Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Yn Datgelu Amserlen Digwyddiadau Cyffrous 2025
Postiwyd ar : 17 Medi 2024
Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyflwyno ei amserlen digwyddiadau 2025, sy'n cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau diddorol sydd wedi'u cynllunio i ddarparu rhywbeth i bawb. Mae digwyddiadau yn amhrisiadwy i’n cymuned er mwyn gyrru nifer yr ymwelwyr i ganol trefi a chefnogi busnesau lleol.
Yn ystod y rhaglen eleni bydd nifer o ddigwyddiadau poblogaidd yn dechrau yn ystod y gwanwyn nesaf.
Ffair y Gwanwyn, Coed Duon |
Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025 |
Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach |
Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025 |
Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili |
Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025 |
Ffair Fai, Bargod |
Dydd Sadwrn 3 Mai 2025 |
Ras 10 Cilomedr Caerffili |
Dydd Sul 11 Mai 2025 |
Parti Traeth, Rhisga |
Dydd Sadwrn 7 Mehefin a dydd Sul 8 Mehefin 2025 |
Parti Traeth, Coed Duon |
Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025 |
Pride Caerffili |
Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2025 |
Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod |
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2025 |
Gŵyl Caws Caerffili |
Dydd Sadwrn 30 Awst a dydd Sul 31 Awst 2025 |
Gŵyl Fwyd Rhisga |
Dydd Sadwrn 20 Medi 2025 |
Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach |
Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025 |
Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod |
15 Tachwedd a 22 Tachwedd 2025 |
Ffair y Gaeaf, Coed Duon |
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025 |
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni |
22/23/29/30 Tachwedd 2025 |
Ffair y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni |
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025 |
Ffair y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni a Sioe Tân Gwyllt |
Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025 |
Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd,
“Mae ein rhaglen ddigwyddiadau wedi denu dros 85,000 o ymwelwyr i drefi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili eleni.
Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig yn diddanu ymwelwyr ond hefyd yn cefnogi busnesau lleol trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr. Rydw i’n ddiolchgar i’r noddwyr, partneriaid, cynghorau tref a’r gymuned leol am eu cymorth amhrisiadwy, sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.
Gwnewch gais nawr am eich stondin eich hun! Os oes gennych chi ddiddordeb, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk i gael ffurflen gais.
Cadwch y dyddiadau er mwyn bod yn rhan o'r flwyddyn anhygoel sydd i ddod! I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan ni: https://www.visitcaerphilly.com/cy/