Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili - Astudiaethau Achos

Mae ein holl gymorth yn ymwneud â'n cyfranogwyr - gallwn weithio gyda chi am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i'ch cyrraedd lle rydych chi eisiau bod. Rydyn ni'n deall y gall hyder a hunan-barch weithiau ei gwneud yn anodd i chi weithio tuag at eich nodau.

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i adeiladu'ch hyder a gwella'ch hunan-barch fel y gallwch chi gyrraedd eich llawn botensial. Cliciwch isod i ddarllen am rai o’r cyfranogwyr rydyn ni wedi’u cynorthwyo hyd yn hyn.

Astudiaeth Achos: Sam

Cafodd Sam ei atgyfeirio at Gymorth Cyflogaeth Caerffili ar ddechrau mis Ionawr 2024 gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (Canolfan Byd Gwaith Coed Duon) a chafodd ei neilltuo i fentor cyflogaeth Cymunedau am Waith a Mwy i gael cymorth i sicrhau cyflogaeth.

Roedd Sam yn hawlio Credyd Cynhwysol ac wrthi’n chwilio am waith ond roedd yn cael trafferth dod o hyd i swydd ar ôl gadael y brifysgol gyda gradd. Roedd mentor Sam yn cynorthwyo Sam gyda hyfforddiant mewn Diogelu, Cymorth Cyntaf a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Roedd cyflawni hyfforddiant cyfredol perthnasol mewn meysydd hanfodol priodol i'r holl sefydliadau yr oedd Sam yn ceisio cyflogaeth ynddyn nhw wedi helpu Sam i lenwi bwlch yn ei CV.

Llwyddodd Sam i basio'r cyrsiau hyfforddi ac roedd cymorth gan ei fentor i ddiweddaru hyn ar ei CV. Roedd Sam a’i fentor cyflogaeth yn cwrdd yn wythnosol ac yn defnyddio’u hamser yn ddoeth mewn apwyntiadau i chwilio am waith yn rheolaidd, gan helpu meithrin hyder Sam mewn cyfweliadau a rhoi arweiniad o ran paratoi ar gyfer cyfweliad.

Ar ôl cyfarfodydd llwyddiannus, mynychodd Sam gyfweliad a chafodd cynnig cyflogaeth yn y Tîm Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Sam yn ymddangos yn llawer mwy hyderus yn mynd i'r gwaith ac mae bellach yn gallu dechrau meithrin ei yrfa yn ei lwybr dewisol.

Adborth gan Sam:- “Fe wnes i fwynhau gweithio gyda JT yng Nghymunedau am Waith a Mwy. Fe wnes i hoffi'r ffaith nad oedden ni'n gwastraffu amser a dechrau ymgeisio am swyddi ochr yn ochr â chyflawni cyrsiau er mwyn i mi allu datblygu fy sgiliau cyflogadwyedd a chael ychydig mwy o bethau i'w hychwanegu at fy CV. Roeddwn i hefyd yn ddiolchgar am yr awgrymiadau a'r syniadau o ran paratoi ar gyfer cyfweliad er mwyn i fi fynd i gyfweliad wedi fy mharatoi'n dda a gwneud fy ngorau mewn cyfweliadau.”

Astudiaeth Achos: Geraint

Mae Rhaglen Cymorth Cyflogaeth Caerffili yn ymgysylltu ag unigolion i'w cynorthwyo a gwella eu rhagolygon am gael swydd yn y dyfodol. Enghraifft dda o hyn yw Geraint Watters, a gofrestrodd ar y rhaglen ym mis Ebrill eleni.

Yn ddiweddar, mae Geraint wedi dewis symud i'r ardal mewn ymgais i dynnu ei hun o gylch o ddewisiadau gwael yn y gorffennol. Roedd Geraint wedi bod i mewn ac allan o'r carchar ers blynyddoedd lawer am droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau, ac roedd angen iddo dorri’n rhydd unwaith ac am byth. Mae Geraint wedi gwneud yn arbennig o dda ac, yn ei eiriau ef, mae 'yn lân ac yn benderfynol o aros felly.'

Gydag ychydig iawn ar ei CV a chyflwr meddygol o'i enedigaeth, nid oedd rhai swyddi'n addas, ond roedd yn benderfynol a chanolbwyntiedig iawn ac eisiau dysgu coginio. Ei ddymuniad yw rhoi yn ôl i'r digartref gan ei fod unwaith yn y sefyllfa honna ei hun. Daeth swydd wirfoddoli ar gael mewn caffi lleol a, gyda chymorth ei gynghorwr o'r prosiect, ymgeisiodd Geraint, cafodd ei gyfweld a chafodd y rôl.

Mae'n mwynhau'r rôl yn fawr ac mae ei adborth yn hynod gadarnhaol. Dywedodd y rheolwr, ‘Mae wedi setlo’n hyfryd; mae’n weithiwr bach gwych ac mor gwrtais ac yn bleser i’w gael ar ein tîm bach.’ Llongyfarchiadau Geraint. Dyma enghraifft wych o rywun sydd wedi newid ei fywyd. Fe ddylech chi fod yn falch iawn ohonoch chi'ch hun!

Case Study Geraint serving cakes

Case Study Geraint clearing tables

Case Study Geraint making hot drinks