pobl yn cael gwybod beth yw effaith eu cyfraniad - Rhoddir adborth amserol i’r cyfranogwyr i gyd am y safbwyntiau a fynegwyd ganddynt a’r trafodaethau a’r camau gweithredu a gafwyd o ganlyniad; dylai dull a ffurf yr adborth roi ystyriaeth i hoffterau’r cyfranogwyr.

Dysgu a rhannu gwersi i wella’r broseso ymgysylltu - Dylid monitro a gwerthuso profiadau pobl o’r broses ymgysylltu er mwyn mesur ei llwyddiant o ran ymgysylltu pobl ac effeithiolrwydd eu cyfranogiad; dylid rhannu’r gwersi a ddysgir a’u defnyddio mewn ymgysylltu yn y dyfodol. Dylid rhannu gwersi a'u cymhwyso mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

.

Pwy y byddwn yn eu cynnwys?

.

Aelodau’r cyhoedd, unigolion â diddordeb a sefydliadau

Grŵp Ffocws y CDLl

Er mwyn llywio proses yr 2il CDLl Newydd, bydd y Cyngor yn sefydlu’r Grŵp Ffocws CDLl. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys Aelodau’r Cabinet, Aelodau o grwpiau’r gwrthbleidiau a Phenaethiaid Meysydd Gwasanaeth, a fydd yn hwyluso ymgysylltiad parhaus gydag uwch aelodau a swyddogion trwy’r broses gyfan o baratoi’r cynllun. Bydd y Grŵp Ffocws CDLl yn ymgysylltu drwy weithdai a chyfarfodydd penodol, lle y bo’n briodol.

Aelodau Etholedig

.

Cynghorau Cymuned a Thref

Mae gan Gynghorau Cymuned a Thref swyddogaeth hollbwysig hefyd yn dosbarthu gwybodaeth i’r preswylwyr yn eu hardal ar faterion sy’n bwysig yn lleol a byddant yn gyswllt allweddol i gymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ymgynghorir â Chymunedau Cymuned a Thref ar bob cam o broses yr 2il CDLl Newydd a thrwy eu dulliau cyfathrebu unigol byddant yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r 2il CDLl Newydd mewn cymunedau lleol. Bydd gallu ganddynt hefyd i ddarparu gwybodaeth leol gyfredol, safbwyntiau ar unrhyw gynigion yn eu hardaloedd ac, yn bwysicach, gallant ddarparu manylion am unrhyw uchelgeisiau sydd ganddynt ar gyfer defnyddio tir yn eu cymuned.

Grŵp Rhanddeiliaid Tai

Er mwyn creu llwybr tai y mae'n rhaid ei baratoi i gefnogi'r Cynllun Adneuo, bydd angen ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy Grŵp Rhanddeiliaid Tai. Bydd hyn yn sicrhau bod amseriad a chyflwyno safleoedd fesul cam yn gadarn ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf. Dylai’r Grŵp Rhanddeiliaid gynnwys swyddogion, adeiladwyr tai, tirfeddianwyr (ac asiantau lle bo'n briodol), Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, ymgymerwyr statudol, darparwyr seilwaith a chyrff eraill fel y bo'n briodol.

Grwpiau Partneriaeth

Busnesau, Tirfeddianwyr, Datblygwyr ac Asiantau

Cyrff Ymgynghori Ychwanegol

Mae Atodiad 3 yn darparu rhestr o’r cyrff ymgynghori penodol a chyffredinol ynghyd ag adrannau Llywodraeth y DU ac ymgyngoreion eraill. Mae’r ymgyngoreion penodol yn cynnwys Llywodraeth Cymru a’r cyrff hynny â swyddogaethau penodol sy’n berthnasol i ardal yr 2il CDLl Newydd, e.e. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Dŵr Cymru. Mae’n rhaid i’r Awdurdod ymgynghori hefyd gydag Adrannau Llywodraeth y DU pan fydd yn ymddangos bod agweddau o’r cynllun yn effeithio ar eu buddiannau hwy. Ymgysylltir â’r cyrff ymgynghori hyn trwy broses gyfan yr 2il CDLl Newydd ym mhob un o’r camau ffurfiol ac anffurfiol, fel y bo’n briodol.

Grwpiau Anodd eu Cyrraedd

Grwpiau anodd eu cyrraedd, a’r rhai y clywir ganddynt yn anaml, yw’r grwpiau hynny nad ydynt wedi cymryd rhan yn draddodiadol yn y broses o baratoi’r cynllun. Felly, bydd angen ymdrech ychwanegol i sicrhau bod y grwpiau hyn yn ymgysylltu ym mhroses yr 2il CDLl Newydd. Bydd angen defnyddio dull gweithredu hyblyg er mwyn ymgysylltu â’r grwpiau hyn, er o fewn paramedrau’r camau cyfranogi/ymgynghori penodol a’r cyfyngiadau o ran adnoddau.

Mae grwpiau anodd eu cyrraedd yn cynnwys:-

  • Pobl ifanc a phlant
  • Pobl ag anableddau
  • Pobl hŷn
  • Pobl ag anawsterau dysgu
  • Pobl ddigartref
  • Lleiafrifoedd ethnig
  • Sipsiwn a Theithwyr

Gellir ymgysylltu â’r grwpiau hyn gan ddefnyddio partneriaethau a grwpiau sydd eisoes yn bodoli, pryd bynnag y bo’n bosibl. Er hynny, cydnabyddir mai union egwyddor grŵp anodd ei gyrraedd yw nad ydynt o bosibl yn cyfranogi mewn grwpiau presennol ac felly, mae’n bosibl na fydd yn bosibl cyflawni hyn bob amser. Bydd cyfryngwyr dibynadwy yn cael eu defnyddio hefyd, fel y bo’n briodol, er mwyn casglu safbwyntiau grwpiau penodol o bobl nad oes ganddynt yr hyder i ymgysylltu’n uniongyrchol yn y broses.

Cymorth Cynllunio Cymru

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn wasanaeth annibynnol sy’n darparu cyngor cynllunio i grwpiau ac unigolion, yn arbennig mewn ardaloedd difreintiedig, yn eu helpu i ddeall y system gynllunio a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal leol. Pan fo’n briodol, byddwn yn gweithio gyda Cymorth Cynllunio ar weithgareddau ymgynghori/hyfforddiant.

Sut y byddwn yn eich cynnwys chi?

Cyhoeddir manylion yr 2il CDLl Newydd sy’n cael ei ddatblygu, a’i brosesau a’i gynnydd, ar wefan y cyngor trwy’r broses gyfan. Byddwn yn ceisio rhoi sylw i’r 2il CDLl Newydd ar bob cam a chyrraedd cymaint o’r gymuned, a rhanddeiliaid eraill, â phosibl, i gynghori pobl ynghylch yr 2il CDLl Newydd a sut y gallant hwy gymryd rhan. Gwneir hyn drwy:

Gwneir hyn drwy:

  • .
  • .
  • .

Sicrhau Consensws

Argaeledd Dogfennau

:

Ymgysylltiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog

Yr hyn a ddisgwyliwn gennych chi

Ymdrin â Sylwadau

Ymdrinnir â sylwadau a dderbynnir o fewn yr amserlenni penodedig i ddilyn llif pob cam o baratoi'r cynllun:

Caiff y sylwadau eu cofnodi a rhoddir rhif i bob sylw;

Anfonir cadarnhad at y sawl a ddarparodd y sylwadau;

Cofnodir sylwadau a manylion y sawl a’u hanfonodd;

Caiff pob sylw dilys ei ystyried, a chaiff ymatebion eu llunio; a

Chaiff ymatebion yr Awdurdod Lleol i sylwadau eu cofnodi a’u cyhoeddi yn unol â'r Rheoliadau.

Sylwadau Hwyr

Mae proses yr 2il CDLl Newydd yn ddarostyngedig i gyfnodau ymgynghori/cyfranogi statudol ac anstatudol sydd â chyfnodau diffiniedig ar gyfer derbyn sylwadau. Mae angen anfon sylwadau erbyn dyddiad cau penodedig y camau ymgynghori hyn er mwyn iddynt gael eu hystyried. Ni fydd unrhyw sylwadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn cael eu hystyried fel rhan o broses yr 2il CDLl Newydd a byddant yn cael eu dosbarthu fel ‘heb eu gwneud yn briodol’ at ddibenion Archwilio’r 2il CDLl Newydd. Mae’r amserlen ar gyfer cynhyrchu’r 2il CDLl Newydd eisoes yn heriol, a gallai derbyn sylwadau hwyr arwain at oedi pellach, a fyddai’n annerbyniol.

Amserlen a Dulliau Ymgysylltu

Camau Diffiniol

Camau Dangosol

Manylion Cyswllt

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor yn:

www.caerfilli.gov.uk/CDLl/CDLl2

Neu, i’r rhai na allant gael mynediad at wefan y Cyngor, gallwch gael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â’r canlynol:

E-bost: cynllundatblygulleol@caerffili.gov.uk

Ffôn: 01443 866777

Tîm Cynllunio Strategol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Tŷ Penallta

Parc Tredomen

Ystrad Mynach

Hengoed

CF82 7PG

Croesewir sylwadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Atodiad 1 – Asesu Risg

Risg Effaith bosibl Lliniaru Tebygolrwydd Effaith
PWYSAU LLEOL
Oedi cyn i geisiadau mawr gael eu cyflwyno hyd nes y mabwysiedir 2il CDLl Newydd. Er y bydd y CDLl Mabwysiedig yn parhau mewn grym hyd nes y caiff yr 2il CDLL newydd ei fabwysiadu, bydd hyn yn oedi ceisiadau mawr rhag cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn effeithio ar allu'r Cyngor i fynd i'r afael â/cyflawni materion ac amcanion yr 2il CDLL newydd ac yn rhoi pwysau ar gyflawni ym maes tai a chyflogaeth. Bydd cynnydd gyda’r 2il CDLl Newydd mewn modd amserol yn sicrhau bod gan y Cyngor 2il CDLl Newydd wedi'i fabwysiadu cyn gynted â phosibl, gan leihau'r goblygiadau negyddol sy'n gysylltiedig â'r oedi cyn i geisiadau mawr gael eu cyflwyno. Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Newid yn yr adnoddau staff sydd ar gael i baratoi'r CDLl diwygiedig. Llithriad yn y rhaglen Sicrhau bod proses y CDLl diwygiedig yn aros yn flaenoriaeth gorfforaethol ar y lefel uchaf. Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Trosiant staff mewn tîm bach Llithriad yn y rhaglen Ystyried adnoddau ychwanegol (gan gynnwys cymorth gan adrannau eraill yn y Cyngor) a sicrhau strwythur cadarn. Tebygolrwydd bach Effaith ganolig
Gostyngiad a diffyg mewn adnoddau ariannol Llithriad yn y rhaglen Sicrhau bod proses baratoi'r cynllun wedi'i chostio'n ddigonol gyda chapasiti mewnol ar gyfer costau annisgwyl. Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Cylch adrodd am benderfyniadau'r Cyngor Llithriad yn y rhaglen Symleiddio gweithdrefnau gwneud penderfyniadau a sicrhau bod yr amserlen yn realistig. Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Newid Gwleidyddol/ Etholiadau Llithriad yn y rhaglen Hyfforddiant cynnar i aelodau Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Diffyg cymorth gan swyddogion/adrannau eraill i gynhyrchu'r sylfaen dystiolaeth Llithriad yn y rhaglen Sicrhau cefnogaeth ledled y sefydliad o'r broses cynllunio a'r amserlen o'r cychwyn cyntaf. Tebygolrwydd sylweddol Effaith sylweddol
Oedi wrth gyfieithu, argraffu a chynhyrchu. Llithriad yn y rhaglen Ystyried adnoddau ychwanegol i gyflawni'r broses yn fewnol Tebygolrwydd canolig Effaith sylweddol
Gwybodaeth annigonol i ymgymryd ag Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol Llithriad yn y rhaglen Nodi a rheoli disgwyliadau cyrff ymgynghori Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig
Goblygiadau'r Arfarniad Cynaladwyedd Integredig/ yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar strategaeth/cynigion y cynllun Llithriad yn y rhaglen Sicrhau bod y broses wedi'i hintegreiddio'n llawn â gwaith paratoi'r CDLl Tebygolrwydd bach Effaith fach
Nifer fawr a/neu lefelau sylweddol iawn o wrthwynebiadau i gynigion e.e. dyraniadau safleoedd Llithriad yn y rhaglen. Ni ellir cyflwyno cynlluniau heb wneud gwaith sylweddol. Sicrhau cyswllt agos a chynnwys y gymuned, cyrff statudol a rhanddeiliaid yn gynnar/yn barhaus drwy gydol proses paratoi'r cynllun Tebygolrwydd sylweddol Effaith ganolig
Cynllun yn methu prawf ‘cadernid’ Ni ellir mabwysiadu cynllun heb gryn dipyn o waith ychwanegol. Sicrhau bod y cynllun a chynnwys y gymuned yn ‘gadarn’.Cyswllt agos ag Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru. Tebygolrwydd bach Effaith sylweddol
Her gyfreithiol Llithriad yn y rhaglen. Diddymu'r CDLl mabwysiedig. Sicrhau gwybodaeth dda o ofynion statudol i sicrhau cydymffurfio Tebygolrwydd bach Effaith sylweddol
Cyfyngiadau symud pellach oherwydd COVID-19 Diffyg cydymffurfio â CCC ac amserlen. Mae staff yn gallu gweithio gartref a byddai ymgynghori ar-lein yn dal yn bosibl. Tebygolrwydd bach Effaith sylweddol
Cynnal ymgynghoriad yn ystod COVID-19. Diogelwch y staff. Diffyg cydymffurfio â CCC ac amserlen. Sicrhau bod digwyddiadau ymgynghori'n cael eu hasesu o ran risg. Adolygu'r CC yn rheolaidd ac ymdrechu i addasu yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ymgynghori effeithiol. Tebygolrwydd bach Effaith ganolig
MATERION CENEDLAETHOL/ RHANBARTHOL
Gofynion ychwanegol sy'n codi o ddeddfwriaeth newydd/canllawiau cenedlaethol e.e. Polisi Cynllunio Cymru diwygiedig a Llawlyfr y CDLl Llithriad yn y rhaglen Monitro deddfwriaeth/ canllawiau sy'n dod i'r amlwg ac ymateb i newidiadau cyn gynted â phosibl. Tebygolrwydd sylweddol Effaith sylweddol
Cyfranogi wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol Llithriad yn y rhaglen. Goblygiadau adnoddau oherwydd nad yw hyd a lled y mewnbwn i'r Cynllun Datblygu Strategol yn hysbys ar hyn o bryd. Sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gynorthwyo proses y Cynllun Datblygu Strategol a sicrhau cymorth corfforaethol i broses y Cynllun Datblygu Strategol a'r amserlen o'r cychwyn cyntaf. Tebygolrwydd sylweddol Effaith ganolig
Arolygiaeth Gynllunio yn methu â chyrraedd y dyddiadau targed Archwiliad a/neu adroddiad yn cael ei ohirio. Cynnal cysylltiad agos â'r Arolygiaeth Gynllunio i sicrhau rhybudd cynnar o unrhyw broblemau posibl Tebygolrwydd canolig Effaith sylweddol
Angen diwygio'r cynllun sy'n dod i'r amlwg i gyd-fynd â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Datblygu Strategol sy'n dod i'r amlwg Llithriad yn y rhaglen Sicrhau cyfranogiad yng nghynnydd gwaith rhanbarthol. Cadw i fyny â chynnydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Tebygolrwydd canolig Effaith ganolig

Atodiad 2 – Rhestr o Gyrff Ymgynghori

Cyrff Ymgynghori Penodol fel y'u diffinnir yn Rheoliad 2 y CDLl (gan gynnwys Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig):

National Grid

Cyngor Cymuned Bedlinog
Cyngor Cymuned Cwmbrân
Cyngor Cymuned Graig
Cyngor Cymuned Ffynnon Taf
Cyngor Cymuned Henllys
Cyngor Cymuned Llaneirwg
Cyngor Cymuned Llanfihangel-y-fedw
Cyngor Cymuned Llys-faen
Cyngor Cymuned Tongwynlais
Cyngor Cymuned Tŷ-du
Cyngor Tref Abertyleri a Llanhiledd
Cyngor Tref Pontypridd
Cyngor Tref Tredegar

Cyrff Ymgynghori Cyffredinol

Cyrff Gwirfoddol y mae eu gweithgareddau o fudd i unrhyw ran o ardal yr awdurdod:

Sefydliadau Cydraddoldeb:

Undeb Bedyddwyr Cymru

Guys and Gals

Menter Iaith Caerffili

RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg

Canolfan Cymraeg i Oedolion @ Coleg Gwent

Mudiad Ysgolion Meithrin

Cymraeg for Kids

Yr Urdd

Ymgynghoreion eraill:

Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru
Bus Users Cymru
Coed Cadw
Coed Cymru
Coleg Gwent
Coleg y Cymoedd
Crisis
Cydffederasiwn Cludwyr Teithwyr
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruComisiynydd y Gymraeg
Cymdeithas Ceffylau Prydain
Cymdeithas Cludiant Cymunedol
Cymdeithas Mannau Agored
Cymorth Cynllunio Cymru
Chwaraeon Cymru
Grŵp Cludo Nwyddau ar y Rheilffyrdd
Gwasanaethau Prisiwr Ardal
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Meysydd Chwarae Cymru
Road Haulage Association Ltd
RSPB Cymru
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Sefydliad Rheoli Siartredig CymruComisiynydd Plant Cymru
Sefydliad Tai Siartredig Cymru
Sefydliad Trafnidiaeth Cludo NwyddauComisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Sefydliad y Peirianwyr Sifil
Shelter Cymru
Stagecoach
Sustrans
Trafnidiaeth Cymru
The Georgian Group
Un Llais Cymru
Uwch Ranbarth Twristiaeth
WWF Cymru
Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru
Ymddiriedolaeth Natur
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholComisiynydd Pobl Hŷn CymruRuperra Conservation Preservation Trust

Cymdeithasau Tai

Adeiladwyr Tai Lleol

Ymgynghorwyr Cynllunio ac Asiantau Cynllunio Lleol

Gwleidyddol gan gynnwys Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol/rhanbarthol

Appendix 3 – Timetable

CAMAU DIFFINIOL
Cyfranogiad Cyn-Adneuo (Rheoliadau 14 & 16)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Cytundeb Cyflenwi Cyflwyno amserlen ar gyfer paratoi’r cynllun a’r prosesau a’r dulliau o sicrhau cyfranogiad cymunedol. Mai – Tachwedd 2024 Cyrff Ymgynghori Penodol Ymgyngoreion CyffredinolGrŵp Ffocws y CDLlAelodau Etholedig Y cyhoeddGrwpiau anodd eu cyrraeddCynghorau Cymuned a Thref E-bost/llythyrGwefanCyfryngau cymdeithasolTaflenni i bob aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol Rhoddir yr holl ddogfennaeth ar wefan y Cyngor
Adolygu a diweddaru’r sylfaen dystiolaeth bresennol Hysbysu’r gwaith o ddatblygu Strategaeth a fframwaith polisi’r 2il CDLl Newydd. Mai – Tachwedd 2024 Swyddogion MewnolALl CyfagosCyrff Ymgynghori YchwanegolYmgynghorwyr Monitro CDLlArolygon Arbenigol/dadansoddiad casglu datacyfarfodydd Adroddiadau Monitro’r CDLlPapurau PwncAdroddiadau Arolwg
Cais am Safleoedd Ymgeisiol Sefydlu’r tir sydd ar gael a pharodrwydd tirfeddianwyr i ryddhau tir i’w ddatblygu er mwyn hysbysu’r broses o nodi safleoedd posibl i’w datblygu. Rhagfyr 2024 - Ionawr 2025 Cronfa ddata rhanddeiliaid yr Ymgynghoriad, gan gynnwys:TirfeddianwyrAsiantauDatblygwyrFfederasiwn Adeiladwyr Cartrefi E-bost/llythyrGwefanCyfryngau cymdeithasolTaflenni i bob aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol
Adolygu’r weledigaeth, yr amcanion a’r opsiynau presennol Datblygu consensws ar opsiynau gan gynnwys lefelau twf a datblygiad gofodol a hysbysu datblygiad y Strategaeth a Ffefrir. Mai – Tachwedd 2024 Aelodau EtholedigGrŵp Ffocws y CDLlBwrdd Gwasanaethau CyhoeddusFforymau Lleol PresennolSwyddogion MewnolYmgyngoreion eraill GweithdaiCyfarfodyddE-bost/llythyr Rhoddir yr holl ddogfennaeth ar wefan y Cyngor
GCI
Adolygu/Diweddaru llinell sylfaen a fframwaith GCI Diweddaru’r wybodaeth sylfaenol a’r fframwaith Mai – Tachwedd 2024 Swyddogion MewnolCyrff Ymgynghori PenodolALl Cyfagos CyfarfodyddE-bost/llythyr Adroddiad fel rhan o Adroddiad Cwmpasu’r GC/AAS
Adroddiad Cwmpasu GCI gan gynnwys Adolygiad o Gynlluniau, Rhaglenni a Pholisïau Perthnasol Cynnwys Ymgyngoreion Statudol yr AAS/GC wrth baratoi’r Adroddiad Cwmpasu Mai – Tachwedd 2024 Swyddogion MewnolCyrff Ymgynghori PenodolALl CyfagosYmgyngoreion Statudol yr AAS/GC E-bost/llythyrGwefan Adroddiad yr Ymgynghoriad
Ymgynghoriad Cyn Adneuo (Rheoliadau 15 ac 16)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Ymgynghoriad Cyhoeddus 6/8 wythnos ar y Strategaeth a Ffefrir ac asesiad o’r sylwadau a dderbyniwyd Sicrhau bod dogfennau perthnasol ar gael ac yn hygyrch ac yn galluogi unrhyw un i wneud sylwadau am ddogfen cyn-adneuo'r Cyngor.Ystyried a oes angen newid y Strategaeth a'r Opsiwn a Ffefrir ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol sy'n dod i'r amlwg. Rhagfyr 2024 – Ionawr 2025 Cyrff Ymgynghori Penodol Ymgyngoreion CyffredinolGrŵp Ffocws y CDLlAelodau EtholedigY CyhoeddFforymau Lleol PresennolGrwpiau anodd eu cyrraeddCynghorau Cymuned a Thref E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefanSesiynau/arddangosiadau galw heibio Lle bo modd, copïau o’r dogfennau cyn-adneuo ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus Adroddiad yr Ymgynghoriad a’r argymhellion i’r Cyngor
Cais am ragor o wybodaeth am Safleoedd Ymgeisiol (lle nas cyflwynwyd yn flaenorol) Nodi safleoedd posibl i’w datblygu a sicrhau gwybodaeth fanwl am safleoedd Mawrth – Erill 2025 Cronfa ddata rhanddeiliaid yr ymgynghoriad, gan gynnwys:TirfeddianwyrAsiantauDatblygwyr Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefan Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol
GCI
Ymgynghoriad 6/8 wythnos ar Adroddiad Cwmpasu GCIa’r Adroddiad Cychwynnol Gwerthuso Cynaliadwyedd Galluogi unrhyw un i wneud sylwadau ar Adroddiad Cwmpasu ac Adroddiad Cychwynnol Gwerthuso Cynaliadwyedd. Rhagfyr 2024 – Ionawr 2025 Cyrff Ymgynghori Penodol Ymgyngoreion CyffredinolGrŵp Ffocws y CDLlAelodau EtholedigY CyhoeddFforymau Lleol PresennolGrwpiau anodd eu cyrraeddCynghorau Cymuned a Thref E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefanSesiynau/arddangosiadau galw heibio Lle bo modd, copïau o’r dogfennau cyn-adneuo ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus Adroddiad yr Ymgynghoriad a’r argymhellion i’r Cyngor
Adnau Statudol o Gynigion (Rheoliad 17)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Ymarfer Ymgynghori Adnau 6/8 wythnos Sicrhau bod y dogfennau perthnasol ar gael ac yn hygyrch ac yn galluogi unrhyw un i wneud sylwadau ynghylch unrhyw bolisïau a chynigion yn yr Ail Gynllun Datblygu Lleol wedi’i Adneuo. Rhagfyr 2025 – Ionawr 2026 Cyrff Ymgynghori PenodolYmgyngoreion CyffredinolGrŵp Ffocws y CDLlAelodau etholedigY cyhoeddFforymau Lleol presennolGrwpiau anodd eu cyrraeddCynghorau Cymuned a Thref E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefanSesiynau/arddangosiadau galw heibio Lle bo modd, copïau o’r dogfennau cyn-adneuo ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus Copi caled o’r sylwadau ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor a chopïau ar gael ar y wefan.Sylwadau i’w cynnwys mewn adroddiad ar yr ymgynghoriad a fydd ar gael ar y wefan,Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i’w hystyried gan yr Arolygydd
GCI
Adroddiad Amgylcheddol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Ymgynghori ar ganfyddiadau’r GCI a’r ARhC Rhagfyr 2025 – Ionawr 2026 Cyrff Ymgynghori PenodolYmgyngoreion CyffredinolGrŵp Ffocws y CDLlAelodau etholedigY cyhoeddFforymau Lleol presennolGrwpiau anodd eu cyrraeddCynghorau Cymuned a Thref E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefanSesiynau/arddangosiadau galw heibio Lle bo modd, copïau o’r dogfennau cyn-adneuo ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus Copi caled o’r sylwadau ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor a chopïau ar gael ar y wefan.Sylwadau i’w cynnwys mewn adroddiad ar yr ymgynghoriad a fydd ar gael ar y wefan,Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i’w hystyried gan yr Arolygydd
CAMAU DANGOSOL
Cyflwyno’r 2il CDLl Newydd i’r Arolygiaeth ar gyfer Archwiliad Annibynnol (Rheoliad 22)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen er mwyn ei gyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru ei Archwilio Ystyried y sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol a darparu ymateb iddyn nhw y gall yr Arolygydd eu hystyried yn yr Arholiad.Rhoi gwybod i'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb am gyflwyno'r Ail Gynllun Datblygu Lleol a'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig, a dogfennau cysylltiedig, i Lywodraeth Cymru. Galluogi archwilio'r Ail Gynllun Datblygu Lleol. Dangosol Tachwedd 2026 Cronfa ddata rhanddeiliaid yr ymgynghoriadAelodau EtholedigSwyddogion Mewnol E-bost/llythyrCyfryngau CymdeithasolGwefanLle bo modd, copïau o’r dogfennau cyn-adneuo ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus
Archwiliad Annibynnol (Rheoliad 23)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Hysbysiad o Archwiliad Annibynnol Sicrhau bod pob unigolyn/sefydliad â diddordeb yn ymwybodol bod Archwiliad Annibynnol yn cael ei gynnal o’r 2il CDLl Newydd. Dangosol Ionawr – Chwefror 2027 Cronfa ddata rhanddeiliad Aelodau EtholedigY Cyhoedd Rhoddir hysbysiad ffurfiol drwy e-bost/llythyr i unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau (a heb eu tynnu’n ôl).Rhoddir yr hysbysiad yn y wasg leol ac ar y wefan. Dim
Cyfarfod Cyn-Archwilio Cynghori ar y gweithdrefnau a’r fformat archwilio. Dangosol Ionawr 2027 Cronfa ddata rhanddeiliad yr ymgynghoriadAelodau EtholedigY Cyheodd E-bost/llythyr at bob CynrychiolyddHysbysiad ar y wefan Datganiadau a Phapurau Tir Cyffredin yn ôl yr angen
Ystyried yr holl sylwadau i’r cynllun gan yr Arolygydd Cynllunio annibynnol a benodwyd i ystyried y dystiolaeth Darparu barn gynllunio ddiduedd ar gadernid yr 2il CDLl Newydd, a’r sylwadau a wnaed mewn cysylltiad ag ef. Ymgymryd ag unrhyw waith pellach sy’n ofynnol gan yr Arolygydd. Dangosol Mawrth – Mai 2027 Yr holl unigolion a sefydliadau â diddordeb sydd wedi gwneud sylwadau yng Ngham Adneuo’r 2il CDLl Newydd. Trafodaethau bord gronGwrandawiadau ffurfiol (os gwneir cais amdanynt a’u bod wedi’u cymeradwyo gan Arolygydd)Sylwadau ysgrifenedig. Adroddiad yr Arolygydd
Publication of the Planning Inspector’s Recommendations (Regulation 24)
Cam yn y broses o baratoi’r 2il CDLl Newydd Diben Amserlen (pryd?) Pwy fydd yn cymryd rhan Sut? Dull Ymgynghori, Dosbarthu a Hysbysu Adrodd, Dosbarthu a Hysbysu
Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd Sicrhau bod Adroddiad yr Arolygydd ar gael i’r cyhoedd. Dangosol Mehefin 2027 Cronfa ddata rhanddeiliaid yr ymgynghoriadAelodau EtholedigY cyhoedd Dogfennau’r 2il CDLl Newydd gan gynnwys y datganiad mabwysiadu a sicrhau bod yr Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd ar gael ar y wefan.Hysbysiad ffurfiol a roddir drwy e-bost/llythyr i Gyrff ymgynghori ac Aelodau Etholedig penodol.Lle bo modd bydd copïau o’r holl ddogfennau perthnasol ar gael yn swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus.Datganiadau i’r Wasg. Dim
GCI
Cyhoeddi’r Adroddiad Amgylcheddol yn ffurfiol Nodi unrhyw addasiadau sy’n deillio o’r Archwiliad Dangosol Mehefin 2027 Cronfa ddata rhanddeiliaid yr ymgynghoriadAelodau EtholedigY cyhoedd Dogfennau’r 2il CDLl Newydd gan gynnwys y datganiad mabwysiadu a sicrhau bod yr Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd ar gael ar y wefan.Hysbysiad ffurfiol a roddir drwy e-bost/llythyr i Gyrff ymgynghori ac Aelodau Etholedig penodol.Lle bo modd bydd copïau o’r holl ddogfennau perthnasol ar gael yn swyddfeydd y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus.Datganiadau i’r Wasg Dim

Atodiad 4 - Rhestr Termau

2il CDLl Newydd Ail Gynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2035
CDLl Mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021
CCG Cynllun Cyfranogiad Cymunedol
CC Cytundeb Cyflenwi
GDPR Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 yr Undeb Ewropeaidd
ARhC Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
GCI Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig
ACGC Adroddiad Cychwynnol Gwerthuso Cynaliadwyedd
CDLI Cynllun Datblygu Lleol
ACLI Awdurdod Cynllunio Lleol
CLILI Cynllun Llesiant Lleol
PPW Polisi Cynllunio Cymru
BGC Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Adroddiad Adolygu Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021
AAS Asesiad Amgylcheddol Strategol
SEWSPG Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru
CCA Canllaw Cynllunio Atodol
GC Gwerthusiad Cynaliadwyedd
AGC Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd
Deddf WBFG Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Atodiad 4 - Diffiniad o Dermau’r Cynllun Datblygu Lleol

Term Definition
Mabwysiadu Cam olaf y gwaith o baratoi’r 2il CDLl Newydd lle bydd yr 2il CDLl Newydd yn cael ei gadarnhau fel y cynllun datblygu statudol ar gyfer yr ardal mae’n ei chwmpasu.
Gwaelodlin Disgrifiad o gyflwr presennol ardal.
Safleoedd Ymgeisiol Safle sydd wedi’i enwebu gan unigolyn sydd â diddordeb mewn tir (h.y. tirfeddiannwr, datblygwr, asiant neu aelod o’r cyhoedd) i’w ystyried i gael ei gynnwys yn yr 2il CDLl Newydd.
Cymuned Pobl sy’n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy’n rhannu buddiannau eraill ac sydd felly’n ffurfio cymunedau o ddiddordeb.
Consensws Proses drafod gynnar gyda grwpiau diddordeb wedi’u targedu i ddeall safbwyntiau perthnasol a sicrhau cytundeb drwy drafodaeth.
Ymgynghoriad Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar fater neu ddogfen benodol.
Cyngor Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Adneuo Cyfnod chwe wythnos statudol lle gall unigolion a sefydliadau wneud sylwadau ar yr 2il CDLl Newydd. Bydd sylwadau sy’n gysylltiedig â pha mor ‘gadarn’ yw’r cynllun yn cael eu hystyried wedi hynny gan Arolygydd yn ystod yr archwiliad i’r cynllun.
A Wnaed yn Briodol Sylwadau, ysgrifenedig, ar yr 2il CDLl Newydd a wneir yn y dull cywir ac o fewn y cyfnod o amser ymgynghori a nodwyd.Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan yr Arolygydd yn yr Archwiliad i’r 2il CDLl Newydd.
Ymgysylltiad Y broses sy’n ceisio cynnwys y gymuned yn rhagweithiol yn y gwaith o baratoi’r 2il CDLl Newydd (gellir cyfnewid hyn gyda “Cyfranogiad”).
Sylfaen Dystiolaeth Gwybodaeth a data sy’n darparu’r sail ar gyfer paratoi gweledigaeth, amcanion, polisïau a chynigion y CDLl ac sy’n cyfiawnhau cadernid dull polisi’r CDLl.
Archwiliad Y broses ffurfiol o ystyried a yw’r 2il CDLl Newydd yn bodloni’r profion cadernid ac y gall y Cyngor ei fabwysiadu’n ffurfiol. Mae’r broses yn cael ei chadeirio gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.
Partïon â Diddordeb Unrhyw berson, grŵp, sefydliad neu gwmni sy’n awyddus i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r 2il CDLl Newydd.
Cyfranogiad Y broses sy’n ceisio cynnwys y gymuned yn rhagweithiol yn y gwaith o baratoi’r 2il CDLl Newydd (gellir cyfnewid hyn gydag “Ymgysylltiad”).
Awdurdodau Cynllunio Lleol Cynghorau Lleol a Pharciau Cenedlaethol â phwerau cynllunio.
Amcan Datganiad o’r hyn sy’n cael ei geisio neu sy’n cael ei gynnig i’w gyflawni.
Cyfranogi Y broses lle bydd rhanddeiliaid yn rhyngweithio gyda llunwyr y cynllun.
Cyn-adneuo Camau paratoi ac ymgynghori ar yr 2il CDLl Newydd hyd at a chan gynnwys yr ymgynghoriad ar y ddogfen Strategaeth a Ffefrir.
Adroddiad yr Ymgynghoriad Dogfen sy’n trafod y sylwadau a gyflwynwyd a’r camau gweithredu sy’n deillio ohonynt.
Sylwadau Sylwadau a dderbyniwyd mewn cysylltiad â’r 2il CDLl Newydd sydd naill ai’n ei gefnogi neu’n ei wrthwynebu.
Cadernid Y cysyniad y profir y cynllun yn ei erbyn i benderfynu a all y cyngor ei fabwysiadu. Ystyrir cadernid drwy 3 phrawf a ddefnyddir gan yr Arolygydd annibynnol ar gyfer yr 2il CDLl Newydd drwy ei archwilio.
Rhanddeiliaid Unrhyw berson, grŵp, sefydliad neu gwmni y mae eu buddiannau’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan 2il CDLl Newydd neu sy’n cyfranogi drwy broses ymgynghori’r 2il CDLl Newydd.
Cyflwyno Y weithred ffurfiol o anfon dogfennau at Lywodraeth Cymru yn ystod camau allweddol o baratoi’r cynllun.
Amserlen Mae’n pennu’r amserlen ar gyfer cyflawni’r 2il CDLl Newydd, gan gynnwys y dyddiadau y disgwylir i gamau a phrosesau allweddol paratoi’r 2il CDLl Newydd gael eu cwblhau.