Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili - Astudiaethau Achos

Mae ein holl gymorth yn ymwneud â'n cyfranogwyr - gallwn weithio gyda chi am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i'ch cyrraedd lle rydych chi eisiau bod. Rydyn ni'n deall y gall hyder a hunan-barch weithiau ei gwneud yn anodd i chi weithio tuag at eich nodau.

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i adeiladu'ch hyder a gwella'ch hunan-barch fel y gallwch chi gyrraedd eich llawn botensial. Cliciwch isod i ddarllen am rai o’r cyfranogwyr rydyn ni wedi’u cynorthwyo hyd yn hyn.

Astudiaeth Achos Mai 2024: Sam

Cafodd Sam ei atgyfeirio at Gymorth Cyflogaeth Caerffili ar ddechrau mis Ionawr 2024 gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (Canolfan Byd Gwaith Coed Duon) a chafodd ei neilltuo i fentor cyflogaeth Cymunedau am Waith a Mwy i gael cymorth i sicrhau cyflogaeth. 

Roedd Sam yn hawlio Credyd Cynhwysol ac wrthi’n chwilio am waith ond roedd yn cael trafferth dod o hyd i swydd ar ôl gadael y brifysgol gyda gradd. Roedd mentor Sam yn cynorthwyo Sam gyda hyfforddiant mewn Diogelu, Cymorth Cyntaf a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Roedd cyflawni hyfforddiant cyfredol perthnasol mewn meysydd hanfodol priodol i'r holl sefydliadau yr oedd Sam yn ceisio cyflogaeth ynddyn nhw wedi helpu Sam i lenwi bwlch yn ei CV. 

Llwyddodd Sam i basio'r cyrsiau hyfforddi ac roedd cymorth gan ei fentor i ddiweddaru hyn ar ei CV. Roedd Sam a’i fentor cyflogaeth yn cwrdd yn wythnosol ac yn defnyddio’u hamser yn ddoeth mewn apwyntiadau i chwilio am waith yn rheolaidd, gan helpu meithrin hyder Sam mewn cyfweliadau a rhoi arweiniad o ran paratoi ar gyfer cyfweliad.

Ar ôl cyfarfodydd llwyddiannus, mynychodd Sam gyfweliad a chafodd cynnig cyflogaeth yn y Tîm Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Sam yn ymddangos yn llawer mwy hyderus yn mynd i'r gwaith ac mae bellach yn gallu dechrau meithrin ei yrfa yn ei lwybr dewisol.

Adborth gan Sam:- “Fe wnes i fwynhau gweithio gyda JT yng Nghymunedau am Waith a Mwy. Fe wnes i hoffi'r ffaith nad oedden ni'n gwastraffu amser a dechrau ymgeisio am swyddi ochr yn ochr â chyflawni cyrsiau er mwyn i mi allu datblygu fy sgiliau cyflogadwyedd a chael ychydig mwy o bethau i'w hychwanegu at fy CV. Roeddwn i hefyd yn ddiolchgar am yr awgrymiadau a'r syniadau o ran paratoi ar gyfer cyfweliad er mwyn i fi fynd i gyfweliad wedi fy mharatoi'n dda a gwneud fy ngorau mewn cyfweliadau.”

ARC Plant & Civils Training – Astudiaeth Achos Ionawr 2024 - Rachel Jenkins

Mae Rachel yn berson ifanc lleol sy'n llawn bywyd ac yn awyddus i ddod o hyd i waith yn y maes cywir. Dangosodd Rachel ddiddordeb mewn cwrs gan y ganolfan hyfforddi, ARC Plant & Civils Training, a gafodd ei hysbysu ar gyfryngau cymdeithasol Cymorth Cyflogaeth Caerffili ym mis Ionawr 2024. Roedd gan Rachel brofiad blaenorol o weithio yn y maes adeiladu, ond oherwydd rhesymau personol, nid oedd wedi bod mewn sefyllfa i adnewyddu ei thocynnau blaenorol ac wedi colli rhywfaint o hyder. Hefyd, roedd Rachel yn dymuno ennill tocynnau ychwanegol i helpu ehangu ei chyfleoedd gyrfa hi.

Cofrestrodd Rachel gyda rhaglen Cymorth Cyflogaeth Caerffili a chafodd mentor ei ddyrannu iddi a fydd yn ei helpu a'i harwain hi drwy geisiadau am swyddi ac unrhyw gyrsiau addas sydd eu hangen.

Llwyddodd Rachel i gael lle ar gwrs Rholiwr Reidio a Lori Godi Tipio Blaen ARC Plant & Civils Training. Cafodd y cwrs hwn ei gynnal yn chwarel hyfforddi ARC Plant & Civils Training yn Llanhari, lle cafodd Rachel brofiad o sut i weithredu yn ddiogel lori godi tipio blaen a rholiwr reidio. Wrth gymryd rhan yn yr hyfforddiant, daeth cyflogwyr eraill i'r safle i arsylwi ar gynnydd Rachel gyda'r peirianwaith er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth pellach. Cwblhaodd Rachel y cwrs yn llwyddiannus, pasiodd ei phrofion ymarferol i'r safon ofynnol a chafodd cerdyn y Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) dilys ei roi iddi i ddangos ei bod yn weithredwr cymwys.

Rhoddodd Rachel ganmoliaeth uchel a diolch i ddarparwyr ARC am eu harbenigedd, eu hamynedd, eu lletygarwch, a’r amser maen nhw wedi’i roi iddi hi. Ers hynny, mae Rachel wedi cael cyllid ychwanegol drwy'r cynllun, AilGychwyn, ac mae'n dychwelyd i ARC yr wythnos nesaf i ddilyn cwrs Gweithrediadwr Tryc Cymalog ac mae wedi gwneud cais i ddilyn cwrs Llwythwr Telesgopig hefyd. Hoffai Rachel ennill tocynnau i weithredu Cloddiwr 360 a Pheiriant Rhaw Llwytho yn y dyfodol ac mae'n awyddus iawn i ennill profiad ychwanegol a dod yn weithredwr aml-docynnau yn y diwydiant Sifil a Pheiriannau. Roedd Rachel yn awyddus i ddweud wrth ei ffrindiau am ei phrofiad cyffredinol a bydd yn eu hannog nhw i ymuno â Rhaglen Cymorth Cyflogaeth Caerffili. 

Fe wnaethom ni ofyn i Rachel beth mae hi'n ei feddwl am y gwasanaeth mae Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili wedi'i ddarparu a'i barn am y cyfle a gafodd hi. Canmolodd Rachel y cymorth mae Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili wedi'i roi iddi hi a diolchodd iddyn nhw am y cymorth a'r arweiniad. Teimlai Rachel ei bod hi'n cael ei chynorthwyo'n fawr a byddai'n argymell y gwasanaethau i unrhyw un sy'n chwilio am waith. Ychwanegodd Rachel ei bod hi'n teimlo’n fwy hyderus ac yn ddiolchgar am y cyfle. Mae'r cymorth hwn wedi rhoi “cyfle gwerthfawr mewn bywyd” iddi hi.